Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych yn cyflwyno rhodd i'n gwasanaeth - ein polisi preifatrwydd

Os ydych yn cyflwyno rhodd i ni, mae angen i ni gasglu rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol. Byddwn yn casglu, yn defnyddio ac yn storio eich data mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau bod eich data'n cael ei ddiogelu.

Gallai'r polisi newid o bryd i'w gilydd, ond byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd hynny'n digwydd. 

Y wybodaeth rydym yn gofyn amdano

Mae ein platfform rhoddion cenedlaethol yn cael ei gynnal gan gyflenwr trydydd parti o'r enw Enthuse. Maen nhw'n casglu gwybodaeth ar ein rhan i brosesu eich rhodd ac maent yn ei storio'n ddiogel. Rydym yn sicrhau bod y cyflenwyr rydym yn gweithio gyda nhw yn dilyn y gyfraith diogelu data. Rydym yn rheoli’r berthynas â nhw a’u rhwymedigaethau drwy gytundeb prosesu data sy’n gyfreithiol rwymol. Mae’r cytundeb yn amlinellu ein perthynas: Cyngor ar Bopeth yw’r rheolwr data ac Enthuse yw’r prosesydd data.

Byddant ond yn defnyddio’ch gwybodaeth i wneud y gwaith rydym wedi gofyn iddynt ei wneud a dim ond os yw’r wybodaeth honno’n berthnasol i’r gwaith y maent yn ei wneud. Ni allant roi, gwerthu na rhentu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un arall am unrhyw reswm.

Gallwch ddod o hyd i bolisi preifatrwydd Enthuse ar eu gwefan.  Y wybodaeth y maent yn ei chasglu a'i storio ar ein rhan yw:

  • data i'ch adnabod, fel eich enw, eich enw defnyddiwr neu eich dyddiad geni - er enghraifft, os ydych yn cyflwyno rhodd

  • eich manylion cyswllt, megis cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn - er enghraifft, i allu prosesu rhodd, hawlio Cymorth Rhodd neu os ydych yn cofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym

  • data ariannol, fel eich manylion banc neu gerdyn - fel y gallant brosesu eich rhodd ar ein rhan

  • data marchnata, fel eich dewisiadau ar gyfer sut rydym yn cyfathrebu â chi

  • eich rheswm dros gyflwyno rhodd a'ch diddordebau penodol yn ymwneud â gwaith Cyngor ar Bopeth - mae hyn yn golygu ein bod yn gallu anfon gwybodaeth berthnasol atoch

  • cofnodion o'ch hanes, gan gynnwys data trafodion, manylion eich rhodd. 

Weithiau byddwn yn derbyn rhoddion trwy lwyfannau rhoddion trydydd parti eraill (e.e. Sefydliad Cymorth Elusennau, Ymddiriedolaeth Elusennau neu lwyfannau rhoi ar-lein eraill). Cyfeiriwch at eu polisïau preifatrwydd i gael gwybod sut maent yn cadw eich data yn ddiogel.

Rydym yn lawrlwytho’r wybodaeth ganlynol o blatfform Enthuse (neu o bryd i’w gilydd o blatfform trydydd parti arall) i’n galluogi i gysylltu â chi os ydych wedi gofyn i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gweithgareddau codi arian neu ein gwaith:

  • data i'ch adnabod, fel eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost neu rhif ffôn

  • Gwybodaeth am eich rhoddion, gan gynnwys y nifer o weithiau yr ydych wedi rhoi i ni, y symiau rhoddion ac a ydych wedi ychwanegu Cymorth Rhodd at eich rhodd (ond nid ydym yn gweld unrhyw ddata ariannol, megis eich banc neu fanylion cerdyn)

  • data marchnata, fel eich dewisiadau ar gyfer sut rydym yn cyfathrebu â chi

  • eich rheswm dros gyflwyno rhodd a'ch diddordebau penodol yn ymwneud â gwaith Cyngor ar Bopeth - mae hyn yn golygu ein bod yn gallu anfon gwybodaeth berthnasol atoch

  • cofnodion o'ch hanes gyda ni

  • Nid ydym yn gweld dim o’ch data ariannol (h.y. manylion banc neu gerdyn) sy’n ymwneud â’ch rhoddion y mae Enthuse yn eu prosesu ar ein rhan neu y mae unrhyw blatfform trydydd parti arall yn eu prosesu ar ein rhan. Mae Enthuse yn delio â'r holl brosesu ariannol, hawliadau Rhodd Cymorth ac unrhyw ad-daliadau rhodd y byddwch yn gofyn amdanynt. Gallwch ddarllen eu polisi preifatrwydd ar eu gwefan.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn ond yn defnyddio eich data am y rheswm y cafodd ei gasglu. Er enghraifft, er mwyn:

  • prosesu gwybodaeth yn fewnol

  • penderfynu sut rydym yn parhau i gyfathrebu â chi a'r hyn rydym yn ei anfon 

  • adolygu ein gwasanaethau a sut rydym yn gweithredu

Y seiliau cyfreithlon a ddefnyddir gennym i brosesu eich data personol yw:

  • cytundebol - os ydym yn ymrwymo i gontract gyda chi, byddwn yn prosesu gwybodaeth i weinyddu'r contract

  • rhwymedigaethau cyfreithiol - weithiau byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Er enghraifft, darparu gwybodaeth am dreth a chymorth rhodd i CThEM yn y DU

  • buddiant dilys - mae ein buddiannau dilys yn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion elusennol. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu a rheoli gweithredol, cyhoeddusrwydd a chreu incwm, gweinyddu a rheoli ariannol 

  • caniatâd - rydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth pan fyddwn yn anfon gwybodaeth farchnata atoch yn ymwneud â chodi arian, ymgyrchu neu ddigwyddiadau. Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy e-bostio preferences@citizensadvice.org.uk neu glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw negeseuon e-bost a gewch gennym.

Facebook a Instagram 

Pan fyddwn yn cynnal ymgyrch codi arian ar Facebook ac Instagram, rydym yn defnyddio cwcis (a elwir hefyd yn picsel) ar nifer fach iawn o dudalennau sy'n ymwneud â chodi arian ar ein gwefan i'n helpu i redeg yr ymgyrch yn effeithiol. Rydym yn adnabod y tudalennau hyn trwy ychwanegu blwch testun sy'n rhybuddio defnyddwyr ein bod yn defnyddio cwcis ar y dudalen ac sy'n cynnwys dolen i'r polisi preifatrwydd hwn.

Mae'r cwcis a ddefnyddiwn yn ein helpu i:

  • Gwneud y gorau o'n hadnoddau trwy gyflwyno'r cynnwys i'r bobl sydd fwyaf tebygol o ymgysylltu ag ef

  • Adeiladu cynulleidfaoedd ‘tebyg’, er mwyn cyrraedd mwy o bobl a allai fod â diddordeb yn y gwaith a wnawn

  • Ymgysylltu â phobl sydd wedi dangos diddordeb yn ein cynnwys yn flaenorol

Gweler yr adran 'Sut rydym yn defnyddio cwcis' ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth. 

Mae’n bosibl y bydd Facebook ac Instagram yn defnyddio’r wybodaeth y maen nhw’n ei chasglu am y tudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw ar ein gwefan, i wasanaethu hysbysebion yn seiliedig ar y wybodaeth hon. Gallwch ddysgu mwy am sut mae Facebook yn defnyddio cwcis ar eu gwefan  - mae'n cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch reoli sut mae Facebook yn defnyddio cwcis mewn perthynas â'ch cyfrif.

Rhannu eich gwybodaeth

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth heb eich caniatâd os yw'n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er enghraifft: 

  • i gynorthwyo ymholiadau'r heddlu 

  • mewn ymateb i orchmynion llys 

  • i atal twyll 

  • i sicrhau eich diogelwch neu ddiogelwch pobl eraill

Rydym weithiau’n rhannu eich data o fewn ein rhwydwaith Cyngor ar Bopeth lleol. Er enghraifft, os ydych wedi nodi bod eich rhodd ar gyfer un o’n swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol, byddwn yn rhannu’r manylion canlynol yn ddiogel gyda’r swyddfa leol pan fyddwn yn trosglwyddo eich rhodd iddynt:

  • Eich manylion cyswllt, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad post, e-bost a rhif ffôn

  • Swm eich rhodd ac a ydych wedi ychwanegu 'Cymorth Rhodd' at eich rhodd

Storio eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 6 blynedd. Os ydych yn dweud wrthym nad ydych am i ni gysylltu â chi, bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth am resymau ariannol o hyd.  

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau diogelwch, uniondeb a chyfrinachedd eich data. Byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.

Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:

  • pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym

  • os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion

  • os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion

Anfonwch neges atom: preferences@citizensadvice.org.uk

Os ydych chi eisiau cwyno

Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch wneud cwyn ar ein gwefan.