Benthyciadau diwrnod cyflog - rhesymau dros gwyno am eich benthyciwr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae benthyciad diwrnod cyflog yn fenthyciad tymor byr i'ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd hyd nes i chi gael eich talu. Maen rhaid i'r rhan fwyaf o fenthycwyr diwrnod cyflog ddilyn Siarter Arfer Da i Gwsmeriaid. Rhaid iddyn nhw hefyd ddilyn rhai rheolau a bennir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu y dylen nhw sicrhau rhai pethau a rhoi peth gwybodaeth benodol i chi cyn benthyg i chi.

Os na fydd benthyciwr diwrnod cyflog yn dilyn y rheolau, gallwch gwyno. Os nad ydych yn hapus gyda'r ymateb neu os nad ydyn nhw'n dod yn ôl atoch o fewn wyth wythnos, gallwch gwyno at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi gwyno amdano os nad yw'ch benthyciwr diwrnod cyflog yn dilyn y rheolau.

Gair o gyngor

Rhannwch eich profiad o fenthyg gyda benthyciwr diwrnod cyflog gyda ni. Gallwch helpu Cyngor ar Bopeth i sicrhau bod benthycwyr diwrnod cyflog yn ymddwyn mewn ffordd deg a chyfrifol ac yn dilyn y rheolau yn y dyfodol.

Arolwg benthyciadau diwrnod cyflog

Beth fedrwch chi gwyno yn ei gylch

Gallwch  gwyno am eich benthyciwr diwrnod cyflog yn yr achosion canlynol:

  • nid oedd y benthyciwr wedi egluro faint fyddai'n ei gostio ar y cyfan i ad-dalu'r benthyciad - dylech fod wedi cael enghraifft o'r pris am bob £100 a fenthycwyd, gan gynnwys ffioedd a thaliadau.

  • ni chawsoch wybodaeth lawn neu fanwl gywir am sut i ad-dalu'ch benthyciad a phryd - esboniwch beth oedd ar goll neu'n anghywir

  • nid oedd y benthyciwr wedi ymchwilio i'ch sefyllfa ariannol neu'ch amgylchiadau personol i weld os oeddech mewn sefyllfa i ad-dalu'r benthyciad - esboniwch unrhyw beth y dylai fod wedi ei ystyried, er enghraifft eich oed, iechyd meddwl, statws cyflogaeth, incwm, gwariant, prawf o pwy ydych chi neu hanes ariannol

  • nid oedd y benthyciwr wedi dweud wrthych na ddylid defnyddio benthyciadau diwrnod cyflog i fenthyg dros dymor hir neu os ydych mewn trafferthion ariannol

  • nid oedd y benthyciwr wedi dweud wrthych beth ddylech chi ei wneud os oes cwyn gennych

  • nid oedd y benthyciwr wedi nodi'n glir sut mae'r awdurdod i gymryd taliadau parhaus (CPA) yn gweithio a'ch hawl i'w ganslo. Gyda CPA rydych yn cytuno i ad-dalu'r benthyciad trwy gyfres o ddidyniadau oddi ar eich cerdyn credyd neu ddebyd

  • nid oedd y benthyciwr wedi dweud wthych ymlaen llaw ei fod yn mynd i gymryd arian o'ch cyfrif gan ddefnyddio'r CPA.

  • nid oedd y benthyciwr wedi cynnwys risg rhybuddio am ad-daliad hwyr yn ei hysbyseb ar-lein, neu mewn hysbyseb a anfonwyd atoch trwy e-bost neu neges destun. O 1 Gorffennaf ymlaen, rhaid i bob hysbyseb benthyciadau diwrnod cyflog gynnwys y rhybudd.

Os ydych wedi cael trafferth ad-dalu'r benthyciad

Os ydych wedi cael trafferth ad-dalu'r benthyciad, gallwch gwyno os yw un o'r canlynol yn wir am eich benthyciwr diwrnod cyflog:

  • nid oedd wedi delio gyda chi mewn ffordd sympathetig a phositif

  • nid oedd wedi cynnig rhewi'r llog a'r taliadau os ydych yn medru talu dan gynllun ad-dalu rhesymol

  • nid oedd wedi dweud wrthych am fudiadau cynghori ar ddyled annibynnol, rhad ac am ddim

  • roedd wedi rhoi pwysau arnoch i ymestyn y benthyciad – esboniwch sawl gwaith yr ydych wedi gwneud hyn a faint yr oeddech wedi ei dalu bob tro

  • nid oedd wedi dweud wrthych am beryglon ymestyn y benthyciad

  • nid oedd wedi egluro faint yn union y byddai'n ei gostio i ymestyn y benthyciad - rhowch fanylion yr wybodaeth yr oedd heb ei rhoi i chi

  • nid oedd wedi ymchwilio i'ch sefyllfa ariannol bersonol a'ch sefyllfa gyffredinol i weld os ydych mewn sefyllfa i ad-dalu'r benthyciad estynedig.

Pethau eraill i'w cynnwys yn eich cwyn

Pan fyddwch chi'n cwyno, efallai y bydd yna bethau eraill fedrwch chi eu dweud am y ffordd y mae'r benthyciad wedi effeithio ar eich bywyd, a allai effeithio ar ganlyniad eich cwyn. Er enghraifft, a ydych chi'n medru dweud:

  • bod yna bethau na fedrwch chi eu fforddio mwyach o ganlyniad i'r benthyciad?

  • sut mae'r benthyciad wedi effeithio ar eich bywyd fel teulu?

  • eich bod yn teimlo bod eich dyled tu hwnt i bob reolaeth?

Sut i gwyno

Gallwch ddefnyddio'r rhesymau ar y rhestr wirio hon i'ch helpu i gwyno i'ch benthyciwr diwrnod cyflog neu i'r Ombwdsmon Ariannol.

Os byddwch yn llenwi ein harolwg cyflym ac yn gadael eich rhif ffôn ar y diwedd, bydd rhywun o'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn eich ffonio'n ôl i siarad â chi am eich cwyn.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Mawrth 2021