Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydym wedi cysylltu â chi i helpu gyda gwaith ymchwil, ymgyrchoedd neu newyddion - ein polisi preifatrwydd

Os ydym wedi cysylltu â chi i gael cymorth gyda gwaith ymchwil, ymgyrchoedd neu waith yn y cyfryngau, byddwn wedi casglu gwybodaeth gennych naill ai drwy:

  • siarad â chi dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy e-bost

  • edrych ar eich cofnodion yn ein system rheoli achosion - os ydych wedi cael cyngor gennym o'r blaen

  • gofyn i'ch Cyngor ar Bopeth lleol drosglwyddo eich manylion i ni - os ydych wedi rhoi caniatâd iddi wneud hynny

  • edrych ar arolwg a gwblhawyd gennych - er enghraifft ar ein gwefan

Gyda’ch caniatâd, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi arolwg ar-lein am eich profiad yn cael cymorth gennym ni – ‘Profiad Cleient’ yw’r enw'r arolwg hwn.

Mae'n bosibl y byddem wedi gofyn i bartner ymchwil dibynadwy gysylltu â chi ar ein rhan. Dylai'r cwmnïau hyn fod â'u polisi preifatrwydd eu hunain yn ymwneud â sut maent yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol. Mae gennym gytundeb gyda nhw i wneud yn siŵr eu bod yn storio data yn ddiogel ac yn dilyn deddfau diogelu data.

Rydym yn dal i fod yn gyfrifol am gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel a sicrhau ein bod yn dilyn y gyfraith diogelu data. Mae hyn yn golygu mai ni yw’r ‘rheolwr data’ ar gyfer eich gwybodaeth.

I gael gwybod pa gwmnïau ymchwil rydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd, cysylltwch â researchteam@citizensadvice.org.uk.

Byddwn bob amser yn dweud wrthych sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ac yn gofyn am eich caniatâd. Er enghraifft, drwy lofnodi ffurflen caniatâd ar bapur, cytuno dros y ffôn neu roi tic mewn bocs ar-lein.

Os ydym eisiau recordio cyfweliad gyda chi, byddwn yn gofyn am eich caniatâd.

Os cysylltodd Cyngor ar Bopeth lleol â chi

Bydd gan eich Cyngor ar Bopeth lleol ei bolisi ei hun yn ymwneud â sut mae'n casglu, yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol a gofynnwch am gael gweld ei bolisi - neu edrychwch ar ei gwefan.

Y wybodaeth rydym yn gofyn amdano

Rydym ond yn gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnom i adrodd eich stori neu lywio ein gwaith ymchwil. Gan ddibynnu ar sut rydym am i chi ein helpu, gallai hyn gynnwys gwybodaeth am:

  • eich sefyllfa bersonol, gan gynnwys eich teulu, eich gwaith neu'ch amgylchiadau ariannol - a sut mae'n effeithio arnoch

  • sut rydych chi'n defnyddio gwasanaethau Cyngor ar Bopeth a gwasanaethau sefydliadau eraill - a'ch barn amdanyn nhw

  • eich enw a'ch manylion cyswllt - er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad â chi

  • gwybodaeth ddemograffig fel eich rhywedd, eich ethnigrwydd neu'ch cyfeiriadedd rhywiol

Os nad ydych eisiau rhannu rhai manylion personol â ni, nid oes rhaid i chi wneud hynny.

Gallwch ddileu'ch caniatâd i ni storio eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg - y term cyfreithiol am hyn yw tynnu caniatâd yn ôl. Dywedwch wrthym ba wybodaeth bersonol nad ydych am i ni ei storio a byddwn yn ei dileu.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Wrth gysylltu â chi byddwn yn egluro sut rydym eisiau defnyddio eich gwybodaeth - er enghraifft, efallai y byddwn eisiau:

  • gofyn i chi rannu eich stori gyda'r cyfryngau

  • cynnwys eich gwybodaeth mewn adroddiad neu flog fel rhan o'n gwaith ymchwil a dylunio, ein hymgyrchoedd, neu ein gwaith gyda'r cyfryngau

  • defnyddio eich gwybodaeth i wella ein gwasanaethau

Os ydym yn rhannu eich stori â'r cyhoedd, gallwch aros yn ddienw os ydych yn dymuno - byddwn yn newid rhai o fanylion eich stori er mwyn sicrhau nad oes modd eich adnabod.

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda rheoleiddwyr y llywodraeth neu ddiwydiant fel rhan o'n hymgyrchoedd a'n gwaith polisi.

Mae'n rhaid i sefydliadau rydym yn rhannu eich data â nhw ei storio a'i ddefnyddio yn unol â chyfraith diogelu data - ni allant ei drosglwyddo na'i werthu heb eich caniatâd.

Rydym ond yn defnyddio eich gwybodaeth am resymau eraill os oes angen gwirioneddol i ni wneud hynny - er enghraifft, i ymchwilio i gwynion.

Mae'r holl staff sy'n defnyddio data wedi cwblhau hyfforddiant diogelu data er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.

Storio eich gwybodaeth

Mae copïau o'ch cofnodion ac unrhyw nodiadau cyfweliad newydd yn cael eu cadw yn ddiogel yn ein systemau mewnol.

Rydym yn cadw eich data am hyd at 3 mlynedd. Os yw eich achos wedi bod yn destun cwyn ddifrifol, hawliad yswiriant neu anghydfod arall, rydym yn cadw'r data am 16 mlynedd.

Gallwch ddileu'ch caniatâd i ni storio eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg - y term cyfreithiol am hyn yw tynnu caniatâd yn ôl. Dywedwch wrthym ba wybodaeth bersonol nad ydych am i ni ei storio a byddwn yn ei dileu.

Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:

  • pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym

  • os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion

  • os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion

Anfonwch neges atom: feedback@citizensadvice.org.uk.

Os ydych chi eisiau cwyno

Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch wneud cwyn ar ein gwefan.