Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cytundebau cyflogaeth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ydych chi'n gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig?

Mae’n bwysig iawn darganfod beth yw eich statws cyflogaeth. Mae’r holl hawliau cyflogaeth, fel hawl i dâl am waith a wnaethpwyd, hawl i gyflog gwyliau, hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg ayb, yn dibynnu ar y ffaith eich bod yn gyflogedig.

Mae’n gyffredin i gyflogwr alw rhywun yn hunan-gyflogedig, neu’n ‘weithiwr dros dro’ neu’n ‘brentis’, pan fod y person yn gyflogedig mewn gwirionedd. Mae cyflogwyr yn gwneud hyn er mwyn osgoi gorfod talu treth ac yswiriant gwladol dros eu cyflogedigion er mwyn ceisio’u hatal rhag derbyn hawliau cyflogaeth. Nid yw'r hyn y mae eich cyflogwr yn eich galw yn berthnasol, p'un ai eich bod yn cael eich galw, er enghraifft, yn hunangyflogedig, yn weithiwr asiantaeth, neu’n weithiwr dros dro, ayb. Hefyd, nid yw’r ffaith eich bod yn talu treth ac yswiriant gwladol fel person hunan-gyflogedig, yn golygu'n awtomatig eich bod yn hunan-gyflogedig yn hytrach na’n gyflogedig.  Yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n digwydd yn ymarferol o ran sut yr ydych yn gweithio, pwy sy’n penderfynu pa waith yr ydych yn ei wneud a beth mae eich cyflogwr yn disgwyl i chi ei wneud.

Sut i ddweud os yw person yn gyflogedig ai peidio

Bydd y nodweddion canlynol yn help i chi benderfynu p'un ai eich bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig pan fyddwch chi am ddarganfod beth yw eich hawliau cyflogaeth:

  • Ydy'ch cyflogwr yn dweud wrthych chi pa waith i’w wneud a sut mae gwneud y gwaith yna (hyd yn oed os yw’n eich gadael i wneud gwaith ar eich pen eich hun). Ydy eich cyflogwr yn rhoi gwaith i chi, neu a oes yn rhaid i chi fynd allan i chwilio am waith i’w wneud. Os yw eich cyflogwr yn darparu ac yn rheoli’r gwaith sydd i’w gwblhau, rydych chi'n gyflogedig
  • Sut ydych chi'n cael eich talu. Os ydych yn derbyn cyflog rheolaidd ar adegau rheolaidd yn hytrach na chael eich talu am y gwaith a wnaethpwyd, mae hyn yn dangos eich bod yn gyflogedig
  • Pwy sy’n gyfrifol am wneud y gwaith. Os oes yn rhaid i chi chwilio am rywun arall, fel is-gontractwr neu gyfaill, i wneud y gwaith os nad ydych chi’n medru gwneud y gwaith, byddai hyn yn awgrymu eich bod yn hunan-gyflogedig. Os yw eich cyflogwr yn darganfod rhywun arall i wneud y gwaith, er enghraifft, eich bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, byddai hyn yn awgrymi eich bod yn gyflogedig
  • Pwy sy’n darparu offer a deunyddiau i wneud y gwaith. Os yw eich cyflogwr yn gyfrifol am ddarparu’r prif offer a pheiriannau a deunyddiau, a’ch bod chi’n gyfrifol am ddarparu ychydig iawn o’ch offer chi eich hun, rydych yn debygol o fod yn gyflogedig.

Os y teimlwch, wedi darllen y nodweddion o dan y pennawd Sut i ddweud os yw person yn gyflogedig ai peidio, eich bod yn gyflogedig, yna fe fydd gennych gytundeb cyflogaeth. Nid oes yn rhaid iddo fod yn ysgrifenedig. Daw’r cyflogwr a’r gweithiwr i gytundeb ynglŷn â cyflogaeth a gall fod yn gytundeb geiriol. (gweler isod).

Os nad ydych yn sicr o hyd p'un ai eich bod yn gyflogedig, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth.  I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost,Cliciwch ar arwydd CAB.

Os ydych am wybod p’un ai eich bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig er mwyn cyfrifo faint o dreth neu yswiriant gwladol i’w dalu, mae’r rheolau ychydig yn wahanol i’r rheiny sydd wedi eu disgrifio yma. Am fwy o wybodaeth ynghylch y rheolau hyn, rhowch glic ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn: www.hmrc.gov.uk .

Gweithwyr asiantaeth

Os ydych yn cael gwaith trwy asiantaeth, efallai y byddwch:

  • yn cael eich trin fel person sy'n gyflogedig gan yr asiantaeth (er, nid yw hyn yn debygol), neu
  • yn hunangyflogedig
  • yn gyflogedig gan y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo.

Mae yna reolau arbennig ynghylch y ffordd y mae gweithwyr asiantaeth yn talu treth a chyfraniadau yswiriant gwladol ac ynghylch sut i benderfynu os ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch gweithio i asiantaeth, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.

Beth os ydyw cyflogwr am i berson cyflogedig newid i statws hunan-gyflogedig

Os yw eich cyflogwr yn gofyn i chi arwyddo cytundeb newydd sy’n dweud eich bod yn hunangyflogedig yn hytrach na’n gyflogedig, nid yw arwyddo’r cytundeb yn golygu yn awtomatig eich bod yna'n dod yn hunangyflogedig. Y rheswm dros hyn yw, waeth beth mae eich cyflogwr yn ei ddweud, mae p'un ai eich bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig yn dibynnu beth sy'n digwydd yn ymarferol a'r berthynas rhyngoch chi a'ch cyflogwr – gweler y pennawd Sut i ddweud os yw person yn gyflogedig ai peidio.

Os yw eich cyflogwr yn gofyn i chi i arwyddo cytundeb newydd, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Beth yw cytundeb cyflogaeth

Mae yna gytundeb rhwng y gweithiwr a’r cyflogwr bob amser. Mae’n bosib nad oes gennych unrhyw beth ysgrifenedig, ond bydd cytundeb yn bodoli gan bod y ffaith eich bod yn cytuno i weithio i’r cyflogwr a'ch cyflogwr yn cytuno i’ch talu chi am eich gwaith yn ffurfio cytundeb. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi o fewn deufis i'r diwrnod y dechreuoch eich gwaith. Rhaid i'r datganiad gynnwys rhai amodau a thelerau penodol.

Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin yw y bydd gennych hawl i dderbyn tâl am y gwaith a gyflawnwyd gennych. Mae gan eich cyflogwr hawl i roi cyfarwyddiadau rhesymol i chi i gyflawni eich swydd. Gelwir yr hawliau a’r cyfrifoldebau yma yn amodau cytundebol.

Mae’r hawliau a roddir i chi o dan eich cytundeb cyflogaeth yn ychwanegol at eich hawliau yn ôl y gyfraith, fel, er enghraifft, yr hawl wrth leiafswm cyflog cenedlaethol a’r hawl wrth wyliau â thâl.

Yn gyffredinol, gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar ba bynnag amodau yr ydych yn dymuno eu cynnwys yn y cytundeb, ond ni fedrwch gytuno i amodau cytundebol sy’n rhoi llai o hawliau i chi nag sydd gennych yn ôl y gyfraith (gweler y pennawd Sut mae hawliau yng nghytundeb person cyflogedig yn ymwneud â'r hawliau o dan y gyfraith). Fel arfer fe fydd cytundeb cyflogaeth yn cynnwys dau fath o amodau cytundebol, sef:

  • amodau pendant,
  • amodau a gymhellir.

Amodau Cytundebol Pendant

Amodau pendant cytundeb cyflogaeth yw’r rhai hynny a gytunwyd yn groyw gennych chi a’ch cyflogwr a gallant gynnwys:

  • cyfanswm cyflog, gan gynnwys unrhyw oriau ychwanegol neu dâl ychwanegol
  • oriau gwaith, yn cynnwys oriau ychwanegol (mae yna derfyn cyfreithiol ar gyfer y rhan fwyaf o weithwyr ynghylch uchafswm y nifer o oriau y maen nhw'n cael eu gweithio mewn wythnos)
  • tâl gwyliau, gan gynnwys faint o amser i ffwrdd o’r gwaith sy’n ddyledus i chi (mae hawl gan bron i bob gweithiwr llawn amser i 28 diwrnod o wyliau gyda chyflog, yn ôl y gyfraith – mae’n bosib y bydd ganddynt hawl i fwy o wyliau o dan eu cytundeb. Mae gan weithwyr rhan amser yr hawl i nifer pro rata o ddiwrnodau o wyliau)
  • tâl salwch
  • tâl diswyddiad
  • faint o rybudd sy’n rhaid i’ch cyflogwr roi i chi os ydych yn cael eich diswyddo.

Mae’n bosib nad yw’r holl amodau cytundebol wedi eu cynnwys mewn un dogfen, mae’n bosib y cânt eu cynnwys mewn nifer o ddogfennau gwahanol. Mae’n bosib nad ydynt yn ysgrifenedig o gwbl. Gellir darganfod yr amodau pendant mewn:

  • hysbyseb ar gyfer y swydd
  • datganiad ysgrifenedig o’r prif amodau a thelerau (gweler y pennawd Hawl person cyflogedig i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth)
  • unrhyw lythyron a anfonodd eich cyflogwr atoch cyn i chi ddechrau gweithio
  • unrhywbeth a ofynnwyd i chi arwyddo pan neu ers i chi ddechrau gweithio
  • cyfarwyddiadau neu gyhoeddiadau a wnaed gan eich cyflogwr ar hysbysfwrdd yn y gweithle
  • llawlyfr swyddfa neu lawlyfr staff
  • slipiau cyflog.

Mae’n bosib nad oes gennych y dogfennau perthnasol. Mae’n bosib y byddwch yn medru cael copïau oddi wrth eich Adran Personél, pen-weithiwr, neu gynrychiolydd undeb llafur.

Dylech gadw unrhyw ddogfennau a roddir i chi gan eich cyflogwr.

Oherwydd bod cytundeb yn dal i fodoli hyd yn oed os nad yw’n ysgrifenedig, dylid cofnodi unrhywbeth a ddywedwyd gan y cyflogwr ynglŷn â’ch hawliau, yn ogystal ag unrhyw beth a gytunwyd gennych ar lafar.

Os ydych yn weithiwr sydd heb gytundeb ysgrifenedig, dylech chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghrafft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Amodau Cytundebol a gymhellir

Amodau a gymhellir mewn cytundeb cyflogaeth yw’r rhai hynny nas cytunwyd yn benodol gan y cyflogwr a’r cyflogedig. Yr amodau a gymhellir yw:

  • amodau cyffredinol a gymhellir gan y mwyafrif o gytundebau cyflogaeth
  • amodau a gymhellir gan arfer ac ymarfer
  • amodau cytundebau a wnaethpwyd gyda’r cyflogwr gan Undeb llafur neu Gymdeithas staff.

Amodau cyffredinol a gymhellir

Caiff y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau canlynol eu hargymell fel arfer i mewn i gytundebau cyflogaeth:-

  • mae gan y gweithiwr a’r cyflogwr ddyletswydd i ymddiried yn ei gilydd. Golyga hyn, er enghraifft, os bydd gweithiwr yn rhannu cyfrinachau diwydiannol y cyflogwr gyda chystadleuydd, fe fydd yn torri amod gytundebol a gymhellir sef ymddiriedaeth
  • mae gan y gweithiwr a’r cyflogwr ddyletswydd i ofalu am ei gilydd ac am weithwyr eraill. Golyga hyn, er enghraifft, y dylai’r cyflogwr ddarparu amgylchedd gwaith diogel ar gyfer y gweithwyr a dylai’r gweithwyr ddefnyddio’r peiriannau’n ofalus ac yn ddiogel
  • mae gan y gweithiwr ddyletswydd i ufuddhau i gyfarwyddiadau rhesymol y cyflogwr. Nid oes diffiniad cyfreithiol argyfer 'rhesymol', ond ni fyddai’n rhesymol dweud wrth weithiwr am gyflawni gweithred anghyfreithlon, er enghraifft, ni ddylid dweud wrth yrrwr lori am yrru cerbyd sydd heb yswiriant a threth
  • mae'n ddyletswydd ar eich cyflogwr i dalu eich cyflog ac i ddarparu gwaith. Tra'ch bod chi'n fodlon gweithio, rhaid i'ch cyflogwr dalu eich cyflog hyd yn oed os nad oes unrhyw waith ar gael, onid yw eich cytundeb yn nodi fel arall.

Amodau a gymhellir gan arfer ac ymarfer

Pan yn delio gyda phroblem cyflogaeth benodol, mae’n bosib nad oes amod cytundebol pendant sy’n cwmpasu’r mater yn bodoli. Mewn achos o’r fath, mae’n ddefnyddiol sylwi ar beth ddigwyddodd i weithwyr eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Oherwydd os rhoddwyd hawl i weithwyr eraill, gallwch ddadlau bod gennych yr hawl hwn hefyd o dan ‘arfer ac ymarfer’.

Gall ceisio profi bod gan weithiwr hawl yn ôl ‘arfer ac ymarfer’ fod yn gymhleth a dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghrafft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Beth sy'n digwydd os yw rhan o'r cytundeb yn cael ei thorri

Mae'n bosib torri cytundeb os nad ydych chi neu eich cyflogwr yn dilyn amod yn y cytundeb. Gelwir hyn yn dor-cytundeb. Er enghraifft, os nad yw'ch cyflogwr yn talu arian i chi yn lle cyfnod rhybudd ac mae gennych hawl i’r tâl hwn yn ôl eich cytundeb, fe fyddai hyn yn dor-cytundeb.

Os yw eich cyflogwr yn torri eich cytundeb, dylech geisio sortio'r broblem yn anffurfiol gyda nhw yn gyntaf.

Os nad yw hyn yn gweithio, mae'n bosib i chi geisio codi achwyniad yn erbyn eich cyflogwr. Mae yna weithdrefnau arbennig efallai y bydd yn rhaid i chi eu dilyn os ydych am gwyno yn erbyn eich cyflogwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch codi achwyniad yn erbyn eich cyflogwr, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.

Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi torri eich cytundeb cyflogaeth, dylech gael cyngor ynghylch y camau i'w cymryd, gan gynghorydd profiadol ar gyflogaeth, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am eich hawliau os yw'ch cyflogwr yn torri'r cytundeb trwy beidio â thalu'r hyn sy'n ddyledus i chi, gweler Mae cyflogwr yn dal eich cyflog yn ôl yn y taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Hawl person cyflogedig i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth

Mae gan bob gweithiwr, heb ystyried y nifer o oriau maent yn gweithio’n wythnosol, yr hawl i dderbyn datganiad ysgrifenedig oddi wrth y cyflogwr o fewn deufis iddynt ddechrau gweithio. Dylai'r datganiad yn disgrifio prif amodau’r cytundeb cyflogaeth. Mae hawl gennych wrth y datganiad hyd yn oed os yw eich swydd yn dod i ben cyn y deufis cychwynnol, cyhyd y bwriadwyd i’r swydd barhau am fwy na mis ac rydych wedi bod yn gweithio ers o leiaf un mis.

Gall gweithiwr sy’n dymuno cael datganiad wneud cais am un ar lafar neu’n ysgrifenedig. Fel arfer mae’n well gwneud cais am ddatganiad yn ysgrifenedig a chadw copi o’r llythyr, fel eich bod yn medru profi eich bod wedi gofyn am ddatganiad.

Pa fanylion ysgrifenedig sy’n ofynnol

Yn ôl y gyfraith rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gynnwys:

  • Eich enw chi a’r cyflogwr
  • Dyddiad cychwyn gwaith
  • Cyfanswm cyflog a pha mor aml y byddwch yn cael eich talu, er enghraifft, yn wythnosol neu’n fisol
  • Oriau gwaith
  • Eich hawl wrth wyliau, yn cynnwys faint o ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith sy’n ddyledus i chi a faint fydd eich tâl gwyliau, os yn berthnasol
  • Faint o rybudd y mae gennych hawl i'w dderbyn os ydych yn cael eich diswyddo a faint o rybudd sy’n rhaid i chi roi i’r cyflogwr os ydych yn dymuno gadael y swydd
  • Teitl y swydd
  • Ble lleolir y swydd, er enghraifft, a fydd yn rhaid i chi weithio mewn mwy nag un lleoliad
  • Pa weithdrefnau disgyblu neu gwyno sydd ar waith yn y gweithle.

Rhaid rhoi'r wybodaeth ganlynol i chi hefyd:-

  • Pa dâl salwch sy’n ddyledus i chi
  • P'un ai y medrwch ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol y cyflogwr, os oes un yn bodoli
  • Rheolau manwl ynglŷn â gweithdrefnau disgyblu yn y gweithle.

Nid oes yn rhaid cynnwys y wybodaeth uchod yn y datganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau. Gellir eu cynnwys, er enghraifft, mewn llawlyfr staff sy’n hygyrch i’r holl staff.

Mae’n bosib y bydd cyflogwr yn ceisio eich diswyddo oherwydd i chi ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o amodau a thelerau eich swydd, er bod hawl gennych wrth y wybodaeth yma yn ôl y gyfraith.

Os ydych yn credu bod eich cyflogwr yn debygol o’ch diswyddo petai chi’n gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r amodau a’r telerau, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghrafft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Sut mae'r hawliau yn nghytundeb y person cyflogedig yn ymwneud â'r gyfraith

Mae gan y mwyafrif o weithwyr hawliau yn ôl y gyfraith. Gelwir hwy’n hawliau cyfreithiol. Maent yn ychwanegol at unrhyw hawliau sydd gennych o dan eich cytundeb cyflogaeth. Mae’r hawliau cyfreithiol sydd gennych yn cynnwys:

  • Hawl wrth ddatganiad ysgrifenedig o’r amodau cyflogaeth
  • Hawl wrth gyfriflen cyflog wedi'i eitemeiddio
  • Hawl wrth seibiant mamolaeth
  • Hawl wrth iawndal oherwydd diswyddiad
  • Hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg.

Yn gyffredinol, gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar unrhyw amodau yn y cytundeb cyflogaeth. Fodd bynnag, ni fedrwch gytuno ar amod gytundebol sy’n rhoi llai o hawliau i chi na’ch hawliau cyfreithiol. Os ydych wedi cytuno i amod cytundebol sy’n rhoi llai o hawliau i chi na’ch hawlliau cyfreithiol, er enghraifft, eich bod wedi cytuno i beidio â chymryd seibiant mamolaeth, ni fydd eich cyflogwr yn medru gweithredu’r amod gytundebol. Bydd gennych hawl cyfreithiol wrth seibiant mamolaeth.

Mae yna reolau penodol mewn perthynas â Iechyd a Diogelwch. Er enghraifft, os ydych yn credu bod darn o gyfarpar neu broses yn beryglus, mae gennych yr hawl i wrthod ei ddefnyddio a mynnu bod y cyflogwr yn cymryd camau diogelwch derbyniol.

Os yw eich cyflogwr yn ceisio gorfodi amod gytundebol a fydd yn rhoi llai o hawliau i chi na’ch hawliau cyfreithiol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Pobl ar gytundebau cyfnod sefydlog

Mae yna reolau arbennig ynglŷn â gweithwyr sydd ar gytundebau cyflogaeth sefydlog, golyga hyn bod y cytundeb yn cynnwys dyddiad pan fydd y cytundeb yn dod i ben.

Os ydych yn weithiwr sydd ar gytundeb tymor sefydlog, dylech chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Cyfnodau prawf

Mae’n gyffredin i gyflogwyr drin gweithwyr newydd fel eu bod ar gyfnod prawf pan yn dechrau gweithio. Mae’r cyflogwr yn medru dadlau iddynt eich di-swyddo tra eich bod ar gyfnod prawf. Mae cyflogwyr yn dadlau’n aml nad oes gan weithwyr hawliau cyflogaeth arferol wrth, er enghraifft, cyflog neu wyliau, yn ystod y ‘cyfnod prawf’.

Nid oes y fath beth â chyfnod prawf yn bodoli yn ôl y gyfraith. Unwaith eich bod wedi dechrau gweithio, mae’r nifer o wythnosau a weithiwyd yn cychwyn o’r diwrnod yr ydych yn cychwyn yn eich swydd, ac nid pan fydd y cyfnod prawf wedi dod i ben. Mae eich hawliau cytundebol llawn hefyd yn cychwyn o’ch diwrnod cyntaf yn y swydd, oni bai fod eich cytundeb yn dweud yn wahanol.

Ond, mae'n bosib y bydd eich cytundeb yn cynnwys amodau sydd ond yn berthnasol yn ystod eich cyfnod prawf ac sy'n llai ffafriol na'r rheiny sy'n berthnasol pan fydd eich cyfnod prawf wedi dod i ben. Ni ddylai'r amodau hyn gymryd eich hawliau statudol oddi wrthych.

Mae eich cyflogwr yn medru ymestyn eich cyfnod prawf, tra bod eich cytundeb yn dweud ei fod yn cael gwneud hyn. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr am ymestyn eich cyfnod prawf er mwyn cael mwy o amser i asesu eich perfformiad. Ond, fe fydd ond yn medru gwneud hyn os oes amod yn eich cytundeb sy'n dweud bod modd ymestyn eich cyfnod prawf yn yr amgylchiadau hyn.

Gweithwyr a gyflogir ar gyfres o gytundebau tymor byr

Fe fydd rhai o'ch hawliau cyflogaeth ond yn dod i rym wedi i chi weithio i gyflogwr am gyfnod penodol o amser. Rhaid bod hwn yn gyfnod parhaus o gyflogaeth. Fe fydd rhai cyflogwyr yn eich cyflogi ar gyfres o gytundebau tymor byr er mwyn ceisio eich atal rhag ennill eich hawliau statudol.

Os ydych wedi cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr ar gyfres o gytundebau tymor byr, mae yna rai amgylchiadau ble mae modd 'uno' cytundebau at ei gilydd i ddarparu cyflogaeth barhaus. Mae hyn yn golygu eich bod yn gymwys i hawliau statudol.

Os cawsoch eich cyflogi ar gyfres o gytundebau tymor byr, dylech siarad â, chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Os yw’ch cyflogwr yn cyfeirio atoch fel gweithiwr achlysurol

Mae rhai cyflogwr yn cyfeirio at eu gweithwyr fel gweithwyr achlysurol er mwyn osgoi rhoi'r hyn sy'n ddyledus iddynt o dan gyfraith cyflogaeth. Hyd yn oed os yw'ch cyflogwr yn dweud eich bod yn weithiwr achlysurol, nid yw hyn yn golygu mai dyna beth ydych chi.

I ddarganfod pa hawliau sydd gennych os yw'ch cyflogwr yn dweud eich bod yn weithiwr achlysurol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Os yw’ch cyflogwr yn cyfeirio atoch fel gweithiwr dan hyfforddiant

Mae’n bosib fod eich cyflogwr yn eich galw'n ‘weithiwr dan hyfforddiant’ yn eich cytundeb cyflogaeth er mwyn ceisio eich atal rhag cael eich hawliau statudol.

Ond, nid yw hyn, o angenrheidrwydd yn golygu eich bod yn weithiwr dan hyfforddiant. Mae'n bwysig edrych ar y berthynas weithio rhyngoch chi a'ch cyflogwr a'r hyn sydd yn eich cytundeb cyflogaeth, i weld a ydych yn weithiwr dan hyfforddiant mewn gwirionedd neu a oes gennych yr un hawliau a gweithwyr eraill - gweler y pennawd Sut i ddweud os ydych yn gyflogedig ai peidio.

Er enghraifft, rydych wedi bod ar gynllun Dysgu yn y Gwaith ar gyfer pobl ifanc ond erbyn hyn wedi gorffen y cynllun ac wedi cael eich cyflogi. Fe fydd gennych yr un hawliau statudol ag unrhyw weithiwr arall. Fe fydd yr hawliau hyn gennych o'r diwrnod cyntaf yr ydych yn cael eich cyflogi, os nad yw'ch cytundeb cyflogaeth yn nodi fel arall.

Ond, fe allai eich cytundeb gynnwys amodau sydd ond yn berthnasol i gyfnodau penodol o amser ac sy'n llai ffafriol na'r rheiny sy'n berthnasol pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Nid yw'r amodau hyn yn medru cymryd eich hawliau statudol oddi wrthych.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Dysgu yn y Gwaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Cynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth.

I ddarganfod pa hawliau sydd gennych os yw'ch cyflogwr yn cyfeirio atoch fel gweithiwr dan hyfforddiant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Newidiadau i gytundebau

Mae’n bosib bod gennych broblem yn y gweithle oherwydd bod eich cyflogwr yn dymuno newid eich cytundeb. Mewn gwirionedd cynigiad ydyw i newid y cytundeb cyflogaeth os, er enghraifft, yw eich cyflogwr yn dymuno:

  • Newid y math o waith yr ydych yn ei wneud
  • Newid gweithle’r gweithwr
  • Gostwng eich cyflog
  • Newid y nifer o oriau yr ydych yn eu gweithio

Mewn egwyddor, nid yw eich cyflogwr yn medru newid amod yn eich cytundeb heb i chi gytuno i dderbyn y newid. Yn ymarferol, mae’n bosib y byddwch yn wynebu'r dewis o dderbyn y newid neu golli’r swydd. Fodd bynnag, mae’n bosib gweithredu yn erbyn y cyflogwr os ydych yn anghytuno gyda’r newid.

Cyn y gallwch benderfynu beth yw eich hawliau mewn perthynas â’r newidiadau cynigiedig i’r cytundeb, mae’n hanfodol darganfod beth sydd gan y cytundeb presennol i’w ddweud am y mater. Dylech edrych yn ofalus ar gopi o unrhyw gytundeb ysgrifenedig a/neu ddatganiad ysgrifenedig o’r amodau a thelerau (gweler y pennawd Hawl person cyflogedig i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth). Os nad oes gennych un yn barod, fe’ch cynghorir i ofyn i’r cyflogwr am ddatganiad ysgrifenedig o’r amodau a’r telerau.

Mae’n bwysig cofio y gallai gweithredu yn erbyn cyflogwr oherwydd newid yn y cytundeb olygu y gallech golli eich swydd. Felly dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban am eich hawliau os ydyw cyflogwr am newid eich cytundeb gweler Newid cytundebau cyflogaeth yn y Taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Cytundebau heb oriau gwaith penodol

Cytundebau sero a chytundebau cyfnodau allweddol

Cytundebau cyflogaeth sydd ddim yn nodi y nifer o oriau y disgwylir i’r gweithiwr i weithio yw ‘cytundebau sero’. Maent yn gyffredin ymhlith gweithwyr siop. Dywed y cytundeb yn lle gweithio nifer penodol o oriau fesul wythnos, rhaid i chi fod yn barod i weithio pryd bynnag y gofynnir i chi.

Mae ‘cytundebau cyfnodau allweddol’ yn sicrhau peth gwaith ar eich cyfer, ond ni sicrheir oriau rheolaidd yn wythnosol.

Y broblem gyda ‘chytundebau sero’ a chytundebau cyfnodau allweddol yw eich bod yn cael eich talu am yr oriau yr ydych yn gweithio yn unig, felly hyd yn oed os oes yn rhaid i chi ddisgwyl gwaith yn y gweithle neu aros ger y ffôn yn eich cartref, ni chewch eich talu am yr amser aros yma.

Ond, o dan y gyfraith, os ydych ar gytundeb oriau sero, mae gennych yr hawl i l gael eich talu am unrhyw amser y mae'n rhaid i chi fod yn y gwaith yn aros am waith, onid yw'ch cytundeb cyflogaeth yn dweud fel arall. Dylid talu'r gyfradd arferol, fesul awr, i chi neu, fan lleiaf, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.

Beth os nad yw’r cytundeb yn nodi’r nifer o oriau fydd yn rhaid i’r gweithiwr weithio

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i roi datganiad ysgrifenedig i bob gweithiwr o’u hamodau a thelerau cyflogaeth (gweler y pennawd Hawl person cyflogedig i fanylion ysgrifenedig ynglyn â'r cytundeb cyflogaeth). Rhaid iddo gynnwys amodau a thelerau ynglŷn ag oriau gwaith, yn cynnwys oriau wythnosol arferol, unrhyw ofynion oriau ychwanegol, cyfradd cyflog a pha mor aml y cewch eich talu.  Nid eich cytundeb yw'r datganiad hwn ond mae'n dangos bod un gennych a rhan o'r hyn y mae'n ei gynnwys.

Hyd yn oed os nad yw'ch cytundeb yn rhoi manylion y nifer o oriau y mae'n rhaid i chi eu gweithio bob wythnos, ac mae ond yn dweud y bydd yr ‘oriau gwaith yn amrywio bob wythnos’, mae'n dal i fod yn gytundeb cyfreithiol.

Os yw eich cytundeb yn datgan nad oes gennych oriau gwaith sefydlog a bod yn rhaid i chi fod ar gael i weithio, ond yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw eich bod yn gweithio yr un nifer o oriau bob diwrnod/wythnos, yna mae’n bosib y daw’n amod gweithredol yn eich cytundebau (gweler y pennawd Beth yw cytundeb cyflogaeth) fod gennych nifer o oriau gwaith sefydlog bob diwrnod/ wythnos. Os ydych yn bodloni gweithio’r nifer yma o oriau ond nad ydych yn derbyn gwaith i’w wneud mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio eich cyflog arferol ar gyfer yr oriau yma.

Os ydych yn weithiwr yn y sefyllfa yma, dylech gysylltu â chynghorydd cyflogaeth arbenigol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Cytundebau cyflogaeth anghyfreithlon

Bydd gennych gytundeb cyflogaeth anghyfreithlon os:-

  • Byddwch yn derbyn eich cyflog neu ran ohono mewn arian parod, a
  • Ni thelir cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol ar drethi pan ddylid eu talu, a
  • Roeddech yn ymwybodol eich bod yn cael eich talu yn y modd yma er mwyn osgoi talu treth a/neu gyfraniadau yswiriant gwladol.

Bydd cytundeb yn anghyfreithlon hefyd os y bwriedir ef ar gyfer gweithred anfoesol neu anghyfreithiol.

Ni ystyrir cytundeb cyflogaeth yn anghyfreithlon os mai un o’r pleidiau yn unig sydd ddim yn cyhoeddi’r taliadau a/neu yn gwneud y didyniadau gofynnol.

Os yw cytundeb yn ceisio clymu hawliau cyfreithiol, nid yw’n gytundeb anghyfreithlon ond ni ellir eu gweithredu'n gyfreithiol (gweler y pennawd Sut mae'r hawliau yn nghytundeb y person cyflogedig yn ymwneud â'r gyfraith).

Os ydych yn amau fod gennych gytundeb cyflogaeth anghyfreithlon, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost. Cliciwch ar CAB agosaf.

Bondiau ffyddlondeb/indemniad

Math o bolisi yswiriant yw bond ffyddlondeb neu fond indemniad a brynir gan gyflogwyr i ddiogelu eu hunain rhag ymddygiad anonest eu gweithwyr. Bydd y wybodaeth sy’n ofynnol ynglŷn â’r gweithiwr yn amrywio o un cwmni yswiriant i’r llall, a bydd yn dibynnu ar y math o bolisi a brynwyd gan y cyflogwr. Weithiau bydd y cyflogwr yn gorfod rhoi eich henw chi yn unig i’r cwmni yswiriant, a weithiau bydd yn rhaid i chi arwyddo datganiad yn dweud nad oes gennych unrhyw euogfarnau. Os ydyw euog farniad o dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr wedi ei dreulio, nid oes yn rhaid i chi ei gyhoeddi.

Os yw’r wybodaeth amdanoch yn cael ei gadw ar gyfrifiadur gan y cwmni yswiriant, yna mae gennych hawl i’w weld o dan y Ddeddf Amddiffyn Data.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Ddeddf Diogelu Data, Defnyddio'r gyfraith i ddiogelu eich gwybodaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch datgan euogfarnau troseddol yn y gwaith, gweler Cwestiynau cyffredin ynghylch cyflogaeth.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.