Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Holwch a allwch chi gael mwy o gymorth wrth roi tystiolaeth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai bod modd i chi gael mwy o gymorth wrth i chi roi tystiolaeth yn y llys os:

  • ydych chi dan 18 – darllenwch fwy am gael help fel tyst ifanc

  • ydych chi’n anabl

  • ydych chi wedi dioddef problemau iechyd meddwl

  • ydych chi’n ofn i roi tystiolaeth oherwydd eich bod rhywun yn eich bygwth chi
  • ydych ch wedi dioddef cam-drin domestig neu drosedd rhywiol
  • ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd gyda gwn neu gyllell



Os yw’r llys yn penderfynu eich bod angen cymorth arbennig i roi tystiolaeth, gallant drefnu:

  • eich bod yn eistedd y tu ôl i sgrin fel na all y diffynnydd eich gweld

  • eich bod yn rhoi tystiolaeth y tu allan i ystafell y llys ar gyswllt fideo

  • bod y cyfreithwyr a’r barnwyr yn tynnu eu wigiau a’u gynau

  • bod y cyhoedd yn gadael ystafell y llys, os yw’r achos yn ymwneud â throsedd rywiol

  • bod rhywun yn eistedd gyda chi yn y llys neu yn yr ystafell cyswllt fideo i’ch helpu i roi tystiolaeth

Os nad ydych chi’n siŵr a allwch chi gael cymorth arbennig i roi tystiolaeth, siaradwch â phwy bynnag a ofynnodd i chi fynd i’r llys. Byddant am wneud yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus er mwyn i chi allu rhoi tystiolaeth gywir ar y diwrnod.

Cymorth emosiynol ac ymarferol i fynd i’r llys fel tyst

Gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion cyn, yn ystod ac ar ôl yr achos.

Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gallwch ofyn i’r heddlu, swyddog gofal tystion neu’r cyfreithiwr a ofynnodd i chi roi tystiolaeth i’ch atgyfeirio at y Gwasanaeth Tystion.

Gall gwirfoddolwr Gwasanaeth Tystion:

  • ddod i’ch cartref neu rywle lle’r ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i drafod eich anghenion

  • eich helpu i baratoi ar gyfer yr achos ac egluro i chi beth fydd yn digwydd

  • trefnu ymweliad â’r llys cyn yr achos

  • eich cefnogi i roi tystiolaeth ar y diwrnod

  • dod o hyd i help ar ôl yr achos os ydych chi ei angen, er enghraifft, cwnsela