Gorddrafftiau Banc

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â gorddrafftiau banc

Mae’r wybodaeth hon yn dweud wrthych beth yw gorddrafft banc ac yn rhoi rhai awgrymiadau sut i osgoi gordynnu heb ganiatad.

Gorddrafftiau y cytunwyd arnynt

Fe allwch chi ofyn i’r banc am gytuno eich bod yn gallu codi mwy o arian allan o’ch cyfrif banc nag sydd yno. Gelwir hyn yn orddrafft wedi’i awdurdodi neu yn un y cytunwyd arno. Gall y gorddrafft fod am swm penodol dros gyfnod penodol, er enghraifft £500 i’w ad-dalu o fewn chwe mis. Neu efallai y rhoddir cyfyngiad i chi ar sail barhaus i’w ddefnyddio pryd y mynnoch.

Codir llog arnoch bob dydd ar y swm yr ydych yn ei ordynnu. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu ffî gweinyddu neu ffî trefnu pan fyddwch yn trefnu gorddrafft.

Nid oes angen cytundeb ysgrifenedig ar gyfer gorddrafft ond fel arfer fe fydd y banc yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r trefniant.

Os ydych chi’n mynd dros y cyfyngiad y cytunwyd arno, efallai y bydd y banc yn dychwelyd (bownsio) sieciau neu daliadau eraill a chodi ffîoedd ychwanegol a llog arnoch. Felly mae’n syniad da i adael i’r banc wybod os ydych chi am gynyddu’ch gorddrafft.

Gordynnu heb gytundeb

Os ydych chi’n gordynnu heb gytuno i hyn gyda’r banc yn gyntaf, fe’i gelwir yn orddrafft heb awdurdod. Ceisiwch osgoi hyn rhag digwydd gan ei fod yn llawer drutach na gorddrafft y cytunwyd arno. Fel arfer codir graddfa llog llawer uwch arnoch yn ogystal â ffî ddyddiol. Bydd y banc fel arfer yn dychwelyd (bownsio) unrhyw sieciau a ysgrifennir gennych ac unrhyw daliadau eraill megis debydau uniongyrchol o’ch cyfrif. Codir tâl ychwanegol arnoch am eitemau sydd heb eu talu.

Er mwyn osgoi hyn rhag digwydd, cadwch gofnod o bopeth yr ydych yn ei dalu allan o’ch cyfrif banc, gan gynnwys codiadau arian parod, debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog. Cadwch wiriad gofalus o’r swm arian sy’n weddill (y balans) yn eich cyfrif banc a cheisiwch gofio gwirio’ch cyfriflenni cyn gynted ag y derbyniwch hwynt.

Os ydych chi’n credu y byddwch yn gordynnu, cysylltwch â’ch banc ar unwaith er mwyn gwneud cytundeb.

Beth i’w wneud os oes gennych broblem i ad-dalu’ch gorddrafft

Os na allwch chi ad-dalu’ch gorddrafft neu’n cael eich hun yn dibynnu arno dros dymor hir, efallai fod gennych broblemau ariannol. Siaradwch â’r banc am eich opsiynau. Mae’r Cod Bancio yn dweud y dylai’r banc eich trin gyda chydymdeimlad. Os ydych chi’n credu nad yw’ch banc yn gwneud hyn fe allwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Am fwy o wybodaeth am y Cod Bancio a beth ddylai’ch banc ei wneud, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Os ydych chi’n cael trafferth i ad-dalu’ch gorddrafft neu os oes gennych ddyledion eraill, fe allwch gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Taliadau gorddrafft annheg

Os ydych chi’n gordynnu ar eich cyfrif heb gytundeb hyd yn oed am gyfnod byr, efallai y codir taliadau gorddrafft arnoch. Gall y rhain fod yn uchel a chynyddu’n gyflym iawn os na allwch chi ddod i gytundeb gyda’r banc. Os ydy hyn yn digwydd, efallai y gallwch chi herio taliadau gorddrafft annheg. Er enghraifft, efallai y gallwch chi herio'r taliadau os aethoch chi dros y terfyn am gyfnod byr neu am swm bychan.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i herio taliadau gorddrafft annheg, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am ddulliau gwahanol o fenthyg arian a chael credyd, gweler Dulliau o fenthyca.

Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Moneysavingexpert

www.moneysavingexpert.com

Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS)

www.financial-ombudsman.org.uk

Cymdeithas Bancwyr Prydain

www.bba.org.uk

Bwrdd Safonau Cod Banciau (BCSB)

gwefan, ewch i: www.bankingcode.org.uk

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 10 Ionawr 2023