Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ynglŷn â Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth

Mae rhoi tystiolaeth fel tyst yn gallu bod yn hen brofiad annifyr ac mae proses y llys yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd ei deall. Mae Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth yn cynnig cefnogaeth am ddim ac annibynnol i dystion yr erlyniad ac amddiffyn ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr.

Mae ein gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn darparu gwybodaeth ymarferol am broses y llys a chefnogaeth emosiynol i helpu tystion i deimlo’n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth. Rydym ni’n gallu:

  • darparu gwybodaeth am broses y llys

  • dangos ystafell y llys i dystion cyn yr achos

  • bod yno i siarad yn gyfrinachol

  • hebrwng a chadw cwmni i dystion wrth iddyn nhw roi eu tystiolaeth

  • bod ar gael i roi cefnogaeth ar ddiwrnod yr achos; wrth glywed y rheithfarn ac wrth ddedfrydu

  • helpu i baratoi tystion sydd angen cefnogaeth ychwanegol, gall hyn fod yn eu cartrefi neu mewn man diogel arall

  • cymorth i hawlio treuliau

  • gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn cael ei rhoi

  • atgyfeirio tystion at ein partneriaid, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth lleol ar ôl yr achos er mwyn iddyn nhw dderbyn cymorth gyda materion eraill.

Gwybodaeth am fod yn dyst mewn llys troseddol