Herio penderfyniad am fudd-daliadau neu gredydau treth - gofyn am ailystyriaeth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau )DWP) neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) am eich hawliad, mae'n bosibl y byddwch am herio'r penderfyniad.

I wneud hyn, efallai y bydd angen i chi ofyn i DWP neu CThEM ailedrych ar eu penderfyniad yn y lle cyntaf. Enw hyn yw gofyn am ailystyriaeth orfodol.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych chi am sut i ofyn am ailystyriaeth o'r penderfyniad am eich budd-daliadau.

Gair o gyngor

Terfynau amser

Gall fod yn anodd herio penderfyniad ar ôl y dyddiad cau. Mae'n bwysig ymateb o fewn mis i'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch os nad ydych chi'n siŵr. Gallwch geisio herio'r penderfyniad ar ôl y dyddiad cau ond gallai'ch cais gael ei wrthod.

Beth yw ailystyriaeth orfodol?

Mae ailystyriaeth orfodol yn golygu eich bod chi'n gofyn i DWP neu CThEM edrych eto ar y penderfyniad am eich hawliad budd-daliadau. Os ydych chi'n credu bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad am ba reswm bynnag.

Gallwch ofyn am ailystyriaeth pan rydych chi am herio:

  • penderfyniad a wnaed am hawliad newydd, neu

  • benderfyniad a wnaed i newid eich hawliad

  • penderfyniad a wnaed pan ofynnoch chi am gael newid yr hawliad.

Bydd rhywun sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn bwrw golwg arall ar y penderfyniad ac yn penderfynu a ddylai gael ei newid neu aros yr un fath. Ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad nes eich bod chi'n gwybod canlyniad yr ailystyriaeth.

Terfynau amser ar gyfer gofyn am ailystyriaeth

Rhaid i'r hysbysiad o'r penderfyniad nodi'r terfyn amser ar gyfer gofyn i rywun fwrw golwg arall ar y penderfyniad.

Terfynau amser ar gyfer budd-daliadau sy'n cael eu talu gan DWP

Ar gyfer budd-daliadau sy'n cael eu talu gan DWP, rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth o fewn mis i'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch. Bydd y dyddiad wedi'i nodi ar yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Terfynau amser ar gyfer budd-daliadau sy'n cael eu talu gan CThEM

Caiff Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad eu talu gan CThEM. Rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth o fewn mis i'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch. Bydd y dyddiad wedi'i nodi ar yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Terfynau amser ar gyfer credydau treth sy'n cael eu talu gan CThEM

Ar gyfer credydau treth sy'n cael eu talu gan CThEM, rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad. Bydd y dyddiad wedi'i nodi ar yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Pryd mae modd ymestyn y terfyn amser

Dylai llythyr y penderfyniad gynnwys datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau wrth wraidd y penderfyniad. Os na chewch chi hwn, mae gennych chi'r hawl i ofyn am ddatganiad. Bydd y terfyn amser ar gyfer gofyn am ailystyriaeth yn hirach os ydych chi wedi gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau.

  • os anfonir y datganiad atoch o fewn mis, bydd gennych fis a 14 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad i'w herio.

  • os anfonir y datganiad  fwy na mis ar ôl anfon y penderfyniad, mae gennych chi 14 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd y datganiad i'w herio.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw'r penderfyniad yn cynnwys datganiad ysgrifenedig o resymau, mae'n bwysig gofyn am ailystyriaeth cyn gynted â phosibl fel nad ydych chi'n mynd tu hwnt i'r terfyn amser o un mis.

Os ydych chi'n colli'r dyddiad cau

Os nad ydych chi'n gwneud cais am ailystyriaeth o fewn y terfyn amser o un mis, gall gael ei ymestyn hyd at 13 mis o'r dyddiad hwyraf y dylech fod wedi gwneud cais os yw'r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • rydych chi'n gwneud cais i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad am estyniad i'r terfyn amser, gan esbonio pam fod y cais yn hwyr a pham rydych chi eisiau estyniad. Rhaid i'r cais gynnwys digon o wybodaeth fel bod y sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn gwybod pa benderfyniad rydych chi am ei herio

  • rydych chi'n ymgeisio o fewn 13 mis i'r dyddiad hwyraf y dylech fod wedi gwneud cais am ailystyriaeth

  • mae'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn fodlon ei bod hi'n rhesymol ymestyn y terfyn amser

  • mae amgylchiadau arbennig a oedd yn golygu nad oedd modd i chi ymgeisio mewn da bryd.

Cofiwch hefyd, po hwyraf y byddwch chi'n gwneud cais am ailystyriaeth ar ôl y dyddiad cau, gorau oll y bydd angen i'ch rhesymau fod am wneud cais yn hwyr.

Sut mae gofyn am ailystyriaeth

Edrychwch i weld beth mae'n dweud yn y llythyr neu'r e-bost sy'n dweud wrthych chi am y penderfyniad. Dylai nodi sut gallwch fynd ati i herio'r penderfyniad.

Os nad yw'r hysbysiad o benderfyniad yn cynnwys datganiad o resymau am y penderfyniad, mae gennych chi'r hawl i ofyn am y datganiad hwnnw. Rhaid i chi ofyn am ddatganiad o fewn un mis calendr i'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch.

Rhaid i chi ofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad i fwrw golwg arall arno. Bydd y manylion cyswllt ar lythyr y penderfyniad.

Gallwch ofyn am ailystyriaeth ar bapur, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Nid oes angen llenwi ffurflen arbennig, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu llythyr. Gan amlaf, mae'n well ysgrifennu fel bod gennych chi gofnod o pam rydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad a phrawf eich bod chi wedi gofyn am ailystyriaeth o'r penderfyniad. Fodd bynnag, os yw'r dyddiad cau'n nesáu, mae'n well ffonio'n gyntaf ac yna cadarnhau'ch galwad ffôn ar bapur.

Ar gyfer budd-daliadau a chredydau treth CThEM, mae ffurflenni ar gyfer gofyn am ailystyriaeth, neu gallwch ysgrifennu llythyr neu ffonio os oes well gennych. Mae'r ffurflenni ar gael mewn taflenni ffeithiau ar wefan CThEM:

Cadwch gopi o'ch llythyr a nodwch y dyddiad y gwnaethoch ei anfon. Yn eich llythyr, esboniwch pam eich bod o'r farn bod y penderfyniad yn anghywir a gofynnwch iddo gael ei ailystyried. Gofalwch eich bod yn anfon copïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd wedi dod i law ers i chi gyflwyno'ch hawliad os bydd o gymorth i'ch achos.

Beth sy'n digwydd pan mae'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn ailystyried y penderfyniad?

Gan amlaf, bydd rhywun heblaw'r sawl wnaeth y penderfyniad gwreiddiol yn bwrw golwg arall ar y penderfyniad. Os yw'n ymddangos, ar sail y dystiolaeth sydd ganddynt, nad yw'r penderfyniad yn debygol o newid o'ch plaid chi, dylai'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau eich ffonio i drafod hyn. Dylai ofyn a oes gennych chi unrhyw dystiolaeth bellach, neu ofyn i chi esbonio unrhyw beth sy'n aneglur am yr hawliad.

Os bydd y sawl sy'n gwneud penderfyniadau angen trafod eich hawliad gyda chi, dylent geisio eich ffonio o leiaf ddwywaith yr un diwrnod. Mae'n bwysig i chi roi rhif ffôn y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â chi'n hawdd wrth ofyn am ailystyriaeth.

Dylai'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau wneud mwy o ymdrech i gysylltu â chi os ydych chi'n agored i niwed mewn unrhyw ffordd a cheisio'ch ffonio sawl gwaith os nad yw'n llwyddo i siarad â chi ar y cynnig cyntaf. Nodwch yn glir os oes rheswm a allai ei gwneud hi'n anodd i chi ateb y ffôn. Er enghraifft:

  • rydych chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n eich gwneud chi'n gysglyd

  • mae gennych chi broblemau symud ac mae'n cymryd cryn amser i chi gyrraedd y ffôn

  • mae gennych chi broblemau iechyd meddwl, fel gorbryder neu iselder, a allai olygu nad ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu ateb y ffôn.

Os na all y sawl sy'n gwneud penderfyniadau gysylltu â chi, bydd yn gwneud ei benderfyniad ar sail y wybodaeth sydd ganddo'n barod.

Rhaid i chi anfon unrhyw dystiolaeth bellach o fewn mis i ddyddiad y sgwrs ffôn gyda'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau. Bydd y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn aros nes iddo dderbyn y dystiolaeth cyn parhau i edrych ar y penderfyniad. Mae'n bosibl y gall roi mwy o amser i chi os bydd hi'n anodd cael y wybodaeth ychwanegol. Rhaid i chi egluro pam rydych chi angen mwy o amser cyn y dyddiad cau o fewn mis.

Os na fyddwch chi'n dychwelyd unrhyw dystiolaeth cyn y dyddiad cau y cytunwyd arno gyda'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau, bydd yn gwneud ei benderfyniad hebddi.

Faint o amser fydd ailystyriaeth yn ei gymryd?

Nid oes terfyn ar faint y gall DWP neu CThEM ei gymryd i ailystyried y penderfyniad. Yn ôl y llywodraeth, mewn achos syml lle nad oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, dylai gymryd tua 14 diwrnod. Ond gallai gymryd mwy na hyn. Os credwch fod yr oedi'n afresymol yn eich achos chi, gallech geisio gwneud cwyn.

Beth sy'n digwydd pan mae'r penderfyniad wedi cael ei ailystyried?

Pan fydd y penderfyniad wedi cael ei ailystyried, bydd naill ai'n aros yr un fath neu'n cael ei newid drwy adolygiad. Os caiff y penderfyniad ei newid, bydd unrhyw fudd-dal sy'n daladwy i chi yn cael ei ôl-ddyddio i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol.

Bydd DWP neu CThEM yn anfon dau Hysbysiad o Ailystyriaeth Orfodol (Mandatory Reconsideration Notice) atoch i'ch hysbysu am ganlyniad yr ailystyriaeth. Copi i chi yw un ohonynt a dylech anfon y llall i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (HMCTS) os hoffech apelio. Allwch chi ddim apelio heb Hysbysiad o Ailystyriaeth Orfodol.

Dylai'r llythyr gynnwys manylion eich hawliau i apelio.

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Mawrth 2021