Gwiriwch a allwch gael Credyd Pensiwn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal wythnosol i roi hwb i'ch incwm. Mae’n seiliedig ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn.

Mae dwy ran i Gredyd Pensiwn, sef Credyd Gwarant a Chredyd Cynilion. Efallai y cewch un neu'r ddwy ran.

Mae Credyd Gwarant yn ychwanegu at eich incwm wythnosol i isafswm.

Mae Credyd Cynilion yn swm bach ychwanegol i bobl sydd ag incwm neu gynilion bach. Dim ond os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 y mae ar gael.

Gweithio allan a ydych yn gymwys i gael Credyd Gwarant

I hawlio Credyd Pensiwn rhaid i chi:

Gallwch fod yn gweithio o hyd, cyn belled nad yw eich incwm yn rhy uchel.

Yn wahanol i Bensiwn y Wladwriaeth, nid oes angen cofnod yswiriant gwladol arnoch.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Credyd Pensiwn. Mewn rhai sefyllfaoedd mae angen ‘hawl i breswylio’ arnoch chi hefyd.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych statws cyn-sefydlog o Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Credyd Pensiwn. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio. 

Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Credyd Pensiwn. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio.

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn eich galluogi i hawlio arian cyhoeddus.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r DU

Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai’r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref. Gelwir hyn yn ‘breswylydd arferol’. Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn ddinesydd Prydeinig.

Gwiriwch sut i brofi eich bod yn breswylydd arferol. 

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond nid yw eich partner

Os ydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn parhau i’w gael oni bai bod eich amgylchiadau’n newid.

Fel arfer ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn.

Gallwch barhau i wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019

rydych wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai ers cyn 15 Mai 2019

Fel arall bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle fel arfer - gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Gweithio allan eich incwm a'ch cynilion

Mae’n syniad da casglu popeth y gallwch am eich incwm wythnosol cyn gwneud cais.

Mathau cyffredin o incwm yw:

  • arian o bensiwn preifat

  • arian a gewch o Bensiwn y Wladwriaeth

  • y rhan fwyaf o enillion gan gyflogwr neu o fod yn hunangyflogedig - bydd eich enillion yn cael eu cyfrifo fel cyfartaledd os byddant yn mynd i fyny ac i lawr dros y flwyddyn

  • budd-daliadau fel JSA neu ESA

Bydd angen i chi hefyd ystyried pa gynilion a buddsoddiadau sydd gennych. Gallai hyn gynnwys:

  • eiddo rydych chi'n berchen arno ac eithrio'r cartref rydych chi'n byw ynddo

  • cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill

  • arian a ddelir mewn cyfrifon banc neu gynilo

Bydd unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau dros £10,000 yn effeithio ar swm y Credyd Pensiwn a gewch. Byddwch yn cael eich trin fel pe bai gennych £1 yr wythnos o incwm am bob £500 dros £10,000.

Os yw eich incwm wythnosol yn is na £218.15 yna bydd Credyd Gwarant yn ychwanegu at y swm hwnnw.

Os ydych yn hawlio fel cwpl a bod eich incwm yn is na £332.95 caiff ei ychwanegu at y swm hwnnw.

Os ydych yn gwneud cais fel cwpl bydd angen yr un wybodaeth arnoch am incwm eich partner.

Gall eich incwm fod yn uwch na £218.15 neu £332.95 os ydych yn gymwys i gael symiau ychwanegol fel yr anabledd difrifol neu ychwanegiad gofalwr. Gall eich incwm fod yn uwch hefyd os ydych yn talu morgais.

Gwiriwch a allwch chi gael symiau ychwanegol

Efallai y gallwch gael arian ychwanegol os ydych yn cael budd-daliadau eraill neu os ydych yn gyfrifol am blentyn.

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, fel Lwfans Gofalwr, Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Gweini, gall swm eich Credyd Gwarant wythnosol fynd dros y trothwy isafswm incwm o £218.15.

Os ydych yn gymwys gallwch dderbyn swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol o £81.50 yr wythnos. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer yr ychwanegiad anabledd difrifol ar GOV.UK.

Y swm ychwanegol os ydych yn ofalwr yw £45.60. Byddwch yn cael hwn os ydych chi neu’ch partner yn derbyn Lwfans Gofalwr neu wedi gwneud cais amdano ac yn bodloni ei amodau. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer ychwanegiad y gofalwr ar GOV.UK.

Bydd angen i chi gael manylion unrhyw fudd-daliadau a gewch os byddwch yn defnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn ar GOV.UK.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn gallwch gael swm ychwanegol ar ei gyfer, ar yr amod nad ydych eisoes yn cael credydau treth plant. Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio budd-dal plant. 

Gwiriwch a allwch gael Credyd Cynilion

Credyd Cynilion yw ail ran Credyd Pensiwn. Dim ond os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 y mae ar gael.

Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar p’un a ydych yn cyrraedd y ‘trothwy credyd cynilo’ Mae’n rhaid bod gennych incwm wythnosol o £189.80 yr wythnos o leiaf os ydych yn sengl neu £301.22 yr wythnos os ydych yn hawlio fel cwpl.

Mae'r rheolau incwm yn wahanol i Gredyd Gwarant.

Peidiwch â chyfrif unrhyw incwm a gewch o:

  • credydau treth gwaith

  • budd-dal analluogrwydd

  • ESA cyfrannol

  • LCG cyfrannol

  • lwfans anabledd difrifol

  • lwfans mamolaeth

  • taliadau cynnal a chadw

Y mwyaf y gallwch ei gael o Gredyd Cynilion yw £17.01 yr wythnos os ydych yn sengl neu £19.04 os ydych yn hawlio fel cwpl.

Camau nesaf

Mae’n syniad da defnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn ar GOV.UK cyn gwneud cais. Byddwch yn cael gwybod a ydych yn gymwys ai peidio ag sut i wneud cais.

Sut i hawlio Credyd Pensiwn

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 10 Rhagfyr 2018