Sut i hawlio Budd-dal Plant

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch hawlio Budd-dal Plant unrhyw bryd, ond mae'n well ei wneud cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn cael ei eni neu'n dod i fyw gyda chi.

Os ydych chi newydd gael babi mae angen i chi gofrestru'r enedigaeth cyn i chi wneud cais.

Bydd eich Budd-dal Plant yn cael ei ôl-ddyddio i'r adeg y cafodd y plentyn ei eni - hyd at uchafswm o 3 mis - felly ni fyddwch yn colli allan ar daliadau.

Coronafeirws - os nad ydych wedi gallu cofrestru genedigaeth eich plentyn

Ychwanegwch nodyn at eich ffurflen hawlio yn esbonio nad ydych wedi gallu cofrestru’r enedigaeth oherwydd coronafeirws.

Paratowch eich gwybodaeth bersonol

Bydd angen y manylion personol a’r dogfennau canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol chi a’ch partner - os nad oes gennych un gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol ar GOV.UK

  • eich incwm blynyddol cyfartalog cyn treth

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost

  • tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu eich plentyn - os ydych wedi colli ei dystysgrif, gallwch archebu copi am £11 ar GOV.UK

  • rhifau Budd-dal Plant eich plant eraill os ydych yn gwneud cais am blentyn ychwanegol - bydd y rhain ar eich llythyrau budd-dal gan CThEM

  • pasbort eich plentyn - os cafodd eich plentyn ei eni y tu allan i'r DU

Hawlio Budd-dal Plant

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Plant ar-lein ar GOV.UK.

Gallwch hefyd wneud cais gan ddefnyddio ap CThEM:

Gallwch wneud cais ar ran rhywun arall mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft os ydynt yn ddifrifol anabl.

Os na allwch wneud cais ar-lein neu ddefnyddio’r ap, bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi’r ffurflen hawlio ar GOV.UK. Postiwch y ffurflen i Gyllid a Thollau EM (CThEM) gyda’ch dogfennau. Pan fyddwch yn anfon eich ffurflen hawlio, tystysgrifau neu basbort, gofynnwch i'r swyddfa bost am brawf postio - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch eu hanfon.

Cyllid a Thollau EM - Swyddfa Budd-dal Plant

Washington

Newcastle upon Tyne

NE88 1AA

Efallai y bydd CThEM yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt am eich cais. Er enghraifft, os nad ydych yn byw gyda'r plentyn efallai y bydd yn gofyn i chi am dystiolaeth eich bod yn talu i'w gefnogi.

Cael eich talu

Os byddwch yn gwneud cais am Fudd-dal Plant ar-lein neu’n defnyddio’r ap, gallech gael eich taliad cyntaf o fewn 3 diwrnod.

Os gwnewch gais drwy'r post, gallai fod yn 3 mis nes i chi gael eich taliad cyntaf.

Os oeddech yn gymwys i gael Budd-dal Plant cyn i CThEM gael eich cais, bydd yn cael ei ôl-ddyddio'n awtomatig - hyd at uchafswm o 3 mis. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael 1, 2 neu 3 mis ychwanegol o Fudd-dal Plant wedi'i gynnwys yn eich taliad cyntaf.

Bydd Budd-dal Plant yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc bob 4 wythnos.

Gallwch ofyn am gael eich talu’n wythnosol ar y ffurflen hawlio os ydych yn rhiant sengl neu os ydych chi neu’ch partner yn cael naill ai:

  • Cymhorthdal Incwm

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

Os nad oes gennych gyfrif banc

Er mwyn cael eich talu, bydd angen i chi agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost.

Os ydych wedi ceisio agor cyfrif ond gwrthodwyd eich cais, dylech gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Beth sy'n digwydd nesaf

Gallwch barhau i gael Budd-dal Plant tan 31 Awst ar ôl i’ch plentyn ddod yn 16 oed - neu hyd nes y bydd yn troi’n 20 os yw’n aros mewn addysg neu hyfforddiant.

Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed, bydd CThEM yn anfon llythyr atoch yn gofyn a fydd eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant. Rhaid i chi ateb y llythyr hwn er mwyn parhau i gael Budd-dal Plant.

Os bydd eich amgylchiadau teuluol yn newid, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM - er enghraifft, os bydd eich plentyn yn symud allan neu os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner.

Os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £50,000 y flwyddyn efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth. Byddai hyn ond yn dechrau o'r mis Ebrill ar ôl i chi wneud cais. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y tâl treth a sut rydych yn ei dalu ar GOV.UK.

Os caiff eich cais ei wrthod a’ch bod yn anghytuno â phenderfyniad CThEM, gallwch ofyn iddynt ailystyried – gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’. 

Help ychwanegol gyda chostau gofalu am blant

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:

Gallwch hefyd wirio beth allwch chi ei gael gan ddefnyddio'r gyfrifiannell gofal plant ar GOV.UK. 

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw o ddydd i ddydd, darganfyddwch pa help y gallwch ei gael gan eich cyngor lleol neu’r llywodraeth. 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.