C18 – bwyta ac yfed

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar dudalen 18 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut i ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn yma’n gofyn pa mor anodd yw hi i chi fwyta ac yfed. Mae’r cwestiwn yn asesu hefyd os ydych chi’n methu, neu os ydych chi ddim eisiau bwyta.

“Allwch chi gael bwyd a diod i'ch ceg heb help neu anogaeth gan berson arall?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Nid dim ond gofyn ydych chi’n gallu rhoi bwyd neu ddiod yn eich ceg yn gorfforol mae’r cwestiwn hwn – mae’n gofyn hefyd ydych chi’n anghofio bwyta neu yfed, ac ydych chi ddim eisiau bwyta neu yfed.

Er enghraifft, efallai byddwch chi’n:

  • anghofio bwyta oherwydd iselder ysbryd

  • osgoi bwyta oherwydd mae treulio bwyd yn boenus i chi

  • dioddef o anhwylder bwyta

Peidiwch â theimlo cywilydd os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:

  • os yw symud eich dwylo neu’ch breichiau yn anodd i chi

  • os yw cyflwr iechyd meddwl yn gwneud i chi anghofio bwyta, neu’n golygu nad ydych chi awydd bwyta

  • os yw anorecsia, bwlimia neu fath arall o anhwylder bwyta’n effeithio arnoch chi

  • os yw’ch gallu i gydsymud neu afael mewn pethau’n wael, neu fod gennych chi wendid neu’ch bod yn ysgwyd

  • os ydych chi’n defnyddio tiwb bwydo i’ch stumog, neu linell fwydo i’ch gwythiennau

“Allwch chi gnoi a llyncu bwyd ac yfed heb help neu anogaeth gan berson arall?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Unwaith eto, ddylech chi ddim teimlo’n annifyr os oes rhaid i chi dicio “na”, er enghraifft:

  • os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cnoi, felly’n bwyta hylifau fel cawl yn bennaf

  • os yw bwyta neu yfed yn gwneud i chi besychu neu dagu

  • os yw bwyd yn dod yn ôl i fyny

  • os yw’n teimlo bod rhywbeth yn sownd yn eich gwddf neu’ch brest pan fyddwch chi’n ei fwyta

  • os ydych chi’n defnyddio tiwb bwydo i’ch stumog, neu linell fwydo i’ch gwythiennau

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) trwy esbonio’ch sefyllfa yn y bocs.

Esboniwch pa broblemau rydych chi’n eu cael wrth fwyta ac yfed, er enghraifft:

  • os oes angen i rywun eich atgoffa chi neu eich annog chi i fwyta neu yfed

  • os yw’n achosi poen i chi fwyta neu yfed, neu’n gwneud i chi deimlo’n fyr o wynt

  • os yw’n cymryd llawer o amser i chi fwyta neu yfed oherwydd ei fod yn anodd yn gorfforol i chi, neu os ydych chi’n anghofio beth rydych chi’n ei wneud

  • os oes rhywun yn eich helpu chi i fwyta neu yfed yn gorfforol, a sut maen nhw’n eich helpu chi

  • os yw’ch cyflwr yn golygu eich bod chi’n anghofio bwyta neu os ydych chi ddim eisiau bwyta, sut mae hyn yn effeithio arnoch chi

Enghraifft

Meddai Siwan: “Mae anorecsia yn effeithio arna i – dwi ddim yn bwyta oni bai bod rhywun arall gyda fi. Mae fy nghymhelliant a’m gallu i ganolbwyntio mor wael nes fy mod i’n anghofio am fwyta am ddyddiau ar y tro’n aml. Dwi’n teimlo’n sâl os ydw i’n meddwl am fwyta - mae’n codi cyfog arna i. Dwi’n bwyta ychydig bach os oes rhywun dwi’n ei adnabod gyda fi, oherwydd dwi’n gwybod bod pobl yn poeni am sut mae’n effeithio ar fy iechyd i.”

Camau nesaf

Asesiad wyneb yn wyneb

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.