Faint o ESA allwch chi ei gael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dydy pawb ddim yn cael yr un faint o ESA, felly allwn ni ddim dweud wrthych yn union faint fyddwch chi'n ei gael cyn i chi wneud cais. Fodd bynnag, mae symiau safonol y gallech eu cael.

Pan fyddwch yn disgwyl i’ch cais gael ei asesu

Dyma’r ‘cyfnod asesu’ – mae’n para 13 wythnos gan amlaf ond gallai fod yn llawer hirach.

Os ydych chi'n hawlio ar ôl cael eich dyfarnu'n ffit i weithio

Fyddwch chi ddim yn cael eich talu yn ystod y cyfnod asesu, oni bai bod gennych chi gyflwr newydd neu fod eich cyflwr wedi gwaethygu.

Os nad ydych chi wedi cael eich dyfarnu'n ffit i weithio

Os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn, fe gewch hyd at £ 73.10 yr wythnos. Bydd hyn yn aros yr un fath tra bydd eich cais yn cael ei asesu

Os ydych chi'n 24 oed neu'n iau, fe gewch hyd at £ 57.90 yr wythnos. Bydd hyn yn aros yr un fath tra bydd eich cais yn cael ei asesu.

Os ydych chi'n ofalwr neu fod gennych anabledd difrifol, gallech gael swm ychwanegol (sef premiwm).

Os ydych chi'n gwneud cais am ESA yn seiliedig ar incwm a'ch bod mewn cwpl, y swm safonol y byddwch yn ei gael fydd £114.85. Os ydych mewn cwpl a bod un ohonoch o dan 18 oed byddwch chi'n cael llai na'r swm safonol ar gyfer cyplau dros 18 oed.

Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo

Os yw'r Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu nad ydych chi’n ffit i weithio (hynny yw, bod gennych allu cyfyngedig i weithio), byddwch yn cael eich rhoi yn y 'grŵp cymorth' neu'r 'grŵp gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith'.

Os ydych chi yn y grŵp cymorth

Byddwch yn cael hyd at £110.75 yr wythnos. Byddwch yn y grŵp hwn os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu nad ydych chi'n ddigon iach i weithio ac nad ydych chi’n ddigon iach i gael help i wella'ch siawns o gael gwaith yn y dyfodol.

Os oes gennych hawl i ESA seiliedig ar incwm, byddwch yn cael £16.40 yr wythnos yn ychwanegol, sef y Premiwm Anabledd Uwch. Os ydych chi mewn cwpl, bydd hyn yn £23.55.

Os oeddech chi’n cael premiwm yn ystod y cyfnod asesu fel gofalwr neu fel rhywun ag anabledd difrifol, bydd hyn yn parhau.

Gallwch hawlio ESA sy'n seiliedig ar gyfraniadau cyhyd ag y byddwch ei angen.

Os ydych chi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith

Byddwch chi’n cael hyd at £73.10 yr wythnos os nad ydych chi wedi hawlio ESA erioed o'r blaen. Gallwch gael hyd at £102.15 yr wythnos os ydych chi’n cael ESA yn barod, neu os ydych chi wedi cael eich symud yn awtomatig i ESA o Fudd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Gymhorthdal Incwm.

Byddwch yn y grŵp hwn os bydd y DWP yn penderfynu nad ydych chi’n ddigon iach i weithio ond yn ddigon da i gael help i wella'ch siawns o gael gwaith yn y dyfodol.

Ar ôl i chi gael eich asesu, dylai'r arian ychwanegol a gewch gael ei ôl-ddyddio i 14eg wythnos eich cais.

Os oeddech chi'n cael premiwm yn ystod y cyfnod asesu fel gofalwr neu rywun ag anabledd difrifol, bydd hyn yn parhau.

Os ydych chi’n cael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, bydd yn para am flwyddyn yn unig.

Pan fydd eich ESA yn seiliedig ar gyfraniadau yn dod i ben ar ôl blwyddyn

Gallech:

  • fod yn gymwys i gael ESA yn seiliedig ar incwm – gweld os ydych chi’n gymwys

  • wneud cais am ESA yn seiliedig ar gyfraniadau eto – o leiaf 12 wythnos ar ôl i’ch ESA yn seiliedig ar gyfraniadau ddod i ben

  • fod yn gymwys i gael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau eto os yw’ch iechyd yn gwaethygu a bod y DWP yn eich ailasesu ac yn eich rhoi yn y grŵp cymorth

Dysgwch am ofyn i’r DWP eich ailasesu oherwydd bod eich iechyd wedi gwaethygu.

Gallwch gael gwybod am ESA ar GOV.UK hefyd.

Camau nesaf

Sut i hawlio ESA

Gweld os ydych chi'n gymwys i gael ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020