Paratoi ar gyfer eich asesiad meddygol ESA

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ar ôl iddynt gyflwyno eu ffurflen ESA50, gofynnir i’r rhan fwyaf o bobl fynd am asesiad meddygol, sef ‘Asesiad Gallu i Weithio’. Cynhelir yr asesiadau gan y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd.

Bydd y gwasanaeth yn eich ffonio i drefnu dyddiad ac amser ar gyfer yr asesiad. Os byddai’n well gennych chi ein bod yn cysylltu â chi mewn ffordd wahanol, gallwch roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd drwy anfon e-bost atynt, neu gallwch gael rhywun arall i’w ffonio ar eich rhan chi a rhoi gwybod iddynt y byddai’n well gennych iddynt gysylltu â chi ar e-bost.

E-bost: customer-relations@chdauk.co.uk

Ffôn: 0800 288 8777

Pan fyddant yn cysylltu â chi, bydd y gwasanaeth yn dweud hefyd i ba ganolfan mae angen i chi fynd ar gyfer eich asesiad.

Os yw’ch salwch neu anabledd yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl i chi deithio i asesiad, gallwch ofyn i’r asesiad gael ei gynnal gartref. Dywedwch hynny wrth y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd pan fyddant yn eich ffonio - byddant yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth gan eich meddyg, neu weithwyr proffesiynol meddygol eraill, i egluro pam na allwch chi deithio.

Trefnu’ch asesiad meddygol

Holwch y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd a oes gan y ganolfan rydych chi’n mynd iddi bopeth sydd eu hangen arnoch. Os nad oes ganddynt, gofynnwch amdanynt.

Er enghraifft, gallwch:

  • ofyn am fath arbennig o gadair i eistedd arni (wrth aros ac yn ystod yr asesiad) – gofalwch fod ganddynt un yno

  • holwch a fydd raid i chi fynd i fyny’r grisiau, neu a oes ganddynt lifft y gallwch chi ei ddefnyddio yn eich cadair olwyn

  • gofynnwch iddynt faint o le sydd yn y ganolfan asesu os ydych chi’n mynd yn bryderus mewn mannau caeedig - os yw’r ystafelloedd neu’r coridorau’n fach, dywedwch wrthynt y gallai hyn eich gwneud yn bryderus a gweld beth allan nhw ei gynnig i chi

  • gofynnwch am gyfieithydd neu arwyddwr os ydych chi angen un – mae angen i chi ofyn am un o leiaf ddau ddiwrnod cyn eich asesiad er mwyn iddynt allu gwneud yn siŵr bod un ar gael

  • gofynnwch i bwy bynnag sy’n cynnal yr asesiad fod yr un rhyw â chi, os yw hynny’n bwysig i chi.

I ofyn am unrhyw un o’r pethau hyn, neu unrhyw beth arall rydych chi ei angen, ffoniwch y tîm cysylltiadau cwsmeriaid.

Ffôn: 0800 288 8777

Dydd Llun i ddydd Gwener

Ar agor 9am tan 5pm

Cofiwch

Os ydych chi’n amau na fydd y ganolfan asesu yn gallu diwallu eich anghenion, gallwch gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.

Gallwch fynd â rhywun gyda chi i’r asesiad ac i’r ystafell asesu gyda chi, os ydych chi’n dymuno. Gallai’r person hwn fod yn rhywun sy’n eich gwneud i deimlo’n fwy cyfforddus a all rhoi cymorth i chi tra bod yr asesiad yn digwydd, fel ffrind, perthynas neu ofalwr.

Pwysig

Rhybudd

Mae’n rhaid i chi fynd i’ch asesiad. Os nad ydych chi’n mynd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhagdybio eich bod yn ffit i weithio ac yn atal eich cais. Os oes angen i chi ei ohirio am nad ydych yn ddigon da i fynd, cofiwch ffonio cyn yr apwyntiad.

Ffôn: 0800 288 8777

Dydd Llun i ddydd Gwener

Ar agor 9am tan 5pm

Costau teithio – beth allwch chi ei gael yn ôl

Gellir ad-dalu eich costau teithio i’ch cyfrif banc. Dewch â’ch manylion gyda chi i’r asesiad a bydd y derbynnydd yn eich helpu i lenwi ffurflen gais.

Gallwch hawlio costau teithio pwy bynnag sydd angen dod gyda chi hefyd. Os ydych chi am hawlio treuliau ar gyfer rhywun arall sy’n teithio gyda chi, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd.

Ffôn: 0800 288 8777

Dydd Llun i ddydd Gwener

Ar agor 9am tan 5pm

Trafnidiaeth gyhoeddus

Gofalwch eich bod yn cadw unrhyw docynnau neu dderbynebau.

Mewn car

Gallwch hawlio eich costau tanwydd yn ôl. Telir 25c y filltir. Gallwch hefyd hawlio unrhyw gostau parcio.

Mewn tacsi

Os ydych chi ond yn gallu teithio mewn tacsi, bydd angen i chi ffonio cyn yr asesiad ar 0800 288 8777 i roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd. Yna, byddant yn cael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ystyried eich cais ac yn rhoi gwybod i chi a fyddant yn talu’ch ffi tacsi.

Pwysig

Rhybudd

Os nad oes cytundeb cyn eich asesiad y bydd y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd yn talu am eich tacsi, byddant ond yn talu’r hyn y byddech chi wedi’i dalu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Paratoi ar gyfer eich asesiad meddygol

Mae ambell beth y gallwch chi ei wneud cyn eich asesiad a allai wneud pethau’n llai o straen ar y diwrnod.

Meddyliwch sut mae’ch salwch neu anabledd yn effeithio arnoch chi - yn enwedig ar ddyddiau gwael. Byddwch eisoes wedi crybwyll llawer o’r pethau hyn wrth lenwi’r ffurflen ESA50, ond bydd yn helpu os ydych chi’n barod i siarad am:

  • y math o bethau rydych chi’n cael anawsterau gyda nhw, neu’n methu gwneud o gwbl - er enghraifft, creded i fyny i’r grisiau heb gymorth, neu gofio mynd i apwyntiadau

  • sut beth yw diwrnod arferol i chi – sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd

  • sut beth yw diwrnod gwael i chi - e.e. ‘Ar ddiwrnod gwael, dydw i ddim yn gallu cerdded o gwbl gan fod fy nghoes yn rhoi gymaint o boen i mi’ neu ‘Ar ddiwrnod gwael, rydw i mor isel dydw i ddim yn gallu canolbwyntio ar unrhyw beth’.

Cofiwch

Gallwch ysgrifennu rhestr o’r holl bethau hyn a mynd â’r rhestr i’r asesiad gyda chi. Mae’n iawn cadw llygad arni yn ystod yr asesiad os ydych chi’n poeni am anghofio rhai o’r pethau rydych chi am eu dweud.

Beth ddylech chi fynd gyda chi

Bydd angen i chi fynd â rhywbeth i’ch adnabod i’ch asesiad. Pasbort sydd orau fel arfer. Os nad oes gennych chi basbort, bydd angen i chi fynd â dau fath gwahanol o ddogfennau sy’n dangos pwy ydych chi. Er enghraifft:

  • eich tystysgrif geni

  • eich trwydded yrru lawn

  • cyfriflen ddiweddar sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad

  • bil trydan neu nwy

Dylech hefyd ddangos:

  • unrhyw dabledi neu feddyginiaeth sydd eu hangen arnoch chi

  • unrhyw gymhorthion ac offer y byddwch yn eu defnyddio fel gwydrau, cymhorthion clyw neu ffon gerdded

Os ydych chi wedi gwneud a chadw copi o’ch ffurflen ESA50, gallwch fynd â’r copi hwn gyda chi i’r asesiad os mai dyna’ch dymuniad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn dweud y cyfan wrth yr aseswr am eich cyflwr ac nad ydych chi’n anghofio unrhyw beth.

Cofiwch

Gallwch ddod â ffrind neu berthynas gyda chi a dod â nhw i’r asesiad ei hun gyda chi i’ch helpu os mai dyna’ch dymuniad. Gallant ddweud wrth yr aseswr beth sy’n anodd i chi ei ddweud.

Gallwch hefyd ofyn i’ch asesiad gael ei gofnodi neu i rywun fynd i mewn gyda chi i wneud nodiadau. Ffoniwch 0800 288 8777 cyn yr asesiad i roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd.

Beth sy’n digwydd yn eich asesiad meddygol

Bydd aseswr annibynnol â chymwysterau meddygol (a elwir o bryd i’w gilydd yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol) yn asesu sut mae’ch salwch neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Maen nhw’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi ar eich ffurflen ESA50 a hefyd yn llunio barn ac yn gwneud rhagdybiaethau o’r hyn rydych chi’n ei wneud ar y diwrnod.

Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i chi sut y gwnaethoch chi gyrraedd y ganolfan asesu. Os ydych chi’n dweud eich bod wedi dod ar y bws, byddant yn gwneud nodyn y gallwch chi deithio ar eich pen eich hun ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Neu, os byddwch yn dweud eich bod yn mynd i siopa mewn archfarchnad efallai y byddant yn rhagdybio eich bod yn gallu cerdded o gwmpas yr archfarchnad oni bai eich bod yn dweud yn glir nad ydych chi’n gallu neu fod angen cymorth arnoch chi.

Neu gallent ofyn am ba hyd rydych chi wedi bod yn eistedd yn yr ystafell aros cyn yr asesiad. Os ydych chi’n dweud ‘hanner awr’, byddant yn gwneud nodyn y gallwch chi eistedd ar gadair arferol am o leiaf 30 munud. Yn yr enghraifft hon, gallai fod yn ddefnyddiol egluro ymhellach os yw hynny’n berthnasol, e.e. eich bod wedi aros hanner awr ond wedi gorfod cerdded o gwmpas ac ati gan nad oeddech yn gallu eistedd am gyfnod mor hir.

Cofiwch

Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud pethau yn yr asesiad na fyddech chi’n gallu eu gwneud fel arfer. Os ydych chi’n eu gwneud ar ddiwrnod yr asesiad, efallai y bydd yr aseswr yn meddwl eich bod yn gallu eu gwneud nhw drwy’r amser. Os nad ydych chi’n gyfforddus ag unrhyw beth – cofiwch ddweud.

Efallai y bydd gofyn i chi gyflawni tasgau corfforol yn ystod yr asesiad. Efallai y bydd yr aseswr hefyd yn eich archwilio chi mewn ffordd debyg i’r ffordd y byddai meddyg yn eich archwilio.

Byddant yn siarad gyda chi am y pethau rydych chi wedi’u rhoi ar eich ffurflen ESA50 - gallwch edrych yn ôl ar yr atebion rydych chi wedi’u rhoi ar y ffurflen os ydych chi wedi mynd â chopi gyda chi. Gallwch egluro’r rhain eto wrth yr aseswr a rhoi enghreifftiau eraill o bethau sy’n anodd i chi.

Cyngor ar eich asesiad meddygol

Cofiwch:

  • ddweud wrth yr aseswr bopeth y gallwch chi sy’n berthnasol i’ch salwch, cyflwr iechyd neu anabledd, hyd yn oed os yw eisoes ar eich ffurflen

  • cefnogi’r hyn rydych chi wedi’i ddweud ar y ffurflen ESA50 gydag unrhyw dystiolaeth y gallwch chi, fel llythyr meddyg neu enghreifftiau o bethau sydd wedi digwydd i chi

  • gofynnwch am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch chi – gall wneud yr asesiad yn llai beichus.

Peidiwch â:

  • gorliwio neu ddweud celwydd am eich cyflwr

  • teimlo bod yn rhaid i chi wneud unrhyw beth na fyddech chi’n gallu ei wneud fel arfer

  • disgwyl i’r aseswr fod ‘ar eich ochr’ – maen nhw yno i ofyn cwestiynau, ddim i sicrhau eich bod yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Nid yr aseswr sy’n penderfynu ar eich ESA – maen nhw’n gwneud argymhelliad i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl eich asesu. Yn eich asesiad, fyddan nhw ddim yn gallu dweud beth fydd eu hargymhelliad.

Gallwch gael copi o adroddiad eich asesiad drwy ofyn i swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd yng ngofal eich cais. Bydd eu rhif ffôn ar unrhyw lythyrau rydych chi wedi’u derbyn ganddynt am eich cais ESA.

Ar ôl eich asesiad, bydd swyddog penderfynu o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar yr argymhelliad a wnaed gan yr aseswr ac yn ei ddefnyddio i benderfynu a allwch chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Camau nesaf

Cael eich penderfyniad ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Ebrill 2020