Tystiolaeth feddygol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch anfon tystiolaeth feddygol o’ch salwch neu anabledd gyda’ch ffurflen ESA50. Gall tystiolaeth feddygol roi gwell syniad i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. Mae’n hawdd methu hyn ar y ffurflen ei hun.

Os ydych chi’n cynnwys tystiolaeth feddygol, styffylwch y dystiolaeth i’r ffurflen. Gofalwch eich bod yn cynnwys eich enw a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar bob taflen o bapur ar wahân.

Mae’r dystiolaeth feddygol ar dudalen 5 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych

Os yw’ch cyflwr yn cael ei ddiagnosio, mae’n debyg y bydd gennych chi dystiolaeth yn barod. Gallwch gael mwy os oes angen, er enghraifft llythyr gan eich meddyg ymgynghorol yn egluro sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi (beth allwch chi ei wneud neu beth na allwch chi ei wneud oherwydd y cyflwr).

Os nad yw’ch cyflwr wedi’i ddiagnosio, bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd i ddangos sut mae’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am dystiolaeth feddygol. Ni fydd rhai mathau o dystiolaeth yn berthnasol felly ni fydd yn helpu’ch cais o bosibl. Gofynnwch am gymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol - byddant yn eich helpu i benderfynu pa dystiolaeth i’w chynnwys gyda’ch ffurflen gais ESA50.

Os yw’ch cyflwr wedi ei ddiagnosio

Dylech anfon tystiolaeth os yw’n cefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud ar y ffurflen. Efallai bod gennych chi hyn eisoes wrth law – er enghraifft:

  • allbrint o’r feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd

  • canlyniadau pelydr-x

  • sganiau

  • taflen gadael yr ysbyty

  • cynllun gofal therapydd galwedigaethol

Os oes gennych chi broblemau gyda’ch iechyd meddwl (fel iselder), dylech feddwl am unrhyw ddogfennau neu lythyron sydd gennych chi gan bobl fel:

  • eich nyrs seiciatryddol gymunedol

  • eich therapydd galwedigaethol – er enghraifft, cynllun gofal

  • cynghorwyr

  • therapydd gwybyddol

  • gweithwyr cymdeithasol

Gallai fod yn syniad cael tystiolaeth feddygol newydd, er enghraifft:

  • os oes gennych chi salwch neu anabledd newydd

  • os yw’ch salwch neu anabledd wedi gwaethygu yn ddiweddar a does gennych chi ddim i brofi hynny

  • os ydych chi wedi cael triniaeth neu lawdriniaeth a’ch bod yn cael sgil-effeithiau

  • os newidiwyd eich meddyginiaeth yn ddiweddar

  • os ydych wedi’ch cyfeirio’n ddiweddar ar arbenigwr neu ymgynghorydd

Os nad yw’ch cyflwr wedi’i ddiagnosio

Mae’r ffurflen yn dweud “peidiwch â gofyn na thalu am wybodaeth newydd”, ond gallai fod yn syniad da cael tystiolaeth feddygol os nad yw’ch salwch neu anabledd wedi’i ddiagnosio.

Er enghraifft, efallai bod gennych chi symptomau na ellir eu hegluro fel problemau ystumog, blinder neu bendro – a gallai llythyr gan eich meddyg helpu i egluro’r sefyllfa a sut mae’n effeithio ar eich gallu i weithio.

Cael tystiolaeth feddygol newydd

Mae’n syniad da cysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth a chefnogaeth.

Dylai rhywun o’ch Cyngor ar Bopeth lleol allu:

  • dweud wrthych a fyddai’n syniad da cael tystiolaeth feddygol, er enghraifft llythyr meddyg

  • eich helpu i gael gafael ar y dystiolaeth – a gofalu bod y dystiolaeth yn iawn ar gyfer eich hawliad

  • edrych ar y dystiolaeth feddygol a phenderfynu a ddylid ei hanfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau - ni fydd rhai mathau o dystiolaeth feddygol yn berthnasol felly efallai na fydd yn helpu’ch hawliad.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn chwilio am bethau penodol mewn tystiolaeth feddygol, ac mae gan Cyngor ar Bopeth lawer o brofiad yn y maes hwn.

Mae rhai meddygon yn codi tâl am dystiolaeth feddygol. Eu dewis nhw yw faint y byddant yn ei godi, ond gall gostio tua £150 o bryd i’w gilydd (neu gallai fod yn nes at £10).

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth lleol cyn i chi dalu am dystiolaeth. Mae’n well na gofyn am dystiolaeth eich hun, oherwydd bydd cynghorwr yn gwybod yn union am beth ddylech chi ofyn – ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn acel gwerth eich arian.

Anfon tystiolaeth feddygol ar ôl i chi anfon eich ffurflen

Dyw hi byth yn rhy hwyr i anfon tystiolaeth feddygol - mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen ESA50 ei hun yn ôl o fewn 28 diwrnod, ond gallwch anfon tystiolaeth unrhyw bryd wedi hynny. Cofiwch ei hanfon at y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd lleol drwy ffonio 0800 288 8777 am ddim neu gallwch ddod o hyd i'r cyfeiriad ar eu gwefan.

Ysgrifennu llythyr eglurhaol

Mae’n bwysig ysgrifennu llythyr eglurhaol os ydych chi’n anfon tystiolaeth feddygol ar ôl i chi anfon eich ffurflen ESA50 yn ôl.

Dylech gynnwys:

  • eich enw

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • nodyn yn dweud bod y dystiolaeth yn cefnogi’ch hawliad ESA – cofiwch gynnwys dyddiad anfon eich ffurflen ESA50.

Camau nesaf

Eich cyflyrau

Yn ôl i Cymorth i lenwi'ch ffurflen ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020