Cardiau plastig

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â chardiau plastig

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio’r prif fathau o gardiau plastig y gallwch eu defnyddio i brynu pethau ar gredyd. Gair arall yw credyd am fenthyca. Pan ydych yn benthyg arian neu’n cael credyd, mae’n rhaid i chi lofnodi cytundeb credyd. Mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n nodi’r cytundeb sydd rhyngoch chi a’r benthyciwr.

Mae yna fathau eraill o gardiau plastig, er enghraifft, cardiau debyd a chardiau rhagdal nad ydynt yn gardiau credyd. Pan ydych yn prynu ar y cardiau hyn, rydych yn defnyddio’r arian sydd eisoes yn eich cyfrif banc neu arian sydd wedi ei roi ar y garden.

Cardiau credyd

Gallwch gael cerdyn credyd gan fanciau, cwmnïau cyllid ac archfarchnadoedd a siopau cadwyn mawr. Gallwch wario hyd at eich terfyn credyd. Os ydych yn talu’r cyfanswm erbyn y dyddiad dyledus, ni chodir llog arnoch. Os nad ydych yn ei dalu, mae’n bosib y bydd angen i chi dalu llog ar y swm sy’n ddyledus. Mae swm y llog yn amrywio rhwng pob darparwr felly chwiliwch am y cynllun gorau.

Os ydych yn mynd dros eich terfyn credyd, gallai’r darparwr godi tâl arnoch a bydd angen i chi dalu ffi flynyddol i rai cwmnïau.

Gellir defnyddio cardiau credyd i brynu nwyddau unrhyw le, gan gynnwys dros y ffôn, ar-lein neu drwy’r post.

Am fwy o wybodaeth am gymharu cyfraddau llog, gweler Cael y ddêl orau ar gredyd.

Am fwy o wybodaeth am ddewis a defnyddio cardiau credyd, gweler Cardiau credyd.

Cardiau siop

Mae gan lawer o siopau fathau eu hun o gyfrifon credyd a elwir yn gardiau siopau. Mae yna ddau brif fath o gyfrif:

  • cyfrif misol lle codir tâl os nad yw’r cyfanswm yn cael ei dalu ar ddiwedd pob mis (fel cerdyn credyd)

  • cyfrif cyllideb lle talwch swm rheolaidd bob mis i dalu am gost y nwyddau a brynwyd trwy gydol y flwyddyn (fel benthyciad).

Gallwch fel arfer dim ond defnyddio cardiau siop i brynu nwyddau yn y siop a gyhoeddodd y garden neu ei siopau partner.

Mae llawer o gardiau siop yn cynnig disgownt ar nwyddau yn y siop. Fodd bynnag, mae’r llog a godir yn gallu bod yn uwch na llog benthyciadau o’r banc neu gardiau credyd felly gwiriwch pa un sy’n rhatach yn gyffredinol.

Peidiwch â chymysgu cardiau siop gyda chardiau credyd siop y gallwch eu defnyddio unrhyw le, nid yn unig yn y siop sydd wedi ei enwi ar y garden. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am gardiau siop ar wefan y MoneySavingExpert yn www.moneysavingexpert.com.

Cardiau codi tâl

Mae cardiau codi tâl yn wahanol i gardiau credyd oherwydd mae’n rhaid i chi dalu’r cyfanswm ar ddiwedd cyfnod cytunedig, fel arfer bob mis. Ni chodir tâl ar y swm yr ydych yn ei fenthyg ond mae’n bosib y bydd angen i chi dalu ffi flynyddol am y garden.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Gallai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide hefyd fod yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

MoneySavingExpert

www.moneysavingexpert.com.

Dewis a defnyddio

www.choosingandusing.com.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.