Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwirfoddoli gyda’n Gwasanaeth Tystion

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd ag agwedd gyfeillgar, gefnogol ac empathig at eraill. Mae angen sgiliau gwrando a chyfathrebu llafar da arnoch. Rydym hefyd yn chwilio am bobl sy’n anfeirniadol ac yn ddiduedd wrth gefnogi pawb, ac sydd â’r hyder i gefnogi pobl sy’n agored i niwed a phobl ag anghenion penodol.

Eisiau ymuno â'n tîm?

Mae gennym gyfleoedd yng Nghymru a Lloegr. Cewch hyfforddiant llawn, cefnogaeth ac achrediad - a chroeso cynnes.

Gallwch wneud cais os ydych yn 18 oed neu’n hŷn. Hefyd, bydd angen i chi:

  • Bwriadu gwirfoddoli am o leiaf 12 mis - os ydych yn astudio gallwn drafod beth fydd yn digwydd yn ystod y gwyliau

  • ymgymryd â’n hyfforddiant ar-lein
  • cael cliriad DBS manylach
  • Parodrwydd i ddefnyddio TG - e-bost, hyfforddiant ar-lein, ac o bosibl tabledi a mewnbynnu gwybodaeth ar ffurflenni ar-lein. Byddwch angen mynediad i'r rhyngrwyd, gan fod y rhan fwyaf o'n hyfforddiant ar-lein. Bydd angen cyfrif e-bost arnoch hefyd, gan y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i’ch cofrestru gyda’n systemau TG, a’n prif declyn cyfathrebu. Os nad oes gennych gyfrif e-bost ar hyn o bryd gallwn eich helpu i sefydlu un.

Cwestiynau cyffredin a gwybodaeth ychwanegol

Mae ein proffiliau rôl isod yn rhoi trosolwg o'n rolau, ond os hoffech wybod mwy am wirfoddoli efallai y bydd ein cwestiynau cyffredin yn ddefnyddiol.

Rydyn ni hefyd wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol at ei gilydd am wirfoddoli gyda ni - rydyn ni'n gobeithio y bydd yn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi'n teimlo bod ein rolau'n iawn i chi.

Gallwch hefyd roi cynnig ar ein cwis byr i weld pa faes gwirfoddoli y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo.

Ynglŷn â bod yn Wirfoddolwr Gwasanaeth Tystion

Mae 2 rôl wirfoddol y gallwch ddewis ohonynt:

  • rôl yn y llys
  • rôl allgymorth - y tu allan i Lundain yn unig

Ein rôl yn y llys

Byddwch yn cefnogi tystion (gan gynnwys dioddefwyr) a’u ffrindiau a’u teulu pan fyddant yn dod i’r llys. Byddwch yn rhoi gwybodaeth ymarferol iddynt am y broses, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth.

I gefnogi tystion y llys, bydd eich angen tua unwaith yr wythnos yn ystod oriau llys arferol.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn a ddisgwylir gan ein gwirfoddolwyr yn y llys yn ein proffil rôl.

Sut i wneud cais

Os cliciwch ar ‘Gwneud Cais Nawr’ byddwch yn cael eich tywys i’n ffurflen gais gwirfoddolwyr ar-lein.

Bydd ein ffurflen gais yn gofyn rhai cwestiynau sylfaenol amdanoch chi’ch hun, ac yna beth a’ch cymhellodd i wneud cais am y rôl. Ceisiwch roi mwy nag un llinell o ymateb. Y mwyaf o wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni, y mwyaf y gallwn ni gael darlun i weld ai hon yw’r rôl iawn i chi.

Weithiau byddwn yn derbyn ceisiadau y mae;n rhaid i ni eu gwrthod, gan nad yw’r ymgeisydd wedi rhoi digon o wybodaeth i ni i wybod a fyddent yn addas ar gyfer y rôl. Dydyn ni ddim eisiau colli allan ar bobl a allai fod yn wirfoddolwyr gwych i ni.

Gwneud Cais Nawr

Ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU: sylwch mai dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu hynny y cewch wirfoddoli. Gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i wirfoddoli er mwyn osgoi torri telerau eich statws. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wahanol reolau fisa ar GOV.UK. Mae gan ddinasyddion Gwyddelig, dinasyddion yr UE/AEE â statws sefydlog neu cyn-sefydlog, a ffoaduriaid a cheiswyr lloches hawl lawn i wirfoddoli.

Eich gwybodaeth

Defnyddir y wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen gais i’n helpu i benderfynu a fyddwch yn iawn ar gyfer ein rôl. Bydd yn cael ei weld gan ein Cydlynwyr Gwirfoddoli a’i rannu ar lefel leol gyda’r aelodau staff priodol a fydd yn arwain y broses recriwtio. Rydym hefyd yn gofyn ar wahân am wybodaeth a fydd yn ein helpu i fonitro amrywiaeth ein hymgeiswyr. Mae hwn yn ddienw ac ni fydd yn cael ei weld gan yr Arweinwyr Tîm.

Pam gwirfoddoli gyda ni?

“Dod â'r gorau allan ynoch chi’ch hyn trwy helpu rhywun trwy’r hyn a allai fod y diwrnod anoddaf yn eu bywyd: mae’r wobr yn fwy nag unrhyw daliad.” 

Peter - Caernarfon

"Daeth gwirfoddoli i’r Gwasanaeth Tystion ar adeg pan oedd fy mywyd wedi cyrraedd isafbwynt go iawn. Cefais gefnogaeth ac anogaeth anhygoel gan fy rheolwr yn ogystal â gwirfoddolwyr eraill, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd. Mae fy hyder wedi cynyddu ac Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd bob tro rwy’n mynd i’r gwaith a gwybod fy mod yn helpu rhywun trwy gyfnod anodd”
Anne - Llys y Goron Bournemouth

"Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda'r Gwasanaeth Tystion i unrhyw un sydd â diddordeb yn y System Cyfiawnder Troseddol ac sy'n dymuno ymgyfarwyddo â’r achos llys. Mae'r rôl hon yn darparu her newydd bob dydd a all roi boddhad mawr a chaniatáu i chi ehangu a dysgu sgiliau newydd - mewn amgylchedd proffesiynol."
Jack - Llys y Goron Caerwrangon

Os oes gennych gwestiynau am wirfoddoli ewch i’n tudalen cwestiynau cyffredin neu cysylltwch â: ws-volunteering@citizensadvice.org.uk. 

Neu dysgwch fwy ar Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.