Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Proses deg ar gyfer dileu swydd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddilyn proses deg ar gyfer dileu swydd os ydych wedi gweithio iddo am o leiaf 2 flynedd cyn i'ch swydd ddod i ben.

Dylech gael eich gwahodd i o leiaf 1 cyfarfod unigol gyda'ch cyflogwr i drafod dileu'ch swydd.

Ar wahân i'ch cyfarfod unigol, nid oes proses benodol ar waith. Mae angen i'ch cyflogwr fod â phroses glir o hyd, ond nid oes unrhyw reolau ynglŷn â natur y broses.

Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am lai na 2 flynedd, nid oes angen proses dileu swydd ar eich cyflogwr ac nid oes rhaid iddo gyfarfod â chi'n unigol. Mae'n werth cadarnhau a oes ganddo broses beth bynnag, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl.

Dylech barhau i gadarnhau bod eich diswyddiad yn deg gan fod yn rhaid i'ch cyflogwr ddilyn rheolau newydd.

Gwirio proses eich cyflogwr

Mae'n bosibl bod proses eich cyflogwr wedi'i chynnwys yn eich contract neu lawlyfr staff, neu efallai bod eich cyflogwr wedi defnyddio'r broses ar gyfer diswyddiadau blaenorol. Os nad yw proses eich cyflogwr wedi'i hysgrifennu yn unrhyw le, mae'n rhaid iddo sicrhau eich bod yn gwybod pa broses y bydd yn ei dilyn.

Mae'n rhaid i'r broses esbonio:

  • sut bydd yn dewis pobl i'w diswyddo
  • pryd y bydd yn gwneud y penderfyniad
  • pa gyfarfodydd y gallwch eu mynychu a phryd
  • sut gallwch apelio os yw eich swydd yn cael ei dewis fel swydd i'w dileu

Fel arfer, mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddilyn ei broses, ond mae'n gallu gwneud pethau'n wahanol os oes ganddo reswm da. Er enghraifft, os yw'n dweud y bydd yn cyfarfod â chi ar adeg benodol, ond bod eich rheolwr yn absennol oherwydd salwch, mae'n gallu aildrefnu'r cyfarfod.

Cyfarfod â'ch cyflogwr i drafod dileu swydd

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o leiaf unwaith cyn eich hysbysu am ei benderfyniad terfynol i ddileu swydd. Yn y cyfarfod hwn dylech gael cyfle i drafod:

  • pam mae angen i'r cyflogwr ddileu swyddi
  • pam mae'n ystyried dileu eich swydd chi
  • pa swyddi eraill sydd ar gael
  • unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr hyn sy'n digwydd nesaf

Mae'r cyfarfod yn gyfle i egluro pam na ddylai'ch swydd gael ei dileu. Dylech ddweud wrth eich cyflogwr os nad ydych yn credu ei fod yn dilyn ei broses yn briodol neu os yw wedi'ch dewis chi'n annheg.

Mae'n well trafod annhegwch ar unwaith yn hytrach nag aros nes bod eich cyflogwr wedi gwneud penderfyniad terfynol. Drwy siarad â'ch cyflogwr yn gynnar, gallech ei  berswadio i beidio â dileu'ch swydd.

Gallai eich cyflogwr adael i chi ddod â rhywun gyda chi i'ch cyfarfodydd dileu swydd - er enghraifft rhywun o'ch undeb neu GAD. Gallai fod yn ddefnyddiol os oes rhywun yno i gymryd nodiadau a'ch cefnogi. Os nad yw'r broses dileu swydd yn cyfeirio at hyn, gofynnwch i'ch cyflogwr a allwch ddod â rhywun i'r cyfarfod.

Os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod gwyliau neu absenoldeb salwch

Gallai'ch swydd gael ei dileu, ond mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o hyd cyn gwneud ei benderfyniad. Fel arfer, mae hyn yn golygu y dylai aros nes eich bod yn dychwelyd i'r gwaith.

Os yw eich swydd yn cael ei dileu yn ystod absenoldeb mamolaeth

Gallai'ch swydd gael ei dileu, ond mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod â chi'n unigol o hyd cyn gwneud ei benderfyniad. 

Dylai eich cyflogwr drefnu cyfarfod ar adeg ac mewn lleoliad sy'n hwylus i chi, neu gytuno i'ch ffonio os nad ydych eisiau mynychu cyfarfod. Gallech ddefnyddio un o’ch diwrnodau cadw mewn cysylltiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich talu am eich amser.

Dylai eich cyflogwr siarad â chi tua'r un adeg ag unrhyw un arall y mae'n ystyried dileu ei swydd. Os yw'n rhoi gwybod i bawb arall cyn eich hysbysu chi, gallai fod yn wahaniaethu ar sail mamolaeth, a gallech herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd.

Os nad yw eich cyflogwr yn dilyn ei broses

Gallai'ch cyflogwr fod yn dileu'ch swydd yn annheg yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • nid oes ganddo broses
  • nid yw'n cyfarfod â chi'n unigol
  • nid yw'n cyfarfod â chi ac eithrio i'ch hysbysu ei fod yn dileu'ch swydd
  • bod ganddo broses nad yw'n cynnwys digon o wybodaeth
  • bod ganddo broses ond nad yw'n ei dilyn - oni bai bod ganddo reswm da dros wneud pethau'n wahanol

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych yn credu bod proses eich cyflogwr yn annheg. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu herio'r penderfyniad i ddileu'ch swydd.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.