Benthyciadau myfyrwyr a Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â benthyciadau myfyrwyr a Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio pwy all gael benthyciad myfyrwyr neu Fenthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa a ble cewch hyd i fwy o wybodaeth amdanynt.

Benthyciadau myfyrwyr

Mae benthyciadau myfyrwyr yn fenthyciadau llog isel a gaiff eu hawdurdodi gan y Llywodraeth trwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC).

Mae pa gymorth ariannol y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble rydych yn byw wrth astudio a’ch amgylchiadau unigol. Gall y mwyafrif o fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth ar gyfer eu costau byw.

Fel arfer nid oes yn rhaid i chi dalu’r benthyciad yn ôl tan eich bod wedi gadael y coleg neu’r brifysgol ac rydych yn ennill swm penodol o incwm.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am fenthyciadau myfyrwyr a mathau eraill o gyllid myfyrwyr, megis grantiau a bwrsarïau, ar wefan SLC www.slc.co.uk.

Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa

Darperir Benthyciadau Datblygu Gyrfa gan rai banciau ar gyfer pobl sydd am astudio cwrs ond nid oes ganddynt yr arian i dalu amdano. Rhaid i’r cwrs a ddewiswch ddarparu sgiliau a fydd yn eich helpu i gael swydd newydd neu wella yn eich swydd gyfredol, megis Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, neu Gymwysterau Galwedigaethol Yr Alban (SVQs), gradd y Brifysgol Agored neu gyrsiau ôl raddedig.

Rydych yn cytuno gyda’r banc faint ydych am ei fenthyg a chyfnod ad-dalu’r benthyciad. Y llywodraeth fydd yn talu’r llog ar y benthyciad tra’ch bod yn astudio.

Pan ydych yn gorffen eich cwrs, byddwch yn dechrau ad-dalu’r benthyciad a’r llog. Ceisiwch ad-dalu’r benthyciad cyn gynted ag y gallwch neu bydd y llog yn cynyddu.

Cewch fwy o wybodaeth am Fenthyciadau Datblygu Gyrfa ar wefan Moneysavingexpert yn www.moneysavingexpert.com.

Effeithiau ar fudd-daliadau

Gall Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau felly cysylltwch â’ch swyddfa budd-daliadau cyn gwneud cais amdano.

Cewch fwy o wybodaeth am sut all Benthyciad Proffesiynol a Datblygu Gyrfa effeithio ar eich budd-daliadau gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cymorth drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y wahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Gallai’r wybodaeth ganlynol ar Adviceguide fod yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar eu gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Directgov

www.direct.gov.uk.

Moneysavingexpert

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyciadau myfyrwyr a chyllid, ewch at www.moneysavingexpert.com.

Am fwy o wybodaeth am Fenthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa, ewch at www.moneysavingexpert.com.

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

www.slc.co.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.