C3 - Ymestyn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 9 y ffurflen –

Mae’r cwestiwn hwn ar waelod tudalen 9 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Sut mae ateb y cwestiwn

Mae’r cwestiwn ynglŷn ag a allwch chi ymestyn i fyny gyda’r naill fraich neu’r llall, yn uwch na’ch gwasg. Dyw ddim yn golygu estyn i lawr neu i’r ochr.

Meddyliwch a yw’n anodd i chi:

  • olchi neu frwsio eich gwallt

  • gwisgo eich hanner uchaf

  • rhoi’r golch ar y lein

  • nôl rhywbeth o gwpwrdd uchel

Peidiwch â theimlo cywilydd am eich atebion – os ydych chi’n cael trafferth codi braich, mae’n bwysig bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod hyn.

“Allwch chi godi o leiaf un fraich yn ddigon uchel i roi rhywbeth ym mhoced uchaf eich cot neu siaced tra’ch bod yn ei gwisgo?”

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Wrth benderfynu sut mae ateb gallai’ch helpu i feddwl:

  • pa mor anodd ydych chi’n ei chael hi i gyrraedd poced

  • a allech chi wneud hynny fwy nag unwaith, a beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio gwneud hynny dro ar ôl tro

  • a fyddai cyrraedd poced yn achosi poen i chi, pa mor wael yw’r boen a sut byddai’n effeithio arnoch chi

"Allwch chi godi un fraich yn uwch na’ch pen?"

  • Na

  • Gallaf

  • Mae’n amrywio

Wrth benderfynu sut mae ateb gallai’ch helpu i feddwl:

  • pa mor anodd yw hynny i chi

  • a fyddai’n achosi poen, pa mor ddrwg yw’r boen a sut byddai’n effeithio arnoch chi

  • a allech chi ei wneud fwy nag unwaith, a beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n ceisio ei wneud dro ar ôl tro

Beth i ysgrifennu yn y bocs

Mae’n bwysig dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro’ch sefyllfa yn y bocs.

Defnyddiwch y bocs gwag i egluro beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ceisio codi’ch breichiau. Er enghraifft:

  • os ydych chi wastad yn cael trafferth, neu os yw’r ffordd mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi yn newid – er enghraifft 4 allan o 7 diwrnod

  • sut mae’n teimlo pan rydych chi’n ceisio codi un o’ch breichiau

  • os yw’n achosi poen i chi, pa mor ddifrifol yw’r boen a sut mae’n effeithio arnoch chi

  • os ydych chi angen cymorth gan rywun arall ar gyfer pethau penodol – fel golchi eich gwallt

  • pa mor aml ydych chi angen cymorth, a gyda beth rydych chi angen cymorth

  • os ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau drwg, a’r gwahaniaeth rhyngddynt

  • beth sy’n digwydd os ydych chi’n ceisio estyn ar ddiwrnod gwael

Enghraifft

Meddai Stephen: “Dydw i ddim yn gallu symud llawer ar fy ysgwyddau ac rydw i'n methu estyn i gael pethau allan o’r cwpwrdd. Mae fy ngŵr yn gadael brechdan i mi ar blât ar y cownter i mi ei chael i ginio. Mae hefyd yn gorfod glanhau fy nannedd i mi bob dydd. Mae’n rhy boenus i mi wneud hynny fy hun. Rydw i wedi torri fy ngwallt yn fyr fel ei bod hi’n haws i fy ngŵr ei frwsio.”

Camau nesaf

Cwestiwn 4: Codi a symud pethau

Yn ôl i Cymorth i lenwi’ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.