Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cadarnhau a ydych wedi cael eich diswyddo'n annheg

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych yn cael eich diswyddo, gallech gael sioc enfawr a theimlo annhegwch yn aml. Y term cyfreithiol am golli'ch swydd yw 'diswyddo’.

Caniateir i'ch cyflogwr ddiswyddo pobl, ond os yw'n gwneud hynny'n annheg gallwch herio eich diswyddiad.

Er mwyn canfod a yw eich diswyddiad yn annheg, bydd angen i chi gadarnhau:

  • beth yw eich 'statws cyflogaeth' - mae eich hawliau'n dibynnu ar a ydych yn weithiwr cyflogedig ai peidio
  • am faint o amser rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr - fel arfer dim ond os ydych wedi gweithio yno am 2 flynedd neu fwy y gallwch herio diswyddiad
  • a yw'r gyfraith yn dweud bod y rheswm dros eich diswyddiad yn annheg

Bydd angen i chi weithredu'n gyflym i gadarnhau'ch sefyllfa - mae'n rhaid i chi ddechrau camau gweithredu mewn achos o ddiswyddiad annheg ymhen 3 mis namyn diwrnod ers diwrnod olaf eich cyflogaeth.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw adeg.

I gadarnhau a allwch wneud unrhyw beth i herio eich diswyddiad, dilynwch y 4 cam hyn:

1. Cadarnhau eich bod wedi cael eich diswyddo mewn gwirionedd

Ni allwch herio diswyddiad os na allwch ddangos ei fod wedi digwydd mewn gwirionedd. Rydych wedi cael eich diswyddo os yw eich cyflogwr wedi gwneud unrhyw un o'r canlynol:

  • terfynu eich contract cyflogaeth, gyda rhybudd neu heb rybudd
  • gwrthod adnewyddu eich contract cyfnod penodol
  • wedi dileu eich swydd, gan gynnwys diswyddiad gwirfoddol
  • wedi eich diswyddo am fynd ar streic
  • wedi eich atal rhag dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth

Bydd angen tystiolaeth i ddangos eich bod wedi'ch diswyddo, fel llythyr terfynu swyddogol, neu negeseuon e-bost a negeseuon testun gan eich cyflogwr.

Nid ydych wedi cael eich diswyddo os ydych:

  • wedi cael eich atal dros dro o'ch gwaith
  • wedi dewis ymddiswyddo

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth os ydych wedi ymddiswyddo naill ai oherwydd:

  • eich bod wedi ymddiswyddo yn dilyn pwysau gan eich cyflogwr
  • mae eich cyflogwr wedi gwneud rhywbeth a oedd yn torri eich contract mewn ffordd ddifrifol ac nad oeddech am ei dderbyn

Gallai'r naill neu'r llall gael eu hystyried yn fath o ddiswyddiad a elwir yn 'diswyddo deongliadol’.

2. Cadarnhau eich 'statws cyflogaeth’

Ystyr eich 'statws cyflogaeth' yw a ydych yn weithiwr cyflogedig, yn weithiwr neu'n hunangyflogedig.

Ni allwch hawlio diswyddiad annheg os nad ydych yn weithiwr cyflogedig - mae hyn yn cynnwys gweithwyr cyflogedig rhan-amser a chyfnod penodol.

Yn anffodus, nid oes gennych unrhyw hawliau i herio eich diswyddiad os yw eich statws cyflogaeth yn un o'r canlynol:

  • hunangyflogedig
  • gweithiwr asiantaeth neu'n cael eich ystyried yn 'weithiwr’
  • swyddog heddlu neu'n aelod o'r lluoedd arfog
  • gweithiwr dociau cofrestredig
  • gweithio dramor neu i lywodraeth dramor
  • yn bysgotwr sy'n rhannu incwm o werthu pysgod

Gallwch gadarnhau eich statws cyflogaeth ar GOV.UK - os yw'n ymddangos eich bod yn weithiwr cyflogedig, dylai bod gennych hawliau diswyddo annheg.

Weithiau nid yw'n glir a ydych yn weithiwr cyflogedig. Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn dweud eich bod yn hunangyflogedig neu'n 'weithiwr' er mwyn osgoi rhoi eich holl hawliau i chi yn y gwaith.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os oes angen cymorth arnoch neu os ydych yn meddwl nad ydych yn derbyn eich holl hawliau.

Os nad oes gennych hawliau diswyddo, gallwch barhau i ofyn i'r sefydliad rydych yn gweithio iddo ailystyried eich diswyddiad.

Os ydych yn penderfynu peidio â gofyn am gael eich swydd yn ôl, y peth gorau i'w wneud yw paratoi ar gyfer yr hyn sy'n digwydd nesaf a dod o hyd i swydd arall.

3. Cadarnhau eich bod wedi cael eich diswyddo am reswm annheg

Dylai eich cyflogwr ddweud wrthych pam ei fod yn eich diswyddo. Os ydych yn feichiog neu os ydych wedi gweithio yno am o leiaf 2 flynedd, mae gennych yr hawl i gael esboniad ysgrifenedig ar ffurf llythyr neu neges e-bost.

Mae'r gyfraith yn dweud ei bod bob amser yn annheg os ydych yn cael eich diswyddo oherwydd:

  • rheswm sy'n 'annheg yn awtomatig'
  • gwahaniaethu

Gallwch herio eich diswyddiad os yw wedi deillio o un o'r rhesymau uchod, neu'r ddau reswm.

Os nad oes gennych esboniad ysgrifenedig 

Gofynnwch i'ch cyflogwr am esboniad ysgrifenedig cyn gynted â phosibl os nad yw wedi rhoi un i chi. Mae'n well cyflwyno cais ysgrifenedig am hyn er mwyn profi pryd y gwnaethoch ofyn am esboniad.

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr anfon esboniad ysgrifenedig atoch o fewn pythefnos i'ch cais. Gallai fod o gymorth i chi hysbysu'ch cyflogwr am hyn adeg gwneud y cais - nid yw pob cyflogwr yn gwybod am y rheol hon.

Gallwch ofyn am esboniad am eich diswyddiad hyd yn oed os nad oes gennych hawl i esboniad o'r fath - nid oes rhaid i'ch cyflogwr gytuno.

Os nad ydych yn deall yr esboniad ysgrifenedig

Dywedwch wrth eich cyflogwr os na allwch ddeall eich esboniad ysgrifenedig - er enghraifft:

  • os yw'r rhesymau wedi'u hysgrifennu mewn iaith gyfreithiol
  • os yw'r esboniad yn cyfeirio at ddogfen arall, megis contract, ond nid yw'n cynnwys copi ohono

Dylai eich cyflogwr ddarparu digon o wybodaeth i'ch helpu i ddeall eich esboniad ysgrifenedig. Nid oes rhaid iddo gynnwys yr holl fanylion na'i holl dystiolaeth.

Os ydych yn credu bod yr esboniad ysgrifenedig yn anghywir neu'n annheg, mae'n bosibl eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg.

Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi esboniad ysgrifenedig i chi

Gofynnwch i'ch cyflogwr pam nad yw wedi rhoi esboniad ysgrifenedig i chi yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • nid yw'n rhoi esboniad i chi o fewn pythefnos i'ch cais
  • mae'n gwrthod rhoi esboniad i chi

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych yn anfodlon ag ymateb eich cyflogwr.

Cadarnhau a yw'n rheswm sy'n 'annheg yn awtomatig'

Bydd yn 'annheg yn awtomatig' bob tro os ydych yn cael eich diswyddo am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:

  • rydych yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
  • rydych wedi gofyn am eich hawliau cyfreithiol yn y gwaith, e.e. i dderbyn isafswm cyflog
  • rydych wedi gweithredu ynghylch mater iechyd a diogelwch
  • rydych yn gweithio mewn siop neu siop fetio a'ch bod wedi gwrthod gweithio ddydd Sul
  • rydych yn aelod o undeb llafur a'ch bod wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau'r undeb gan gynnwys gweithredu diwydiannol swyddogol, neu wedi gweithredu fel cynrychiolydd gweithiwr cyflogedig
  • rydych wedi rhoi gwybod i rywun arall am gamymddwyn eich cyflogwr, a elwir yn chwythu'r chwiban

Os ydych chi wedi cael eich diswyddo'n annheg yn ystod y 7 diwrnod diwethaf

Efallai y gallwch gael eich cyflogwr i barhau i dalu'ch cyflog os ydych chi wedi cael eich diswyddo'n annheg am rai rhesymau, fel:

  • iechyd a diogelwch
  • chwythu'r chwiban

Dylech siarad ag ymgynghorydd am help.

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd pan ddaw eich swydd i ben, mae'n annheg yn awtomatig hefyd os ydych yn cael eich diswyddo am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:

  • roedd y busnes wedi'i drosglwyddo i gyflogwr arall
  • ni wnaethoch ddatgan euogfarn wedi'i disbyddu

Gall eich cyflogwr eich diswyddo os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau hyn - ond ni all hynny fod yn rheswm am eich diswyddo.

Nid yw'n glir bob amser a ydych wedi cael eich diswyddo am un o'r rhesymau hyn, felly mae’n syniad da cysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.

Ceisiwch ganfod a ydych wedi dioddef gwahaniaethu

Hefyd, gallwch herio eich diswyddiad os yw'n deillio o'r ffaith bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.

Gallai fod yn achos o wahaniaethu os ydych yn meddwl eich bod wedi'ch diswyddo am unrhyw un o'r rhesymau canlynol:

  • rydych yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
  • rydych yn aelod o hil, ethnigrwydd neu wlad benodol
  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • rydych yn ddyn neu'n fenyw
  • rydych yn anabl
  • rydych yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol 
  • rydych yn unigolyn trawsryweddol
  • mae gennych grefydd benodol neu set benodol o gredoau
  • rydych yn hŷn neu'n iau na'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw

Gall eich cyflogwr eich diswyddo os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau hyn - ond ni all hynny fod yn rheswm am eich diswyddo. 

Yn ymarferol, mae'n bosibl na fydd eich cyflogwr yn rhoi rheswm gonest i chi am eich diswyddo. Mae'n syniad da gofyn i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth os ydych chi’n meddwl y gallai’r rheswm gwirioneddol fod yn annheg yn awtomatig, neu'n achos gwahaniaethu. Gallwch gadarnhau a yw eich problem yn y gwaith yn achos gwahaniaethu.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich diswyddo am reswm sy'n annheg yn awtomatig, neu am reswm sy'n achos gwahaniaethu, gallwch herio eich diswyddiad – waeth am faint o amser y buoch yn gweithio yno.

Os cawsoch eich diswyddo am reswm gwahanol a'ch bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am lai na 2 flynedd, nid oes gennych yr hawl i herio'r diswyddiad. Gallai hyn ymddangos yn annheg, ond y peth gorau i'w wneud yw cynllunio ar gyfer yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi gael eich diswyddo.

Materion cyffredin

Os ydych ar absenoldeb mamolaeth

Mae llawer o bobl yn meddwl na allwch gael eich diswyddo yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth.

Mewn gwirionedd, gall eich cyflogwr eich diswyddo yn ystod absenoldeb mamolaeth, ond ni all hynny fod yn rheswm am eich diswyddo.

Mae gennych hawl i ddychwelyd i'ch swydd ac eithrio yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn cael eich diswyddo ac nid oes unrhyw waith amgen addas ar gael i chi
  • rydych wedi bod yn absennol am fwy na 6 mis ac nid yw'n bosibl dychwelyd i'ch hen swydd - yn y sefyllfa hon rhaid i'ch cyflogwr gynnig gwaith amgen addas i chi
  • rydych wedi torri telerau eich contract - er enghraifft drwy weithio i sefydliad arall fel gweithiwr cyflogedig ar yr un pryd â derbyn tâl mamolaeth gan eich cyflogwr presennol

Dylech gadarnhau a yw eich diswyddiad yn ddilys ac yn deg os ydych yn cael eich diswyddo yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth.

Os ydych yn cael eich diswyddo yn ystod absenoldeb mamolaeth neu'n fuan ar ôl dychwelyd i'r gwaith, gofynnwch i'ch cyflogwr cyn gynted â phosibl pam eich bod yn cael eich diswyddo. Hefyd, dylech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.

Os ydych yn gweithio ar sail cyfnod prawf

Yn aml, mae eich wythnosau neu fisoedd cyntaf mewn swydd yn cael eu disgrifio fel 'cyfnod prawf’. Nid oes gennych unrhyw hawliau cyfreithiol penodol yn ystod cyfnod prawf.

Gallwch gael eich diswyddo ar ôl cael wythnos o rybudd yn ystod cyfnod prawf - neu gall y cyfnod rhybudd fod yn hirach os yw eich contract yn nodi hynny.

Darllenwch eich contract i weld beth mae'n ei ddweud am eich cyfnod prawf a phryd y gallwch gael eich diswyddo.

Os yw eich cyflogwr yn eich diswyddo am nad yw'n hapus gyda'ch gwaith, gofynnwch iddo a fydd yn ymestyn eich cyfnod prawf neu'n rhoi hyfforddiant ychwanegol i chi fel y gallwch wneud eich gwaith yn well. Fodd bynnag, nid oes rhaid iddo gytuno i hynny, a does dim byd i'w atal rhag eich diswyddo. Efallai bod yr amser wedi dod i chwilio am swydd arall.

Os oes gennych gontract cyfnod penodol

Mae gennych gontract cyfnod penodol os yw eich swydd yn dod i ben ar ddyddiad penodol neu pan fydd prosiect penodol wedi'i gwblhau.

Gallwch gael eich diswyddo cyn diwedd contract cyfnod penodol os yw eich contract yn nodi hynny. Fe gewch chi wythnos o rybudd fel arfer, oni bai eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am ddwy flynedd, neu fod eich contract yn dweud bod gennych hawl i fwy o rybudd.

Gallwch gael eich diswyddo ar ddiwedd y contract cyfnod penodol cyn belled â bod eich cyflogwr yn gweithredu mewn ffordd deg.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os yw eich cyflogwr yn ceisio eich diswyddo cyn diwedd eich contract heb roi rhybudd priodol i chi.

Darllenwch fwy am yr hyn y gallwch ei wneud ar ôl cael eich diswyddo.

4. Cadarnhau a ydych wedi cael eich diswyddo am reswm a allai fod yn deg

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd pan ddaw eich swydd i ben, mae angen rheswm teg cyn eich diswyddo.

Mae 5 rheswm cyfreithiol dros ddiswyddo sy'n 'deg o bosibl’. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn deg eich diswyddo am y rhesymau canlynol:

  • nid ydych yn gallu gwneud eich gwaith - er enghraifft oherwydd bod eich perfformiad yn wael neu oherwydd absenoldeb salwch rheolaidd
  • rydych wedi ymddwyn yn wael - cyfeirir at hyn fel camymddwyn neu, ar gyfer pethau fel trais neu weithgarwch troseddol, camymddwyn difrifol
  • mae rheswm cyfreithiol pam na all eich cyflogwr barhau i'ch cyflogi - fel arfer mae hyn yn golygu eich bod wedi colli'r hawl i weithio yn y DU
  • mae eich rôl wedi'i dileu- bydd angen i chi edrych ar reolau gwahanol i gadarnhau a yw'n deg
  • 'rheswm sylweddol arall'- nid yw hyn wedi'i nodi yn y gyfraith, ond mae'n golygu bod yn rhaid i'ch cyflogwr ddangos bod ganddo reswm da dros eich diswyddo

Bydd rhywfaint o ansicrwydd o hyd - bydd holl fanylion eich achos unigol yn penderfynu a yw eich diswyddiad yn deg mewn gwirionedd, er enghraifft:

  • a yw eich cyflogwr wedi eich trin yn yr un modd â gweithwyr cyflogedig eraill mewn sefyllfaoedd tebyg
  • a yw eich cyflogwr wedi ceisio eich helpu i oresgyn unrhyw broblemau, er enghraifft drwy ddarparu mwy o hyfforddiant i gynorthwyo eich perfformiad
  • a yw eich cyflogwr wedi dilyn gweithdrefn deg i ymchwilio i unrhyw broblemau a phenderfynu a ddylid eich diswyddo

Dylech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i asesu a allech gyflwyno hawliad.

Os ydych yn cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol

Os ydych yn cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol, nid oes gennych hawl i gyfnod rhybudd. Fodd bynnag, dylai eich cyflogwr ymchwilio i'r achos o gamymddwyn cyn penderfynu eich diswyddo.

Nid yw'n anarferol i gyflogwr sy'n diswyddo rhywun am gamymddwyn difrifol geisio osgoi  rhoi rhybudd a thalu tâl rhybudd. 

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth ar unwaith os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo'n annheg am gamymddwyn difrifol. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud hawliad am dorri contract (a elwir yn 'diswyddo ar gam'), sy'n wahanol i hawlio diswyddo annheg. Dylech weithredu'n gyflym, gan y gallai unrhyw fuddion rydych chi'n eu derbyn cael eu hatal os ydych wedi'ch diswyddo am gamymddwyn difrifol.

Cymorth ychwanegol

Gallech gysylltu ag undeb llafur hefyd os oes un yn y gwaith. Gall eich undeb eich helpu i gadarnhau a oes modd i chi wneud hawliad, a'ch cefnogi drwy'r broses, er enghraifft drwy fynychu cyfarfodydd gyda chi neu drafod ar eich rhan.

Beth bynnag rydych chi am ei wneud nesaf, mae'n syniad da meddwl am baratoi ar gyfer yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi gael eich diswyddo.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.