Gwiriwch a allwch ychwanegu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm at eich cais

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) ar gyfer y rhan fwyaf o bobl – gwiriwch a allwch hawlio Credyd Cynhwysol.

Dim ond os ydych eisoes yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm .

Rhaid i chi hefyd:

  • bod yn sengl, neu fod â phartner sy'n gweithio llai na 24 awr yr wythnos ar gyfartaledd

  • â £16,000 neu lai mewn cynilion (gan gynnwys cynilion eich partner)

Ni allwch gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm os ydych eisoes yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ‘dull newydd’.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Mewn rhai sefyllfaoedd mae angen ‘hawl i breswylio’ arnoch hefyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog gan Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm . Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm . Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.

Os ydych chi'n gweithio'n rhan-amser

Bydd eich cyflog yn effeithio ar eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith, ac mae’r rheolau’n gymhleth. Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i gyfrifo faint y gallwch ei gael, neu cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth.

Faint o Lwfans Ceisio Gwaith y byddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm gallwch gael hyd at:

  • £71.70 os ydych yn 18 i 24

  • £90.50 os ydych yn 25 oed neu’n hŷn

  • £142.25 os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm fel cwpl

Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau – er enghraifft, efallai y bydd eich taliad yn llai os ydych yn gweithio’n rhan amser neu’n cael pensiwn.

Gallwch gael taliadau ychwanegol ar ben eich lwfans personol mewn rhai achosion - gelwir y rhain yn ‘bremiwm’. Byddwch yn cael premiwm os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a’ch bod chi neu’ch partner yn:

Gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ar yr un pryd. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio faint y gallwch ei gael am bob un ohonynt. Cyfanswm y Lwfans Ceisio Gwaith a gewch yw pa bynnag swm sydd uchaf.

Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us  i gyfrifo faint y gallwch ei gael, neu cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol

Cael help gyda chostau tai

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, efallai y cewch daliadau ychwanegol i helpu gyda’ch costau tai – fel arfer telir y rhain yn syth i’ch landlord, benthyciwr neu ddarparwr morgais.

Mae angen i chi ofyn am help gyda chostau tai pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm dros y ffôn.

Os ydych yn rhentu eich cartref

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Tai i helpu i dalu rhent tra byddwch yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm - darganfyddwch faint y gallech ei gael ar GOV.UK.

Os oes gennych forgais neu fenthyciad arall ar gyfer eich cartref

Efallai y gallwch gael benthyciad gan y llywodraeth i helpu i dalu’r llog ar forgais, neu fenthyciad arall i dalu am bethau fel:

  • rhydd-ddaliad eich eiddo

  • cyfran eich cyn partner o’ch eiddo

  • atgyweiriadau a gwelliannau mawr

Gelwir y benthyciad yn ‘gymorth ar gyfer llog morgais’ (SMI). Bydd angen i chi ei dalu’n ôl – ond dim ond pan fyddwch chi’n gwerthu’ch cartref neu’n ei roi i rywun arall.

Fel arfer telir cymorth llog morgais yn uniongyrchol i ddarparwr eich morgais neu fenthyciad. Mae’n helpu i dalu’r llog ar yr hyn rydych chi wedi’i fenthyg yn unig, nid yr ad-daliadau.

Bydd gymorth ar gyfer llog morgais fel arfer yn dechrau 39 wythnos (tua 9 mis) ar ôl i chi wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn meddwl y gallwch gael gymorth ar gyfer llog morgais, bydd yn gofyn a ydych am wneud cais amdano. Fel arfer byddant yn gofyn 7 neu 8 mis ar ôl i chi wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith.

Os ydych yn talu rhent tir neu dâl gwasanaeth

Gallwch gael taliad Lwfans Ceisio Gwaith ychwanegol i helpu gyda’ch rhent tir os oes gan eich les fwy nag 21 mlynedd ar ôl. Ni fydd yn rhaid i chi dalu'r arian hwn yn ôl.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help i dalu costau gwasanaeth os ydynt am:

  • yswiriant adeiladu – os yw’n rhan o amod o’ch prydles

  • atgyweiriadau bach, er enghraifft i bibellau dŵr neu wres

  • gwelliannau bach, er enghraifft peintio cyntedd

Fel arfer ni allwch gael help gyda’ch tâl gwasanaeth os yw ar gyfer gwelliannau neu atgyweiriadau mawr, ond mae rhai eithriadau – er enghraifft, pe byddai eich cartref wedi bod yn anniogel heb atgyweiriadau strwythurol.

Gall gymryd hyd at 39 wythnos i gynnwys y treuliau hyn yn eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, felly mae’n well gwneud cais amdanynt cyn gynted â phosibl.

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.