Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth sy’n digwydd ar ôl yr achos os ydych chi’n dyst

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y byddwch chi am adael y llys ar ôl rhoi tystiolaeth. Ond bydd yr achos yn parhau a gallwch eistedd yn ystafell y llys i wrando ar y gweddill neu ddod yn ôl i weld y dyfarniad.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi hefyd siarad am y profiad gyda gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion cyn i chi adael y llys.

Os ydych chi am wybod canlyniad yr achos

Os oeddech chi’n dyst ar gyfer yr erlyniad, bydd yr Uned Gofal Tystion (neu’r heddlu) yn rhoi gwybod i chi beth oedd canlyniad yr achos.

Os yw’r diffynnydd yn cael ei ddedfrydu, byddant yn egluro beth mae hyn yn ei olygu neu’n eich cyfeirio at sefydliad arall os oes gennych chi gwestiynau pellach.

Os oeddech chi’n dyst ar gyfer yr amddiffyniad, gallwch gysylltu â’r llys neu gyfreithiwr yr amddiffyniad a fydd yn rhoi gwybod i chi beth oedd y canlyniad.

Rhagor o wybodaeth am ddedfrydu.

Os ydych chi’n poeni am gael eich bygwth am eich bod wedi ymddangos fel tyst

Dywedwch wrth yr heddlu ar unwaith. Gallwch hefyd ofyn i’r Gwasanaeth Tystion eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau eraill a all gynnig help a chefnogaeth i chi.

Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni eich bod am gael eich bygwth.

Beth fydd yn digwydd os oes apêl

Os oes apêl yn erbyn y ddedfryd neu’r euogfarn, mae’n annhebygol iawn y bydd yn rhaid i chi fod yn dyst eto.

Os oes rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys, gall gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion eich helpu eto. Gall y person sy’n gofyn i chi fod yn dyst eich rhoi mewn cysylltiad neu gallwch gysylltu'n uniongyrchol â'r Gwasanaeth Tystion.