Credyd Cartref (Benthyciadau carreg drws)

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â chredyd cartref

Mae credyd cartref, neu fenthyciadau carreg drws, yn golygu eich bod yn benthyg arian a bod y benthyciwr yn galw yn eich carterf i gasglu’r ad-daliadau. Mae’r benthyciadau fel arfer ar gyfer symiau llai ac fe godir cyfradd llog uchel arnoch am fenthyg yn y ffordd hon.

Gwirio os yw’r benthyciwr yn awdurdodedig

Mae’r gyfraith yn nodi fod rhaid i fenthycwyr credyd cartref fod wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Nid oes angen i asiantau benthycwyr credyd cartref gael eu hawdurdodiad FCA eu hunain, ond gall yr awdurdodiad hwnnw ddod o dan y benthyciwr y mae'n ei gynrychioli.

Gallwch weld a yw benthyciwr credyd cartref wedi'i awdurdodi trwy wirio'r Gofrestr ar wefan yr FCA yn www.fca.org.uk.

Os yw rhywun yn cynnig benthyg arian i chi ar garreg drws, mae’n syniad da i ofyn am gael gweld eu trwydded benthyciwr neu awdurdodiad arall. Os nad oes ganddynt un, maen nhw’n gweithredu’n anghyfreithlon ac fe ddylech chi osgoi benthyca oddi wrthynt.

Am fwy o wybodaeth am fenthyca anghyfreithlon, gweler Siarcod benthyg.

Cwyno am gredyd cartref

Mae llawer o fenthycwyr credyd cartref yn perthyn i Gymdeithas Credyd Defnyddwyr (CCA) ac yn dilyn Cod Ymarfer y CCA. Os oes gennych broblem gydag aelod o CCA, gallwch gwyno wrth y CCA. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas Credyd Defnyddwyr a’i chod ymarfer ar wefan y CCA yn: www.ccauk.org.

Mae’n drosedd i geisio rhoi benthyciad arian i chi y tu allan i adeilad masnachu oni bai fod yr ymweliad â’ch cartref yn ymateb i gais ysgrifenedig sy wedi’i lofnodi. Os nad yw cytundeb yn cael ei drefnu’n gywir, ni all y benthyciwr eich gorfodi i ad-dalu’r arian.

Os nad ydych yn siwr a yw cytundeb wedi’i drefnu’n gywir ai peidio, fe allwch gael cymorth oddi wrth ymgynghorydd, er enghraifft mewn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os na all cwyn am fenthyciwr credyd cartref gael ei datrys gyda'r benthyciwr neu gan y Gymdeithas Credyd Defnyddwyr, gall y gŵyn gael ei chyfeirio at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Cymharu benthyciadau credyd cartref

Fe allwch chi gymharu benthyciadau credyd cartref ar Cymharu Benthycwyr (Lenders Compared), gwefan gymharu annibynnol yn: www.lenderscompared.org.uk.

Sieciau a thalebau masnachu

Gall benthycwyr carreg drws hefyd gynnig sieciau a thalebau masnachu. Gellir cyfnewid y rhain am nwyddau, dillad a dodrefn meddal fel arfer ac mewn siopau penodol fel arfer. Fe allwch chi ad-dalu’r swm i asiant y cwmni fydd fel arfer yn galw yn eich cartref. Yn aml iawn mae’r cyfraddau llog yn uchel iawn ar gyfer y math yma o gredyd.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y dulliau gwahanol o fenthyca arian a chael credyd yn cynnwys delio â siarcod benthyg arian, gweler Mathau o fenthyciadau.

Fe allwch chi hefyd gael y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn ddefnyddiol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Cymdeithas Credyd Defnyddwyr (CCA)

www.ccauk.org.

Cofrestr awdurdodiad yr FCA

www.fca.org.uk

Cymharu Benthycwyr (Lenders Compared)

www.lenderscompared.org.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.