Edrychwch i weld a yw newid yn effeithio ar eich Budd-dal Tai

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol am rai newidiadau yn eich arian, gwaith neu fywyd cartref. Gelwir hyn yn ‘newid mewn amgylchiadau’.

Mae angen i chi hefyd ddweud wrth y cyngor am newidiadau sy'n effeithio ar y bobl rydych yn byw gyda nhw. Er enghraifft, dylech ddweud wrthynt os bydd rhywun yn eich cartref yn dechrau ennill mwy neu os byddwch yn ychwanegu enw eich partner at eich cytundeb tenantiaeth.

Bydd rhoi gwybod i'r cyngor yn eich helpu i gael unrhyw Fudd-dal Tai ychwanegol y mae gennych hawl iddo cyn gynted â phosibl neu osgoi cael gormod o dâl. Gelwir hyn yn ‘ordaliad’, ac fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu’r arian ychwanegol yn ôl.

Os dywedwyd wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad penodol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn atal budd-daliadau rhai pobl ac yn dweud wrthynt am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os cewch lythyr yn dweud wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol erbyn dyddiad cau penodol, mae hwn yn ‘hysbysiad mudo’. Dylech wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau yn yr hysbysiad mudo. Bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben ar ôl y dyddiad cau.

Efallai y byddwch yn colli rhywfaint o arian os gwnewch gais ar ôl y dyddiad cau.

Gwiriwch beth ddylech chi ei wneud os cewch chi hysbysiad mudo. 

Dywedwch wrth y cyngor hyd yn oed os yw’n ymddangos fel newid bach neu os mai dim ond am gyfnod byr ydyw – er enghraifft, os byddwch yn cynyddu eich oriau gwaith am rai wythnosau.

Rhaid rhoi gwybod am y rhan fwyaf o newidiadau o fewn 1 mis, ond dylech roi gwybod amdanynt cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am y newid, os gallwch.

Os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith i roi gwybod am farwolaeth rhywun sy’n hawlio budd-dal, nid oes angen i chi ddweud wrth y cyngor hefyd. Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn rhoi gwybod iddynt.

Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn gallu talu eich rhent

Gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol (TTD) os na fydd eich Budd-dal Tai yn cynnwys eich rhent.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill

Os ydych yn cael budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Gyllid a Thollau EM (HMRC), dylech hefyd ddweud wrthynt am unrhyw newidiadau. Ni fydd y cyngor fel arfer yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau EM ar eich rhan.

Os bydd eich statws mewnfudo neu hawl i breswylio yn newid

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch barhau i gael Budd-dal Tai. Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n rhaid i chi hefyd fod â ‘hawl i breswylio’ o hyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog gan Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Tai. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Tai. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.

Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn mynd i ffwrdd dros dro

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn mynd i ffwrdd am fwy na:

  • 4 wythnos – os yw dramor

  • 13 wythnos – os yw yn y DU

Gallwch barhau i gael Budd-dal Tai cyn belled â’ch bod yn bwriadu dychwelyd i’ch cartref a pheidio â’i osod ar rent tra byddwch i ffwrdd.

Eglurwch y rheswm pan fyddwch yn rhoi gwybod am y newid. Mae pa mor hir y gallwch chi gael Budd-dal Tai yn dibynnu ar pam rydych i ffwrdd.

Coronafeirws - os oeddech y tu allan i'r DU am fwy na 4 wythnos

Os oeddech yn disgwyl dychwelyd o fewn 4 wythnos ond na allech oherwydd cyfyngiadau teithio, byddwch yn dal i allu hawlio Budd-dal Tai.

Dywedwch wrth eich cyngor cyn gynted â phosibl pam na allech ddychwelyd i’r DU. Edrychwch ar GOV.UK i gael gwybod sut y gallwch gysylltu â'ch cyngor.

Os ydych chi’n aros yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Gallwch gael Budd-dal Tai os byddwch yn mynd i ffwrdd am hyd at 13 wythnos.

Gallwch gael Budd-dal Tai os ydych i ffwrdd am hyd at flwyddyn oherwydd:

  • rydych chi, eich partner neu blentyn yn yr ysbyty neu’n cael triniaeth neu ofal a gymeradwyir gan eich meddyg

  • mae rhywun arall i ffwrdd yn cael triniaeth ac rydych chi'n gofalu am eu plentyn

  • rydych yn aros dros dro mewn cartref gofal, er enghraifft i roi cynnig arno

  • rydych yn rhoi gofal i rywun sydd wedi’i gymeradwyo gan eu meddyg

  • rydych wedi gorfod gadael eich cartref oherwydd eich bod yn poeni y gallai rhywun eich brifo – er enghraifft eich partner

  • rydych yn fyfyriwr ac yn byw yn rhywle gwahanol yn ystod y tymor

  • rydych ar gwrs hyfforddi

  • rydych yn y carchar ar remand neu’n aros i gael eich dedfrydu

  • rhaid i chi fyw oddi cartref fel amod mechnïaeth

Os bu’n rhaid i chi adael eich cartref yn sydyn, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Budd-dal Tai i dalu am gost hostel.

Os byddwch yn mynd dramor

Fel arfer gallwch gael Budd-dal Tai pan fyddwch yn mynd i ffwrdd am hyd at 4 wythnos. Gallwch ei gael am hyd at 8 wythnos os ydych dramor oherwydd bod eich partner neu blentyn a gynhwyswyd yn eich cais am Fudd-dal Tai wedi marw.

Gallwch gael Budd-dal Tai os ydych dramor am hyd at 26 wythnos oherwydd:

  • rydych chi, eich partner neu blentyn yn yr ysbyty neu’n cael triniaeth neu ofal a gymeradwyir gan eich meddyg

  • rydych yn aros dros dro mewn cartref gofal, er enghraifft i roi cynnig arno

  • rydych wedi gorfod gadael eich cartref oherwydd eich bod yn poeni y gallai rhywun eich brifo – er enghraifft eich partner

  • rydych chi neu’ch partner yn aelod o’r lluoedd arfog ar leoliad dros dro

  • rydych chi neu'ch partner yn forwr neu'n gweithio ar lwyfan olew

Newidiadau i'ch cartref neu'ch tenantiaeth

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os:

  • mae swm y rhent a dalwch yn newid – os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu gymdeithas tai

  • rydych chi'n symud cartref

  • mae rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch cartref

  • mae eich tenantiaeth yn newid – er enghraifft, os byddwch yn tynnu enw rhywun oddi ar y cytundeb tenantiaeth

Os ydych yn aros mewn hostel oherwydd eich bod yn poeni y gallai rhywun eich brifo yn eich cartref, gofynnwch am Fudd-dal Tai ychwanegol i dalu cost yr hostel pan fyddwch yn rhoi gwybod am y newid. Gallwch gael Budd-dal Tai cyn belled â’ch bod am fynd yn ôl i’ch cartref ar ryw adeg a bod y cyngor yn meddwl ei bod yn rhesymol talu am yr hostel a’ch cartref.

Os byddwch yn symud i fyw mewn ardal cyngor gwahanol, bydd eich cais am Fudd-dal Tai yn dod i ben. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle Budd-dal Tai ar ôl symud. Gwiriwch a allwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. 

Newidiadau i'ch gwaith, incwm neu fudd-daliadau

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os:

  • mae swm y rhent a dalwch yn newid – os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu gymdeithas tai

  • mae eich incwm yn mynd i fyny neu i lawr – er enghraifft rydych yn dechrau cael pensiwn o’ch hen swydd

  • mae eich budd-daliadau yn newid neu rydych chi'n dechrau cael budd-dal newydd

Os bydd eich incwm yn newid, eglurwch faint yn fwy neu’n llai rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ei gael a thros ba gyfnod o amser. Os nad ydych yn siŵr, rhowch amcangyfrif i'r cyngor.

Os bydd eich budd-daliadau’n newid bydd angen i chi hefyd ddweud wrth y cyngor faint yw eich incwm a’ch cynilion. Mae hyn er mwyn iddynt allu gweithio allan faint o Fudd-dal Tai y dylech ei gael.

Newidiadau i'ch cynilion

Os yw eich cynilion dros derfyn penodol, mae angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol os bydd eich cynilion yn cynyddu neu'n gostwng.

Mae’r terfyn yn dibynnu ar p’un a ydych yn hawlio Budd-dal Tai fel rhan o gwpl, ac a ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Os ydych yn hawlio fel person sengl

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y terfyn yw £6,000.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y terfyn yw £10,000

Os ydych yn hawlio fel cwpl

Dylech ychwanegu’ch cynilion a chynilion eich partner i weld a ydych dros y terfyn.

Os ydych chi a'ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y terfyn yw £6,000.

Os ydych chi a'ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y terfyn yw £10,000.

Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y terfyn fel arfer yw £6,000. Y terfyn yn lle hynny yw £10,000 os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • cyrhaeddodd un ohonoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019

  • mae’r ddau ohonoch wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai fel cwpl ers cyn 15 Mai 2019

  • nid yw’r partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm na Chredyd Cynhwysol

Newidiadau yn ymwneud â'ch partner a'ch plant

Yr hyn sydd angen i chi ei ddweud wrth eich cyngor lleol yn dibynnu ar p'un a ydych yn cael y rhan gwarant o Gredyd Pensiwn.

Os ydych yn cael y rhan gwarant o Gredyd Pensiwn

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os bydd budd-daliadau eich partner neu’ch plentyn yn newid, neu os byddan nhw’n dechrau cael budd-dal newydd.

Os nad ydych yn cael Credyd Pensiwn neu dim ond rhan cynilion Credyd Pensiwn y byddwch yn ei gael

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os:

  • mae budd-daliadau eich partner neu blentyn yn newid, neu maen nhw’n dechrau cael budd-dal newydd

  • rydych yn ysgaru, yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil

  • mae eich partner yn symud i mewn neu allan

  • incwm eich partner yn mynd i fyny neu i lawr

  • cynilion eich partner yn mynd i fyny neu i lawr

Dylech hefyd roi gwybod i’r cyngor os yw plentyn rydych yn gyfrifol amdano:

  • dros 16 oed ac yn gorffen ei gwrs addysg neu hyfforddiant

  • troi'n 20 mlwydd oed

  • troi'n 16 oed – os oes gan eich plant ystafelloedd gwely ar wahân

  • yn symud i mewn i'ch cartref

  • yn symud allan o'ch cartref, neu rydych yn rhoi'r gorau i gael Budd-dal Plant ar eu cyfer

Newidiadau yn ymwneud ag oedolion eraill rydych yn byw gyda nhw

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os yw oedolyn rydych yn byw gydag ef/hi, fel cyd-letywr neu blentyn dros 18:

  • yn cychwyn ennill mwy neu lai o arian

  • yn dechrau cael budd-dal newydd, neu mae eu budd-daliadau presennol yn newid

Dylech hefyd ddweud wrth y cyngor os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch cartref.

Os oes gennych letywr neu breswylydd

Dim ond os byddwch chi'n newid nifer y lletywyr sy'n byw gyda chi y mae angen i chi ddweud wrth y cyngor neu faint rydych chi'n ei godi arnyn nhw.

Mae lletywr yn rhywun sy'n byw gyda chi ac yn talu rhent. Mae preswylydd yn rhywun sy'n byw gyda chi ac yn talu am brydau bwyd, fel brecwast bob dydd.

Os bydd rhywun yn byw gyda chi heb gytundeb i dalu, nid oes angen i chi ddweud wrth y cyngor os yw’n rhoi arian i chi, er enghraifft i helpu i dalu’r biliau.

Os bydd rhywun yn cael Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch

 

Dywedwch wrth eich cyngor lleol os bydd rhywun yn dechrau cael Lwfans Gofalwr oherwydd eu bod yn gofalu amdanoch – neu os byddant yn peidio â’i gael.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y rhan ‘premiwm anabledd difrifol’ o Fudd-dal Tai, bydd eich Budd-dal Tai yn newid os bydd rhywun:

  • yn dechrau cael Lwfans Gofalwr ar eich rhan – byddwch yn cael llai o Fudd-dal Tai

  • yn rhoi’r gorau i gael Lwfans Gofalwr ar eich rhan – byddwch yn cael mwy o Fudd-dal Tai

Mae hyn oherwydd na allwch gael y premiwm anabledd difrifol tra bod rhywun yn cael Lwfans Gofalwr ar eich rhan.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n cael y premiwm anabledd difrifol, gwiriwch y llythyr sy’n dweud wrthych chi faint o Fudd-dal Tai y byddech chi’n ei gael. Gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol os nad yw’r llythyr gennych.

Os ydych chi neu'ch partner yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai fel cwpl, bydd eich Budd-dal Tai fel arfer yn dod i ben pan fydd y partner hŷn yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Ni fydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben os bydd y partner iau yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Cymhorthdal Incwm

Ni fydd eich cais am Fudd-dal Tai ychwaith yn dod i ben os byddwch yn dechrau cais newydd – gwiriwch pwy all wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. 

Os daw eich cais am Fudd-dal Tai i ben, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle hynny – gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n well rhoi gwybod am y newid ar-lein neu drwy e-bost os yw’ch cyngor yn caniatáu ichi wneud hyn. Mae’n gyflymach nag ysgrifennu llythyr, ac rydych chi’n arbed cost postio. Edrychwch ar wefan eich cyngor ar GOV.UK i gael gwybod sut y gallwch roi gwybod am y newid.

Os ydych yn rhoi gwybod am y newid ar-lein, mae’n syniad da cadw copi o:

  • y sgrin sy'n dangos y newidiadau rydych chi'n eu hadrodd

  • y sgrin sy'n cadarnhau bod eich newidiadau wedi'i hanfon

Fe allech chi dynnu llun o'r sgrin os oes gan eich ffôn gamera. Neu gallwch arbed y dudalen fel sgrinlun neu ffeil ar eich cyfrifiadur. Bydd hyn o gymorth yn ddiweddarach os bydd angen i chi brofi eich bod wedi rhoi gwybod am y newid.

Ysgrifennwch at y cyngor os na allwch roi gwybod am y newid ar-lein. Ysgrifennwch ‘newid mewn amgylchiadau’ yn glir ar frig y llythyr. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y newid. Er enghraifft, os yw'ch partner wedi symud allan, rhowch ei enw i'r cyngor, pryd y symudodd a beth yw ei gyfeiriad newydd.

Cadwch gopi o'r llythyr rhag ofn y bydd angen i chi brofi eich bod wedi rhoi gwybod am y newid.

Os ydych yn byw gerllaw, gallwch arbed cost postio'r llythyr drwy fynd ag ef i swyddfa leol y cyngor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb pan fyddwch yn ei chyflwyno.

Os na allwch fynd â’ch llythyr i’r swyddfa, anfonwch ef i’r cyfeiriad ar y llythyr sy’n dweud wrthych faint o Fudd-dal Tai a gewch. Os na allwch ddod o hyd i’r llythyr hwn, cysylltwch â’ch cyngor lleol i ofyn i ba adran y dylech ei anfon.

Gofynnwch i Swyddfa’r Post am brawf postio – efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch ei anfon.

Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu os ydych chi’n cael trafferth i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Rhoi gwybod am newidiadau ar amser

Unwaith y byddwch yn gwybod am newid a allai effeithio ar eich Budd-dal Tai, rhowch wybod i'r cyngor cyn gynted ag y gallwch.

Dylech roi gwybod am y newid o fewn mis os gallwch. Efallai y bydd y newid yn cynyddu eich taliad ac efallai y byddwch yn colli arian ychwanegol os byddwch yn dweud wrth y cyngor yn hwyr.

Dylech ddweud wrth y cyngor o hyd os ydych chi'n meddwl y gallai newid leihau eich taliad - ni fyddwch yn arbed arian trwy roi gwybod amdano'n ddiweddarach. Os byddwch yn dweud wrth y cyngor yn hwyr gallech gael gormod o dâl a bydd yn rhaid i chi dalu'ch budd-daliadau yn ôl i'r cyngor. Gelwir hyn yn ordaliad - gwiriwch sut mae cynghorau yn delio â gordaliadau. 

Os digwyddodd y newid fwy na mis yn ôl

Mae’n well rhoi gwybod am newid yn hwyr na pheidio â’i adrodd o gwbl.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am y newid, eglurwch pam na allech roi gwybod amdano pan ddigwyddodd – er enghraifft, os oeddech yn sâl.

Os digwyddodd y newid yn ystod y 13 mis diwethaf ac mae'n golygu y dylech gael mwy o Fudd-dal Tai, gofynnwch i'r cyngor dalu'r arian ychwanegol o'r diwrnod y digwyddodd y newid. Byddant yn gwneud hyn os ydynt yn cytuno na allech roi gwybod amdano’n gynharach. Os ydyn nhw’n meddwl y gallech chi fod wedi rhoi gwybod am y newid yn gynt, byddan nhw’n talu’r swm newydd o Fudd-dal Tai i chi o’r diwrnod y byddwch chi’n rhoi gwybod am y newid.

Darganfod faint fyddwch chi'n ei gael ar ôl y newid

Bydd eich cyngor lleol yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych:

  • faint rydych chi'n mynd i'w gael

  • os oes angen i chi wneud unrhyw beth arall

Gwiriwch y llythyr i wneud yn siŵr bod y cyngor wedi cofnodi'r newid cywir mewn amgylchiadau. Dylech gysylltu â nhw i ddweud wrthynt os ydynt wedi gwneud camgymeriad. Gallwch ofyn i’ch Cyngor ar Bopeth lleol os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn gywir.

Os nad yw’r swm newydd o Fudd-dal Tai yn cynnwys eich rhent dylech wneud cais am Daliad Tai Dewisol (TTD). 

Os na chewch lythyr gan y cyngor o fewn 3 wythnos

Cysylltwch â’r cyngor a gofynnwch iddynt a ydynt wedi cofnodi’r newid yn eich amgylchiadau. Bydd angen i chi gael manylion am y newid a phryd y gwnaethoch ddweud wrthynt amdano – er enghraifft prawf postio os anfonoch lythyr.

Ceisiwch gynilo'r Budd-dal Tai ychwanegol os ydych chi'n meddwl y gallai'r cyngor fod yn talu gormod i chi. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws ei dalu'n ôl os oes angen.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 15 Hydref 2019