Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Paratoi i fynd i’r llys fel tyst

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Byddwch chi’n cael clywed dyddiad yr achos gan:

  • swyddog gofal tystion os ydych chi’n dyst ar gyfer yr erlyniad

  • cyfreithiwr yr amddiffyniad os ydych chi’n dyst ar gyfer yr amddiffyniad

 

Byddant yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud gyda phethau fel cludiant a gofal plant, er mwyn i chi allu gwneud trefniadau ymlaen llaw.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n nerfus yn mynd i’r llys - does dim angen i chi boeni gan y byddwch chi’n cael cefnogaeth gydol y broses gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth.

Os ydych chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith

Os nad ydych chi eisoes wedi siarad gyda’ch cyflogwr, rhowch wybod iddyn nhw cyn gynted â phosibl y byddwch chi angen amser i ffwrdd o’r gwaith.

Does dim rhaid i’ch cyflogwr eich talu chi am amser i ffwrdd o’r gwaith pan fyddwch chi’n mynd i’r llys fel tyst. Ond gallwch hawlio treuliau am golli enillion – gofynnwch i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion am ffurflen ar ddiwrnod yr achos.

Os yw’ch cyflogwr yn gwrthod rhoi amser i ffwrdd i chi

Dylech siarad gyda’ch swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad.

Gall y llys roi ‘gwŷs tyst’ i chi er mwyn i chi allu ei ddangos i’ch cyflogwr i brofi bod yn rhaid i chi fynd.

Os na allwch chi fynd i’r llys ar y dyddiad dan sylw

Os ydych chi’n sâl neu os oes argyfwng teuluol er enghraifft, dywedwch wrth eich swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad ar unwaith. Efallai y gall y llys barhau â’r achos heboch chi, ond yn aml bydd yn rhaid iddynt newid y dyddiad er mwyn i chi allu rhoi tystiolaeth.

Beth i’w wisgo yn y llys

Does dim rheolau ynglŷn â beth ddylech chi ei wisgo yn y llys, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwisgo’n drwsiadus. Beth bynnag y byddwch chi’n ei wisgo, gofalwch eich bod yn gyfforddus gan y gallai fod yn ddiwrnod hir.

Os ydych chi angen trefnu gofal plant

Gallwch hawlio hyd at £67 am bob diwrnod y byddwch chi yn y llys i dalu am ofal plant.

Os ydych chi’n dod â’ch plant i’r llys, yna bydd angen i chi ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i ofalu amdanynt – ni chaniateir plant dan 14 oed yn ystafell y llys oni bai eu bod yn rhoi tystiolaeth.

Holwch i weld a oes gan y llys y byddwch yn mynd iddo gyfleusterau newid babi, os oes eu hangen arnoch chi.

Cynllunio eich taith

Gallwch ddod o hyd i fap a chyfarwyddiadau ar gyfer y llys rydych chi’n mynd iddo ar adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK.

Mae’n syniad da cynllunio eich taith i’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi allu sicrhau bod gennych chi ddigon o amser ar ddiwrnod yr achos. Gall gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau i deithio i’r llys, os nad ydych chi’n siŵr.

Os ydych chi’n gyrru i’r llys, parciwch yn rhywle y gallwch chi aros am y dydd - gallai’r achos gael ei ohirio neu gallai fynd ymlaen yn hirach na’r disgwyl.

Gallwch hawlio costau teithio, tâl parcio a thaliadau tagfeydd.

Os nad ydych chi’n gallu fforddio cyrraedd y llys

Gallwch gael arian ymlaen llaw os ydych chi’n dyst i’r erlyniad – rhowch wybod i’r Uned Gofal Tystion.

Os ydych chi’n dyst i’r amddiffyniad, siaradwch â chyfreithiwr yr amddiffyniad.

Os ydych chi’n cael gwŷs tyst, gall yr heddlu dalu i chi deithio os oes angen.

Os ydych chi’n anabl

Gallwch ddefnyddio adnodd dod o hyd i lysoedd a thribiwnlysoedd GOV.UK i gael gweld.

  • pa barcio, mynediad a chyfleusterau toiled anabl sydd ar gael yn y llys

  • a oes gan y llys gyfleusterau cymorth clyw