Gwneud cais am Fathodyn Glas yng Nghymru

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n effeithio ar eich symudedd, gallwch wneud cais am Fathodyn Glas. 

Gallwch hefyd wneud cais am fathodyn os ydych chi'n gofalu am blentyn sy'n anabl neu â chyflwr iechyd sy'n effeithio ar ei allu i symud. 

Mae bathodynnau glas yn rhad ac am ddim yng Nghymru.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol, gallwch gael Bathodyn Glas yn awtomatig. Mae'r broses ymgeisio yn syml.

Os nad ydych chi'n gymwys yn awtomatig, mae'n werth dal ati i wneud cais, ond rhaid bod gennych broblemau difrifol iawn o ran symud eich coesau neu'ch breichiau. Bydd y cais yn fwy cymhleth, oherwydd bydd rhaid i chi ddisgrifio eich problemau symudedd yn llawer manylach.

Does dim angen i chi allu gyrru i wneud cais am Fathodyn Glas, oni bai eich bod chi'n gwneud cais oherwydd problemau gyda'ch breichiau. 

Dilynwch y cyngor ar y dudalen hon i adnewyddu eich bathodyn glas, hefyd. Chewch chi ddim defnyddio bathodyn sydd wedi dod i ben, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am un newydd cyn gynted â phosib. Gallwch holi'ch cyngor i weld pryd mae angen adnewyddu'ch cais.

Pwysig

Dim ond trwy'ch cyngor lleol neu GOV.UK mae modd cael Bathodyn Glas.

All neb arall ddarparu Bathodyn Glas dilys - os ydych chi'n credu bod rhywun wedi'ch twyllo, cofiwch riportio hyn.

Pwy sy'n gallu cael Bathodyn Glas 

Rydych chi'n gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig os ydych chi:

  • wedi'ch cofrestru'n ddall

  • gofalu am blentyn sy’n ddall a thros 2 oed

  • yn cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)

  • yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

  • yn derbyn cyfandaliad fel rhan o gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (tariffau 1 i 8), ac wedi'ch ardystio fel rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol

  • yn derbyn cyfandaliad fel rhan o gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog (tariff 6) ar gyfer anhwylder meddyliol parhaol

Os ydych chi'n cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Rydych chi'n gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig os ydych chi naill ai:

  • wedi cael sgôr o 8 pwynt neu fwy yn elfen 'symud o gwmpas' eich asesiad PIP

  • wedi cael sgôr o 12 yn elfen 'cynllunio a dilyn teithiau' eich asesiad PIP

Darllenwch eich llythyr penderfyniad PIP os nad ydych chi'n siŵr.

Os nad ydych chi'n gymwys yn awtomatig

Efallai y gallwch gael bathodyn yr un fath. Bydd rhaid i chi lenwi rhan ychwanegol o'r cais i ddangos pam mae angen un arnoch chi. 

Dylech wneud hyn:

  • os oes gennych broblemau parhaol wrth gerdded

  • os oes gennych broblemau difrifol o ran defnyddio eich breichiau

  • os ydych chi'n ymgeisio ar ran plentyn 2 oed a throsodd sydd â phroblemau cerdded, neu blentyn dan 3 sydd angen bod yn agos at gerbyd oherwydd cyflwr iechyd

  • os oes gennych salwch angheuol sy'n achosi problemau difrifol i chi wrth symud o gwmpas

Dylech hefyd lenwi'r adran hon os na allwch chi gynllunio neu ddilyn llwybr heb gymorth rhywun arall oherwydd bod gennych 'nam gwybyddol' difrifol. Rhywbeth sy'n ei gwneud hi'n anoddach i chi gofio pethau neu ddatrys problemau yw nam gwybyddol, fel anabledd dysgu neu ddementia.

Os ydych yn cael problemau dros dro wrth symud o gwmpas

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas 12 mis dros dro os ydych chi naill ai'n gwella o, neu'n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar eich symudedd. Dyma rai enghreifftiau:

  • ar ôl torri asgwrn coes yn ddifrifol e.e. defnyddio fframiau a phinnau am dros flwyddyn

  • clun neu ben-glin newydd

  • strôc neu anafiadau i'r pen

  • anafiadau asgwrn cefn

  • triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn eich cyfeirio at asesiad meddygol annibynnol i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i gael bathodyn dros dro.

Gwneud cais am Fathodyn Glas 

Gallwch wneud cais ar-lein am eich Bathodyn Glas yn GOV.UK. Mae rhai cynghorau hefyd yn caniatáu i chi lenwi ffurflen gais - cysylltwch â'ch cyngor lleol

Rhaid i chi wneud cais drwy'ch cyngor lleol - all eich meddyg ddim eich helpu i gael Bathodyn Glas. Efallai y bydd eich cyngor lleol yn trefnu apwyntiad i ymweld â chi hefyd - byddant yn rhoi gwybod i chi os bydd angen hyn. 

Llenwi'r cais os nad ydych chi'n gymwys yn awtomatig 

Os nad ydych chi'n gymwys yn awtomatig, bydd angen i chi lenwi rhan ychwanegol o'r ffurflen gais i egluro pam mae angen bathodyn arnoch chi. 

Mae'r cais yn fwy cymhleth os nad ydych chi'n gymwys yn awtomatig. Mae'n werth gofyn am help llaw cynghorydd o'ch swyddfa leol Cyngor ar Bopeth i lenwi'r ffurflen yn iawn.

Os ydych chi neu blentyn rydych chi'n gofalu amdano yn cael problemau wrth gerdded

Os ydych chi'n gwneud cais ar ran plentyn dros 2 oed sy'n cael trafferth cerdded, llenwch yr adran hon o'r cais.

Dylech ddisgrifio eich cyflwr mor fanwl â phosib. Rhaid i'r broblem o ran cerdded fod wedi'i hachosi gan anabledd difrifol a pharhaol.

Ceisiwch amcangyfrif pa mor bell allwch chi gerdded heb gymorth.Os nad ydych chi'n siŵr, meddyliwch faint o fysiau wedi parcio y gallech chi  gerdded heibio iddyn nhw cyn dechrau teimlo poen neu angen gorffwys. Mae un bws tua 11 metr o hyd - felly os gallwch chi gerdded heibio hanner bws yn unig, dim ond 5 metr allwch chi gerdded. Ysgrifennwch hyn ar eich ffurflen.

Os na allwch chi gyfri'r pellter, ysgrifennwch sawl cam y gallwch chi eu cymryd heb help yn lle hynny.

Dywedwch wrth eich cyngor faint o amser mae'n cymryd i chi gerdded y pellter hwn, a sut rydych chi'n cerdded - er enghraifft, os ydych chi'n gorfod llusgo'ch traed neu gymryd camau bach.

Disgrifiwch sut rydych chi'n teimlo wrth gerdded, er enghraifft, os yw'n achosi poen difrifol i chi neu'n eich gwneud yn fyr eich gwynt, fel bod rhaid i chi eistedd a gorffwys.

Os ydych chi'n cael problemau difrifol yn defnyddio eich breichiau

Mae'n eithaf anodd cael Bathodyn Glas oherwydd problemau gyda'ch breichiau.

Chewch chi ddim bathodyn oherwydd problemau gyda'ch breichiau os mai dim ond teithiwr ydych chi.

Rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol i chi:

  • mae gennych chi broblemau difrifol gyda'r ddwy fraich

  • esboniwch pam mae angen i chi yrru'n rheolaidd 

  • rydych chi'n cael problemau difrifol wrth ddefnyddio peiriannau talu ac arddangos

Disgrifiwch y problemau sydd gennych chi gyda'r ddwy fraich. Bydd angen i chi esbonio'n fanwl pam eich bod yn cael trafferth defnyddio peiriannau neu fesuryddion parcio.

Hefyd, bydd angen i chi egluro pam mae’n rhaid i chi yrru car yn rheolaidd, er enghraifft ar gyfer eich swydd neu fynd â'ch plant i'r ysgol.

Mae eich plentyn dan 3 oed ac mae angen iddo fod yn agos at gerbyd

Bydd angen esbonio bod angen i chi fod yn agos at gerbyd er mwyn naill ai:

  • cludo offer meddygol

  • cael triniaeth yn y cerbyd

  • mynd adref neu i'r ysbyty yn gyflym 

Os ydych chi'n cario offer swmpus oherwydd cyflwr eich plentyn, dylech ei restru. Er enghraifft, os oes angen awyryddion, peiriannau sugno, pympiau bwyd neu gyfarpar ocsigen ar eich plentyn. 

Dywedwch pa mor aml ydych chi angen y cyfarpar hwn - er enghraifft bob tro fyddwch chi'n mynd allan, neu bob hyn a hyn.

Os yw cyflwr eich plentyn yn golygu y gall fod angen mynd i'r ysbyty neu adref yn gyflym, ceisiwch ddisgrifio pam - a hynny mor fanwl â phosib. Er enghraifft, dylech egluro os oes ganddo epilepsi neu ddiabetes ansefydlog iawn.

Os oes gennych chi salwch angheuol

Fel arfer, bydd eich cyngor yn ymdrin â'ch cais yn gyflym.

Cysylltwch â'ch cyngor lleol a gofyn am gael llenwi ffurflen bapur - gan gofio dweud bod gennych chi salwch angheuol. Bydd angen i chi brofi eich bod yn gymwys, ond efallai y byddan nhw’n ymdrin â'ch cais yn gynt. Efallai y byddan nhw'n rhoi cyfarwyddiadau i chi er mwyn llenwi'r cais yn haws, e.e. efallai na fydd angen i chi ateb holl gwestiynau'r ffurflen. 

Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, cofiwch ysgrifennu'n glir bod gennych salwch angheuol pan ofynnir i chi ddisgrifio eich cyflwr meddygol. Ni fydd blwch i roi tic ynddo.

Pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch

Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod y canlynol gennych:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol neu rif cyfeirnod plentyn os ydych chi'n gwneud cais ar ran plentyn

  • rhif, dyddiad dirwyn i ben ac enw'ch cyngor lleol ar eich bathodyn glas cyfredol, os oes gennych chi un 

Bydd angen y canlynol arnoch chi hefyd:

  • eich llythyr penderfyniad gwreiddiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau - os ydych chi'n gymwys yn awtomatig i gael bathodyn

  • manylion eich cyflwr meddygol - os nad ydych yn gymwys yn awtomatig i gael bathodyn

  • prawf adnabod, er enghraifft tystysgrif geni neu briodas, pasbort neu drwydded yrru 

  • prawf o'ch cyfeiriad am y 12 mis diwethaf - er enghraifft bil treth gyngor, , trwydded yrru neu lythyr gan adran o'r llywodraeth 

  • ffotograff digidol diweddar o'r person y mae'r bathodyn ar ei gyfer - gall hyn fod o'ch dyfais eich hun neu o fwth lluniau neu siop

Anfonwch gopïau o'ch dogfennau yn hytrach na rhai gwreiddiol, rhag ofn i'ch cais fynd ar goll yn y post.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Gallai gymryd cryn amser i'ch cais gael ei brosesu. Dylech gysylltu â'ch Cyngor os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth o fewn 6-8 wythnos.

Efallai y gofynnir i chi wneud asesiad symudedd. Bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn edrych ar eich gallu i wneud pob math o weithgareddau symudedd. Byddan nhw'n dweud wrth eich cyngor os ydyn nhw'n credu bod eich cyflwr iechyd neu'ch anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i symud o gwmpas digon i chi fod angen bathodyn. 

Efallai y gofynnir i chi hefyd anfon gwybodaeth ychwanegol neu siarad ag aelod o'r Cyngor. 

Bydd eich cyngor yn ysgrifennu atoch i ddweud a oes angen hyn.

Os gwrthodir Bathodyn Glas i chi, gallwch ofyn i'ch Cyngor ailystyried ei benderfyniad.

Adnewyddu eich Bathodyn Glas

Bydd angen i chi adnewyddu eich bathodyn ar ôl 3 blynedd. Hefyd, bydd angen ailymgeisio am fathodyn os na fyddwch yn derbyn y budd-dal sy'n gysylltiedig â'ch bathodyn mwyach.

Rhaid i chi roi eich Bathodyn Glas yn ôl i'ch Cyngor os nad oes ei angen arnoch mwyach, er enghraifft os yw eich cyflwr yn gwella. Fel arall, gallech gael hyd at £1,000 o ddirwy.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.