Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Delio gyda chamau disgyblu a diswyddo yn y gwaith

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ar gyfer pwy mae’r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon i gyflogedigion sydd wedi cael eu disgyblu neu eu diswyddo gan eu cyflogwyr.

Nid yw pob gweithiwr yn gyflogedig. Efallai nad ydych yn gyflogedig os ydych yn:

  • weithiwr asiantaeth
  • gweithio o gartref
  • hunangyflogedig.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithwyr asiantaeth, gweler Hawliau gweithwyr asiantaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phobl sy’n gweithio o gartref a phobl hunangyflogedig, rhowch glic ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk

Os nad ydych yn gyflogedig, neu os nad ydych yn siŵr p’un ai eich bod yn gyflogedig ai peidio, fe fydd angen i chi gael cyngor cyn defnyddio’r wybodaeth hon. Mae cyngor ar gael gan un o’r sefydliadau sydd wedi eu rhestru o dan y pennawd Help pellach.

Dylech ddefnyddio’r wybodaeth hon os oedd eich cyflogwr wedi dechrau camau disgyblu neu ddiswyddo yn eich erbyn ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl y dyddiad yma.

Ni ddylech ddefnyddio’r wybodaeth hon os oedd eich cyflogwr wedi dechrau camau disgyblu neu ddiswyddo yn eich erbyn cyn 6 Ebrill 2009, hyd yn oed os yw’r camau gweithredu hyn ar y gweill o hyd. Mae hyn am fod rheolau gwahanol yn berthnasol. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor gan un o’r mudiadau sydd wedi eu rhestru o dan Help pellach.

Beth yw camau disgyblu yn y gwaith?

Os oes gan eich cyflogwr bryderon neu gwyn ynghylch eich gwaith, efallai y bydd yn penderfynu cymryd camau disgyblu yn eich erbyn.

Mae yna nifer o resymau pam y gallai’ch cyflogwr benderfynu cymryd camau disgyblu yn eich erbyn, gan gynnwys eich:

  • ymddygiad yn y gwaith
  • absenoldeb o’r gwaith
  • safon.

Dylai’ch cyflogwr geisio datrys eu pryderon trwy siarad â chi’n anffurfiol, os yn bosib.

Fodd bynnag, efallai na fydd cyflogwyr yn datrys eu pryderon yn y ffordd hon ac efallai y byddan nhw’n penderfynu dechrau gweithdrefn ddisgyblu. Fe allai hyn arwain at gamau disgyblu ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed diswyddo.

Os yw’ch cyflogwr yn penderfynu cymryd camau disgyblu neu’ch diswyddo, dylai ddilyn y gweithdrefnau a nodir yng Nghod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu ac achwyniad. Nid oes rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau hyn. Ond, os ydych yn penderfynu mynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth ac yn ennill eich achos, efallai y bydd y tribiwnlys yn gorchymyn eich cyflogwr i dalu mwy o iawndal i chi am iddo beidio â dilyn y gweithdrefnau.

Datrys y broblem yn anffurfiol

Efallai mai’r tro cyntaf y byddwch yn sylweddoli bod problem gyda’ch cyflogwr fydd wedi iddyn nhw ofyn i chi am gael siarad am bryder sydd ganddyn nhw. Yn aml, mae’n well cadw’r sgwrs hon yn anffurfiol i ddechrau, oherwydd weithiau efallai y bydd yn ganlyniad i gamddealltwriaeth, ac efallai y byddwch yn medru darparu tystiolaeth, er enghraifft papur doctor, i glirio’r mater. Fodd bynnag, dylech gadw nodyn o’r sgwrs a’r hyn a gytunwyd.

Cofiwch, efallai na fydd yn bosib i’ch cyflogwr ddatrys ei holl bryderon yn anffurfiol ac efallai y bydd yn dechrau gweithdrefnau disgyblu ffurfiol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd hyn yn arwain at eich diswyddo.

Gweithdrefnau disgyblu a diswyddo

Os yw’ch cyflogwr yn penderfynu dechrau camau disgyblu neu ddiswyddo yn eich erbyn, dylai ddilyn Cod Ymarfer Acas. Mae’r Cod Ymarfer yn nodi safonau tegwch ac ymddygiad rhesymol y disgwylir i gyflogwyr a chyflogedigion eu dilyn yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, wrth ddelio gydag anghydfod.

Nid oes rhaid i’ch cyflogwr ddilyn y Cod Ymarfer. Ond, os ydych yn penderfynu mynd â’ch cyflogwr at dribiwnlys cyflogaeth ac rydych yn ennill eich achos, gellir ei orchymyn i dalu mwy o iawndal i chi am beidio â dilyn y Cod.

Os yw’ch cyflogwr yn cymryd camau disgyblu yn eich erbyn, mae wastad yn syniad da cadw nodyn o’r hyn sy’n digwydd a phryd mae’n digwydd.

Os yw’ch cyflogwr yn dilyn y Cod Ymarfer, fe fydd eu gweithdrefnau disgyblu a diswyddo yn cynnwys y camau canlynol:

Anfon llythyr

Os yw’ch cyflogwr yn ystyried cymryd camau disgyblu neu ddiswyddo, ei gam cyntaf fydd ysgrifennu atoch yn nodi’r cwyn ynghylch eich gwaith.

Y cam nesaf fydd cyfarfod i drafod y broblem. Dylai llythyr eich cyflogwr gynnwys manylion llawn ynghylch yr hyn y mae’n ei ddweud eich bod wedi ei wneud o le. Dylai fod digon o fanylion i i’ch galluogi chi i baratoi ymateb neu esboniad cyn y cyfarfod. Dylai’r llythyr ddweud hefyd bod hawl gennych i gael rhywun yn y cyfarfod gyda chi.

Trefnu cyfarfod

Unwaith fydd eich cyflogwr wedi cysylltu â chi’n ysgrifenedig, dylai hefyd drefnu cyfarfod ar adeg resymol ac mewn lle rhesymol i drafod y broblem. Ni ddylai’ch cyflogwr gymryd unrhyw gamau disgyblu cyn y cyfarfod hwn. Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i rywun ddod gyda chi i’r cyfarfod - naill ai cydweithiwr o’r gwaith neu gynrychiolydd undeb llafur. Dylai’ch cyflogwr roi cyfle i chi gyflwyno’ch achos yn y cyfarfod. Ar ôl y cyfarfod, dylai’ch cyflogwr ddweud wrthych beth mae wedi penderfynu ei wneud a dylai wneud hyn yn ysgrifenedig.

Apelio

Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad eich cyflogwr, dylai’ch cyflogwr roi cyfle i chi apelio yn ei erbyn.

Nid oes rhaid i chi apelio, ond os ydych yn penderfynu mynd i dribiwnlys cyflogaeth yn nes ymlaen ac yn ennill eich achos, efallai y bydd y tribiwnlys yn gostwng unrhyw iawndal a roddir i chi am nad ydych wedi apelio.

Os ydych am apelio, dylech wneud hyn o fewn cyfnod rhesymol o amser a dylech nodi’ch apêl yn ysgrifenedig. Dylai’ch llythyr:

  • nodi eich bod yn apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr
  • esbonio pam nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad.

Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod pellach i drafod eich apêl.

Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i gydweithiwr o’r gwaith neu gynrychiolydd undeb llafur fynd gyda chi i’r cyfarfod.

Dylech sicrhau eich bod chi, neu’r person sydd gyda chi, yn cymryd nodiadau yng nghyfarfod yr apêl.

Ar ôl cyfarfod yr apêl, dylai’ch cyflogwr ysgrifennu i ddweud wrthych beth yw’r penderfyniad terfynol.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad eich cyflogwr o hyd, efallai y byddwch am feddwl am ffyrdd eraill o ddatrys eich problemau gyda’ch cyflogwr.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru:

Cyflafareddiad

Efallai y byddwch chi a’ch cyflogwr am ystyried cyflafareddiad fel ffordd o ddatrys y broblem. Mae cyflafareddiad yn hollol wirfoddol a chyfrinachol. Mae’n golygu bod person diduedd annibynnol yn eich helpu chi a’ch cyflogwr i ddod o hyd i ateb sy’n dderbyniol i bawb. Weithiau, efallai y bydd y cyflafareddwr yn berson o’ch sefydliad, neu efallai y bydd eich cyflogwr am ystyried dod â chyflafareddwr annibynnol i mewn.

Mae’n rhaid talu am wasanaethau cyflafareddiad allanol, ond os ydych chi a’ch cyflogwr yn cytuno i ddefnyddio cyflafareddiad, eich cyflogwr fydd yn talu fel arfer.

Cymrodedd Cynnar

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi trio popeth arall i ddatrys eich problemau gyda’ch cyflogwr ac mai’r unig opsiwn sydd ar ôl gennych nawr yw hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Os ydych yn y sefyllfa hon, efallai y byddwch yn medru defnyddio’r gwasanaeth Cymrodedd Cynnar y mae Acas yn ei rhedeg.

Efallai y bydd y gwasanaeth hwn ar gael i’ch helpu chi a’ch cyflogwr i ddod o hyd i ffordd o setlo’r broblem heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob cyflogwr a pherson cyflogedig ar gyfer materion sy’n debygol o arwain at achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.

I ddarganfod a yw Cymrodedd Cynnar yn addas i chi, ffoniwch linell gymorth Acas.

Hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn datrys anghydfodau rhwng cyflogwyr a chyflogedigion.

Efallai y bydd angen i chi hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth os:

  • nad ydych yn cytuno gyda’r camau disgyblu y mae’ch cyflogwr wedi eu cymryd yn eich erbyn
  • mae’ch cyflogwr yn eich diswyddo ac rydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg.

Am fwy o wybodaeth ynghylch diswyddiad a diswyddiad annheg, gweler Diswyddiad.

Fe fyddwch yn medru hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, hyd yn oed os nad ydych wedi apelio yn erbyn y camau disgyblu y mae’ch cyflogwr wedi eu cymryd yn eich erbyn. Ond, os digwydd i chi ennill eich achos, efallai y bydd y tribiwnlys yn gostwng unrhyw iawndal a roddir i chi am nad ydych wedi apelio.

Cofiwch, yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi fynd â’ch cais at y tribiwnlys cyflogaeth o fewn tri mis i’r dyddiad y digwyddodd y digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Os daw’ch cais i lawr ar ôl y dyddiad yma, ni fydd y tribiwnlys yn ei dderbyn fel arfer.

Os ydych yn poeni ynghylch y terfynau amser, a sut maen nhw’n berthnasol i chi, mynnwch gyngor gan un o’r mudiadau a restrir o dan y pennawd Help pellach.

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn llai ffurfiol na rhai llysoedd eraill, ond mae’n dal i fod yn broses gyfreithiol ac fe fydd angen i chi roi tystiolaeth o dan lw.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn heriol. Os ydych yn ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael help ar unwaith gan un o’r mudiadau a restrir o dan y pennawd Help pellach.

Os ydych yn cael ei ch cynrychioli gan gyfreithiwr yn y tribiwnlys, efallai y bydd yn gofyn i chi lofnodi cytundeb ble byddwch chi’n talu ei ffi allan o’ch iawndal os ydych yn ennill yr achos. Gelwir hyn yn gytundeb sylfaen iawndal. Yng Nghymru a Lloegr, nid yw’ch cyfreithiwr yn medru gofyn i chi dalu mwy na 35% o’ch iawndal os ydych yn ennill yr achos.

Os ydych yn ystyried llofnodi cytundeb sylfaen iawndal, dylech sicrhau eich bod yn glir ynghylch telerau’r cytundeb. Efallai y byddai’n well cael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, rhowch glic ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Tribiwnlysoedd cyflogaeth.

Help pellach

Acas

Mae Acas yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogedigion i ddatrys problemau yn y gweithle.

Rydych yn medru ffonio llinell gymorth Acas ar: 08457 47 47 47 a siarad â chynghorydd ynghylch eich problemau cyflogaeth. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8yb-8yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9yb-1yp ar Ddydd Sadwrn.

Ar wefan Acas, www.acas.org.uk, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch datrys problemau yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu ac achwyniad y dylai pob cyflogwr a gweithiwr cyflogedig ei ddilyn wrth geisio geisio datrys problemau yn y gwaith. I lawrlwytho copi o’r Cod, rhowch glic ar: www.acas.org.uk.

Canolfannau Cyngor ar Bopeth

Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol rhad ac am ddim i’ch helpu i ddatrys problemau. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Rydych hefyd yn medru edrych o dan C yn y llyfr ffôn.

Undebau Llafur

Os ydych yn aelod o undeb llafur, cysylltwch â’ch cynrychiolydd undeb.

Mae cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar wefan y TUC yn: www.worksmart.org.uk.

Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth

Mae gan Wasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth linell ymholiadau cyhoeddus i ateb eich cwestiynau, rhoi gwybodaeth ynghylch cyhoeddiadau’r tribiwnlys ac esbonio sut mae’r system tribiwnlysoedd yn gweithio. Nid ydynt yn medru rhoi cyngor cyfreithiol i chi, fel eich cynghori chi ar eich hawliad. Rhif ffôn y llinell ymholiadau yw: 0845 795 9775, neu Minicom: 845 757 3722.

Cyfreithwyr

Am wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn problemau cyflogaeth, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.