Benthyciadau Undeb Credyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn ag undebau credyd

Cwmni cydweithredol hunangymorth ydyw undeb credyd ac mae ei aelodau yn cyfuno eu cynilon er mwyn darparu credyd i’w gilydd ar gyfradd llog isel. Er mwyn bod yn rhan o undeb credyd mae’n rhaid i chi rannu cyswllt cyffredin gydag aelodau eraill. Mae hyn yn rywbeth sy’n gyffredin i chi gyd megis:

  • byw neu weithio yn yr un ardal

  • gweithio i’r un cyflogwr

  • perthyn i’r un eglwys, undeb llafur neu gymdeithas arall.

Mae gan bob undeb credyd ei fond cyffredin ei hun, ond fel arfer fe fydd yn seiliedig ar yr enghreifftiau uchod. Os yw rheolau undeb credyd yn caniatáu hynny, mae’n medru cael mwy nag un bond cyffredin. Mae hyn yn golygu efallai y caiff bond cyffredin sy’n seiliedig ar fudiad cymunedol lleol, er enghraifft cymdeithas tenantiaid neu glwb cymdeithasol sy’n gysylltiedig â gweithle, ei gyfuno gyda bond cyffredin sy’n seiliedig ar fyw neu weithio mewn ardal benodol. Felly, os ydych yn byw tu allan i ardal a wasanaethir gan undeb credyd, fe allech ymuno â’r undeb credyd o hyd, os ydych yn denant i gymdeithas tai sy’n gysylltiedig â’r undeb credyd neu os ydych yn gyflogedig gan gwmni cenedlaethol y mae ei weithle lleol yn gysylltiedig â’r undeb credyd.

Os oes un aelod o’ch teulu eisoes yn aelod o undeb credyd, fel arfer gall perthnasau eraill sy’n byw yn yr un cyfeiriad ymuno hefyd.

Cael benthyciad oddi wrth undeb credyd

Mae’r rhan fwyaf o fenthyciadau undebau credyd am gyfnod o bum mlynedd neu deng mlynedd os ydynt wedi’u gwarantu yn erbyn eich eiddo. Gall rhai undebau credyd roi benthyg arian am gyfnodau hirach na hyn. Mae’r rhan fwyaf o undebau credyd yn codi cyfraddau llog isel. Mae benthyciadau undebau credyd fel arfer yn rhatach na chredyd cartref.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyciadau wedi’u gwarantu, gweler Morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chredyd cartref gweler Credyd Cartref (benthyciadau carreg drws).

Fe allwch chi weithio allan faint fydd benthyciad undeb credyd yn ei gostio i chi trwy ddefnyddio’r cyfrifiannell benthyciadau ar wefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL): www.abcul.coop.

Os nad ydych yn ad-dalu benthyciad undeb credyd, efallai y bydd yr undeb credyd yn dileu’ch aelodaeth. Fe allan nhw hefyd fynd â chi i’r llys i gael eu harian yn ôl.

Os ydych chi’n cael trafferth i ad-dalu benthyciad undeb credyd neu ddyled arall, fe allwch gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Ble mae dod o hyd i undeb credyd

Fe allwch chi gael gwybodaeth am undebau credyd o wefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL) yn www.findyourcreditunion.co.uk neu wefan Gwasanaethau Undebau Credyd ACE yn www.acecus.org/pages.

Yn yr Alban fe allwch chi gael gwybodaeth am undebau credyd trwy wirio gwefan aelodau Cynghrair Undebau Credyd yr Alban yn www.scottishcu.org.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am ddulliau gwahanol o fenthyg arian a chael credyd gan gynnwys delio â siarcod benthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.

Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar eu gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL)

www.abcul.org.uk.

Gwasanaethau Undebau Credyd ACE

www.acecus.org/pages.

Cynghrair Undebau Credyd yr Alban

www.scottishcu.org.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020