Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 1: gweld pam eich bod yn cael eich trin yn annheg

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r gyfraith yn dweud na allwch gael eich trin yn annheg neu’n wahanol oherwydd pwy ydych chi, er enghraifft, os ydych chi’n fenyw neu’n anabl. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at hyn fel bod â ‘nodwedd warchodedig’.

Ni allwch gael eich trin yn annheg am y rhesymau canlynol chwaith:

  • rydych wedi herio gwahaniaethu o’r blaen
  • nodwedd warchodedig rhywun arall
  • mae rhywun arall yn meddwl bod gennych nodwedd warchodedig, ond nid yw hynny’n wir

Mae’n bosibl na fydd y cysylltiad rhwng y driniaeth annheg a nodwedd warchodedig yn amlwg. Er enghraifft, gall eich cyflogwr benderfynu peidio â chyflogi rheolwyr os na allant weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau. Gall hyn wahaniaethu yn erbyn menywod am eu bod yn fwy tebygol o fod ag ymrwymiadau gofal plant sy’n eu hatal rhag gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Gallech gael eich trin yn annheg oherwydd mwy nag un nodwedd warchodedig – gallwch weithredu ynghylch mwy nag un.

Dyma’r nodweddion gwarchodedig sydd wedi’u cynnwys yn adrannau 5 i 18 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

Oedran

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu am fod:

  • yn hen neu’n ifanc
  • mewn grŵp oedran penodol – fel 15-18 oed neu o dan 60 oed
  • o oedran penodol – fel 40 oed

Mae adran 5 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio oedran.

Anabledd

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn ar gyfer anabledd sydd gennych ar hyn o bryd ac unrhyw anableddau rydych chi wedi gwella ohonynt. Gallai anabledd fod yn gorfforol neu’n feddyliol - gallech gael eich amddiffyn hyd yn oed os nad ydych yn ystyried eich hun yn anabl.

Dylech gadarnhau a yw’ch anabledd wedi’i gynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd.

Ailbennu rhywedd

Mae’r gyfraith yn berthnasol i 'ailbennu rhywedd' – sef unigolion trawsryweddol.

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn:

  • os ydych chi’n bwriadu ailbennu’ch rhywedd – nid yw’n ofynnol eich bod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol
  • os ydych chi yn y broses o ailbennu’ch rhywedd
  • os ydych chi eisoes wedi ailbennu’ch rhywedd

Os ydych chi’n arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych yn ailbennu’ch rhywedd, gallai’r gyfraith fod yn berthnasol i chi, ond mae’n gymhleth. Bydd angen i chi ofyn am gyngor arbenigol cyn mynd ymhellach.

Mae adran 7 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio ailbennu rhywedd.

Priodas a phartneriaeth sifil

Mae’r gyfraith yn berthnasol i chi os ydych chi’n briod yn ôl y gyfraith, neu mewn partneriaeth sifil. Byddwch yn cael eich amddiffyn o hyd os ydych chi wedi gwahanu ond nad yw’ch priodas neu’ch partneriaeth sifil wedi’i diddymu’n gyfreithiol.

Ni fydd y gyfraith yn berthnasol os ydych:

  • yn sengl
  • wedi dyweddïo
  • wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi’i diddymu
  • yn byw gyda rhywun fel cwpwl
  • yn weddw

Mae adran 8 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio priodas a phartneriaethau sifil.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Mae’r gyfraith yn berthnasol os ydych yn feichiog neu os ydych ar absenoldeb mamolaeth. Mae hyn yn cynnwys absenoldeb mamolaeth arferol neu ychwanegol.

Os nad oes gennych hawl i absenoldeb mamolaeth, bydd y gyfraith yn berthnasol am 2 wythnos ar ôl yr enedigaeth, gan gynnwys marw-enedigaethau. Cyfeirir at yr amser hwn fel y ‘cyfnod gwarchodedig’.

Bydd y gyfraith yn berthnasol hefyd os yw’ch cyflogwr yn gwneud penderfyniad yn ystod eich cyfnod gwarchodedig sydd ddim yn effeithio arnoch tan ar ôl i’r cyfnod ddod i ben. Er enghraifft, yn ystod eich absenoldeb, gallai’ch cyflogwr benderfynu na allwch ddychwelyd i’r gwaith, ond nid yw’n rhoi gwybod i chi nes bod eich absenoldeb mamolaeth wedi dod i ben.

Os yw’ch absenoldeb mamolaeth wedi dod i ben, mae’n bosib y gallech wneud hawliad gwahaniaethu ar sail rhyw o hyd. Dylech barhau i edrych i weld a yw’ch problem yn achos o wahaniaethu.

Mae adran 18 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio beichiogrwydd a mamolaeth.

Hil

Mae hyn yn cynnwys:

  • lliw – er enghraifft, os ydych chi’n ddu neu’n wyn
  • cenedligrwydd
  • tarddiad ethnig – er enghraifft, os ydych chi’n Sipsi Romani
  • tarddiad cenedlaethol – gallai hwn fod yn wahanol i’ch cenedligrwydd, er enghraifft os yw’ch teulu’n dod o India ond bod gennych chi basbort Prydeinig

Os nad ydych chi’n siŵr beth mae hil yn ei olygu, gallwch ddarllen disgrifiad manylach ym mhennod 2 o God Ymarfer ar Gyflogaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae adran 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio hil.

Crefydd neu gredo

Mae hyn yn cynnwys:

  • perthyn i grefydd cyfundrefnol, er enghraifft os ydych chi’n Iddew
  • os oes gennych gred grefyddol, er enghraifft bod angen i chi weddïo ar amseroedd penodol
  • os nad oes gennych grefydd, fel bod yn anffyddiwr
  • eich credoau athronyddol, fel bod yn heddychwr 

Mae adran 10 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio crefydd neu gredo.

Rhyw

Mae hyn yn ymwneud ag a ydych chi’n ddyn neu’n fenyw.

Os ydych yn arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych yn ailbennu’ch rhywedd, gallai’r gyfraith fod yn berthnasol i chi, ond mae’n gymhleth. Bydd angen i chi ofyn am gyngor arbenigol cyn mynd ymhellach.

Mae adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio rhyw.

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae’r gyfraith yn berthnasol os ydych chi’n hoyw, yn lesbiad, yn heterorywiol neu’n ddeurywiol.

Mae adran 12 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio cyfeiriadedd rhywiol.

Os yw’ch problem yn ymwneud â mwy nag un nodwedd warchodedig

Gallwch gymryd camau ynghylch mwy nag un nodwedd warchodedig, neu ddewis y nodweddion y mae gennych y dystiolaeth orau ar eu cyfer.

Os ydych chi’n gweithredu ynghylch cyfuniad o nodweddion gwarchodedig, mae’n rhaid i chi gyflwyno achos ar wahân ar gyfer pob un. Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich gwahaniaethu yn eich erbyn achos eich bod yn fenyw ddu, byddai’n rhaid i chi nodi gwahaniaethu ar sail hil a gwahaniaethu ar sail rhyw yn eich hawliad.

Os nad yw’ch problem yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig

Gallai fod yn achos o wahaniaethu o hyd os ydych chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd:

  • nodwedd warchodedig rhywun arall
  • bod rhywun yn meddwl bod gennych nodwedd warchodedig, ond nid yw hynny’n wir 

Os ydych chi’n cael eich trin yn annheg achos eich bod wedi cwyno am wahaniaethu o’r blaen

Gallai fod yn achos o wahaniaethu hyd yn oed os nad yw’r driniaeth annheg yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig. Os ydych wedi herio gwahaniaethu o’r blaen, neu wedi helpu rhywun arall i herio gwahaniaethu, gallai fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn ‘erledigaeth’.

Camau nesaf

Os nad yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i’ch sefyllfa, gallech siarad â’ch cyflogwr neu wneud cwyn ffurfiol - datrys eich problem heb ddefnyddio’r gyfraith yn ymwneud â gwahaniaethu.

Mae rhagor o wybodaeth am y nodweddion gwarchodedig ar gael ym mhennod 2 Cod Ymarfer ar Gyflogaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Os ydych chi’n meddwl bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn berthnasol i’ch sefyllfa chi, ewch i gam 2.

Previous Step 2
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.