Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Delio ag achwyniadau yn y gwaith

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ar gyfer pwy mae’r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon i gyflogedigion sydd â chwyn ynghylch eu gwaith neu eu gweithle neu ynghylch rhywun sy’n gweithio gyda nhw.

Nid yw pob gweithiwr yn gyflogedig. Efallai nad ydych yn gyflogedig os ydych yn:

  • weithiwr asiantaeth
  • gweithio o gartref
  • hunangyflogedig.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithwyr asiantaeth, gweler Hawliau gweithwyr asiantaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phobl sy’n gweithio o gartref a phobl hunangyflogedig, rhowch glic ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk

Os nad ydych yn gyflogedig, neu os nad ydych yn siŵr p’un ai eich bod yn gyflogedig ai peidio, fe fydd angen i chi gael cyngor cyn defnyddio’r wybodaeth hon. Mae cyngor ar gael gan un o’r sefydliadau sydd wedi eu rhestru o dan y pennawd Help pellach.

Dylech ddefnyddio’r wybodaeth hon os oedd eich cyflogwr wedi dechrau camau disgyblu neu ddiswyddo yn eich erbyn ar 6 Ebrill 2009 neu ar ôl y dyddiad yma.

Ni ddylech ddefnyddio’r wybodaeth hon os yw’r broblem yr ydych yn cwyno yn ei chylch wedi dechrau cyn 6 Ebrill 2009, hyd yn oed os yw’r broblem ar y gweill o hyd. Mae hyn am fod y rheolau’n wahanol ar gyfer problemau a ddechreuodd cyn 6 Ebrill 2009. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor gan un o’r mudiadau sydd wedi eu rhestru o dan Help pellach.

Beth yw achwyniad

Os oes pryder, problem neu gwyn gennych yn y gwaith, efallai y byddwch am ei godi gyda’ch cyflogwr. Gelwir hyn yn godi achwyniad. Efallai eich bod am godi achwyniad ynghylch pethau fel:

  • pethau y gofynnir i chi eu gwneud fel rhan o’ch gwaith
  • amodau a thelerau eich cytundeb cyflogaeth, er enghraifft, eich cyflog
  • y ffordd yr ydych yn cael eich trin yn y gwaith, er enghraifft, os nad ydych yn cael dyrchafiad pan rydych yn credu y dylech fod wedi ei gael
  • gwahaniaethu yn y gwaith. Er enghraifft, efallai eich bod yn credu bod eich cydweithwyr yn y gwaith yn eich bwlio chi oherwydd eich hil, oed, anabledd neu rywioldeb.

Efallai y bydd yn bosib datrys eich cwyn drwy siarad â’ch cyflogwr yn anffurfiol.

Ond, nid yw wastad yn bosib datrys eich cwyn yn y ffordd yma ac efallai y byddwch am godi achwyniad ffurfiol. Nid oes rhaid i chi godi achwyniad ffurfiol, ond, os fyddwch yn cwyno i’r tribiwnlys cyflogaeth, efallai y bydd y tribiwnlys yn gostwng unrhyw iawndal a roddir i chi os nad ydych wedi codi achwyniad yn gyntaf.

Datrys eich problem yn anffurfiol

Yn aml, y ffordd orau o ddatrys problem gyda’ch cyflogwr yw cael sgwrs anffurfiol.

Dylech ofyn am gyfarfod gyda’ch rheolwr i esbonio’ch pryderon. Efallai y bydd yn ddefnyddiol awgrymu i’ch cyflogwr beth hoffech iddo ei wneud i ddatrys y broblem. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu siarad â’ch rheolwr, dylech siarad â rhywun arall yn y sefydliad sydd mewn sefyllfa o awdurdod.

Ble’n bosib, dylech geisio datrys y broblem yn anffurfiol i ddechrau, cyn cymryd unrhyw gamau pellach.

Sut i godi achwyniad ffurfiol

Os ydych yn penderfynu codi achwyniad ffurfiol, mae gan Acas God Ymarfer ac fe’ch cynghorir i’w ddilyn.

Mae’r Cod Ymarfer yn nodi safonau tegwch ac ymddygiad rhesymol y disgwylir i gyflogwyr a chyflogedigion eu dilyn yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, wrth ddelio gydag anghydfod.

Nid oes rhaid i chi ddilyn y Cod Ymarfer. Ond, mae tribiwnlys cyflogaeth yn medru ystyried p’un ai ei fod yn rhesymol i chi ddilyn y Cod wrth benderfynu faint o iawndal ddylech chi ei gael, os o gwbl.

Dylai fod gan eich cyflogwr weithdrefn ffurfiol ar gyfer codi achwyniad. Dylech geisio ei ddilyn, ble’n bosib. Dylech fod yn medru dod o hyd i fanylion gweithdrefn achwyniad eich cyflogwr yn Llawlyfr eich Cwmni, y Llawlyfr Adnoddau Dynol neu Bersonél neu’r fewnrwyd Adnoddau Dynol, neu yn eich cytundeb cyflogaeth.

Os ydych yn hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, mae yna derfyn amser llym ar gyfer hawlio. Fel arfer, mae’n dri mis namyn diwrnod o’r dyddiad diwethaf y digwyddodd y peth yr ydych yn cwyno yn ei gylch.

Mae’r terfyn amser yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os ydych yn codi achwyniad. Mae hyn yn golygu bod angen i chi sicrhau nad ydych yn rhedeg allan o amser tra’n mynd trwy’r weithdrefn gwyno.

Os ydych yn codi achwyniad, mae wastad yn syniad da cadw nodyn o’r hyn sy’n digwydd a phryd.

Mae’r camau a nodwyd ar y tudalennau canlynol yn seiliedig ar y canllawiau yng Nghod Ymarfer Acas.

Ysgrifennu at eich cyflogwr

Os nad ydych wedi llwyddo i ddatrys eich problem trwy siarad â’ch rheolwr, y peth nesaf i’w wneud yw ysgrifennu at eich cyflogwr. Rhowch fanylion eich problem, rhowch ddyddiad ar eich llythyr a chadwch gopi. Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddweud wrth eich cyflogwr am unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar gyfer datrys y broblem.

Cwrdd â’ch cyflogwr

Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod cychwynnol ar adeg resymol ac mewn lle rhesymol i drafod eich achwyniad. Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i gydweithiwr o’r gwaith neu gynrychiolydd undeb llafur i ddod gyda chi i’r cyfarfod. Dylai’ch cyflogwr roi cyfle i chi esbonio’ch achwyniad ac unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar gyfer ei ddatrys. Ar ôl y cyfarfod, dylai’ch cyflogwr ysgrifennu atoch gan ddweud wrthych beth mae wedi penderfynu ei wneud am eich achwyniad.

Apelio at eich cyflogwr

Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad eich cyflogwr, dylech ysgrifennu llythyr o apêl ato yn:

  • nodi eich bod yn apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr
  • esbonio pam nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad.

Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod pellach i drafod eich apêl. Ble’n bosib, dylai rheolwr gwahanol, ar lefel uwch, ddelio gyda’r apêl hwn.

Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn i gydweithiwr o’r gwaith neu gynrychiolydd undeb llafur fynd gyda chi i’r cyfarfod. Ar ôl cyfarfod yr apêl, dylai’ch cyflogwr ysgrifennu i ddweud wrthych beth yw’r penderfyniad terfynol.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad eich cyflogwr o hyd, efallai y byddwch am feddwl am ffyrdd eraill o ddatrys eich problemau gyda’ch cyflogwr.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru:

Cyflafareddiad

Efallai y byddwch chi a’ch cyflogwr am ystyried cyflafareddiad fel ffordd o ddatrys y broblem. Mae cyflafareddiad yn hollol wirfoddol a chyfrinachol. Mae’n golygu bod person diduedd annibynnol yn eich helpu chi a’ch cyflogwr i ddod o hyd i ateb sy’n dderbyniol i bawb. Weithiau, efallai y bydd y cyflafareddwr yn berson o’ch sefydliad, neu efallai y bydd eich cyflogwr am ystyried dod â chyflafareddwr annibynnol i mewn.

Mae’n rhaid talu am wasanaethau cyflafareddiad allanol, ond os ydych chi a’ch cyflogwr yn cytuno i ddefnyddio cyflafareddiad, eich cyflogwr fydd yn talu fel arfer.

Cymrodedd Cynnar

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi trio popeth arall i ddatrys eich problemau gyda’ch cyflogwr ac mai’r unig opsiwn sydd ar ôl gennych nawr yw hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Os ydych yn y sefyllfa hon, efallai y byddwch yn medru defnyddio’r gwasanaeth Cymrodedd Cynnar y mae Acas yn ei rhedeg. Efallai y bydd y gwasanaeth hwn ar gael i’ch helpu chi a’ch cyflogwr i ddod o hyd i ffordd o setlo’r broblem heb fynd at dribiwnlys cyflogaeth.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob cyflogwr a pherson cyflogedig ar gyfer materion sy’n debygol o arwain at achos gerbron y tribiwnlys cyflogaeth.

I ddarganfod a yw Cymrodedd Cynnar yn addas i chi, ffoniwch linell gymorth Acas.

Hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth

Os ydych wedi trio popeth i ddatrys eich problemau yn y gwaith ond heb lwyddo, efallai y byddwch am ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn datrys anghydfodau rhwng cyflogwyr a chyflogedigion.

Dylech geisio sortio’r broblem heb fynd i dribiwnlys cyflogaeth, os yn bosib.

Nid oes rhaid i chi godi achwyniad ffurfiol cyn dwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Ond, os na fyddwch wedi codi achwyniad yn gyntaf, efallai y bydd y tribiwnlys yn gostwng unrhyw iawndal a roddir i chi, os nad oes rheswm da gennych dros beidio â chodi achwyniad yn gyntaf, er enghraifft roedd angen i chi ddwyn achos cyn i’r terfyn amser ddod i ben.

Cofiwch, yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi gyflwyno cais i dribiwnlys cyflogaeth, a hynny o fewn tri mis namyn diwrnod i’r dyddiad diwethaf y digwyddodd y digwyddiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Os daw’ch cais i law ar ôl y dyddiad yma, ni fydd y tribiwnlys yn ei dderbyn fel arfer.

Os ydych yn poeni ynghylch y terfynau amser, a sut maen nhw’n berthnasol i chi, mynnwch gyngor gan un o’r mudiadau a restrir o dan y pennawd Help pellach.

Mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn llai ffurfiol na rhai llysoedd eraill, ond mae’n dal i fod yn broses gyfreithiol ac fe fydd angen i chi roi tystiolaeth o dan lw.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth yn heriol. Os ydych yn ystyried hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, dylech gael help ar unwaith gan un o’r mudiadau a restrir o dan y pennawd Help pellach.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, ewch at wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.

Help pellach

Acas

Mae Acas yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogedigion i ddatrys problemau yn y gweithle.

Rydych yn medru ffonio llinell gymorth Acas ar: 08457 47 47 47 a siarad â chynghorydd ynghylch eich problemau cyflogaeth. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8yb-8yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9yb-1yp ar Ddydd Sadwrn.

Ar wefan Acas, www.acas.org.uk, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch datrys problemau yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys Cod Ymarfer Acas ar weithdrefnau disgyblu ac achwyniad y dylai pob cyflogwr a gweithiwr cyflogedig ei ddilyn wrth geisio datrys problemau yn y gwaith. I lawrlwytho copi o’r Cod, rhowch glic ar: www.acas.org.uk.

Canolfannau Cyngor ar Bopeth

Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol rhad ac am ddim i’ch helpu i ddatrys problemau. I ddod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Rydych hefyd yn medru edrych o dan C yn y llyfr ffôn.

Undebau llafur

Os ydych yn aelod o undeb llafur, cysylltwch â’ch cynrychiolydd undeb.

Mae cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar wefan y TUC yn: www.worksmart.org.uk.

Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth

Mae gan Wasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth linell ymholiadau cyhoeddus i ateb eich cwestiynau, rhoi gwybodaeth ynghylch cyhoeddiadau’r tribiwnlys ac esbonio sut mae’r system tribiwnlysoedd yn gweithio. Nid ydynt yn medru rhoi cyngor cyfreithiol i chi, fel eich cynghori chi ar eich hawliad. Rhif ffôn y llinell ymholiadau yw: 0845 795 9775, neu Minicom: 845 757 3722.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.