Lwfans Gofalwr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Budd-dal ar gyfer pobl sy'n rhoi gofal rheolaidd a sylweddol i bobl anabl yw'r Lwfans Gofalwr. Mae'n fudd-dal trethadwy ac yn rhan o'ch incwm trethadwy.

Gwiriwch a allwch gael Lwfans Gofalwr

Fel arfer, gallwch gael Lwfans Gofalwr os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n 16 oed neu’n hŷn

  • dydych chi ddim mewn addysg llawn amser

  • rydych chi’n treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am berson anabL

  • dydych chi ddim yn ennill mwy na £151 yr wythnos o gyflogaeth neu hunangyflogaeth – ar ôl didyniadau fel treth incwm, Yswiriant Gwladol a hanner eich cyfraniadau pensiwn

Mae’n rhaid i’r person rydych yn gofalu amdano gael un o’r budd-daliadau canlynol, a elwir yn ‘fudd-daliadau cymwys’:

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gweini Cyson

  • elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uchaf

  • elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol (y naill gyfradd neu’r llall)

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Fel arfer, mae'n rhaid i chi fod ym Mhrydain pan fyddwch yn hawlio. Mae rhai eithriadau, er enghraifft, i aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Efallai y cewch chi Lwfans Gofalwr os ydych chi a'r person rydych chi'n gofalu amdano yn symud i'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, neu os ydych chi eisoes yn byw yn un o'r gwledydd hyn. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio budd-daliadau os ydych chi'n byw, yn symud neu'n teithio dramor ar gael yn GOV.UK.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i'r DU

Rhaid eich bod wedi byw ym Mhrydain am 2 o'r 3 blynedd diwethaf - gelwir hyn yn brawf ‘presenoldeb yn y gorffennol’. Cymru, Lloegr a'r Alban yw Prydain. Nid yw'n cynnwys Gogledd Iwerddon.

Does dim rhaid i chi fod wedi treulio’r cyfnod ym Mhrydain mewn un cyfnod.  Er enghraifft, gallech fod wedi byw yn Lloegr am flwyddyn, yr Unol Daleithiau am flwyddyn a Chymru am flwyddyn.

Os nad ydych wedi bod yn y DU yn ddigon hir, gwiriwch a oes ffordd arall o basio’r prawf presenoldeb yn y gorffennol neu a allwch gael Lwfans Gofalwr heb basio’r prawf. 

Os ydych chi'n cael pensiwn neu fudd-dal o'r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Gallai hyn effeithio ar eich cymhwystra i gael Lwfans Gofalwr. Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac mae'n well cael cyngor cyn gwneud cais. Gallwch gael cymorth gan eich swyddfa Cyngor ar Bopeth lleol.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU

Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Lwfans Gofalwr.

Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • statws cyn-sefydlog neu sefydlog o Gynllun Setliad yr UE

  • absenoldeb amhenodol – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa perthynas sy’n oedolyn dibynnol

  • statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol

  • hawl i breswylio

Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus. 

Os yw’r person rydych yn gofalu amdano yn cael budd-dal anabledd o’r UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein

Efallai y gallwch gael Lwfans Gofalwr. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’r budd y mae’r person rydych chi’n gofalu amdano yn ei gael o wlad arall. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol cyn i chi wneud cais.

Os nad ydych chi'n gymwys am Lwfans Gofalwr

Os ydych chi'n gofalu am unigolyn neu bobl am o leiaf 20 awr yr wythnos, efallai y gallwch gael Credydau Gofalwr. Mae'r credydau hyn yn llenwi'r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - sy'n penderfynu a allwch chi gael: 

  • Pensiwn y Wladwriaeth 

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau (JSA)

Rhagor o wybodaeth am Gredydau Gofalwr yn GOV.UK

Faint o Lwfans Gofalwr allwch chi ei gael

Telir Lwfans Gofalwr ar gyfradd safonol ar gyfer y person sy'n gwneud yr hawliad.

Gallwch weld faint yw cyfradd gyfredol Lwfans Gofalwr yn GOV.UK.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau eraill

Ni chewch unrhyw Lwfans Gofalwr neu lai os ydych chi'n derbyn rhai budd-daliadau eraill gan gynnwys:

  • pensiwn ymddeol y wladwriaeth

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau

  • Lwfans Mamolaeth

Os yw'ch Lwfans Gofalwr naill ai'r un fath neu'n llai na'r budd-dal arall, yna byddwch yn derbyn y budd-dal arall yn lle'r Lwfans Gofalwr.

Os yw'r budd arall yn llai na'ch Lwfans Gofalwr, byddwch yn cael y budd-dal arall a balans eich Lwfans Gofalwr ar ben hynny.

Mae'r rheolau'n ymwneud â hyn yn gymhleth - mynnwch gymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol i sicrhau eich bod yn cael yr hyn sy'n ddyledus i chi.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau sy'n seiliedig ar eich incwm

'Budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd' yw'r rhain. Mae Lwfans Gofalwr yn cyfrif fel incwm pan gaiff y budd-daliadau hyn eu cyfrifo.

Rydych chi'n cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol a elwir yn 'elfen gofalwr' os ydych chi'n gymwys i dderbyn Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad ydych chi'n gwneud cais am Lwfans Gofalwr.

Gallwch gael swm ychwanegol o'r enw 'Premiwm Gofalwr' neu 'Atodiad Gofalwr' gydag unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol os ydych chi'n cael Lwfans Gofalwr:

  • Credyd Pensiwn

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm

  • Cymhorthdal incwm

  • Budd-dal Tai

  • Cymorth y Dreth Gyngor

Hawlio Lwfans Gofalwr

Os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-dal gyda Phremiwm Anabledd Difrifol neu Atodiad.

Ni all y person rydych chi'n gofalu amdano gael y Premiwm neu'r Atodiad tra rydych chi'n cael Lwfans Gofalwr. Dylent gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau neu'r cyngor lleol i ddweud eich bod chi'n cael Lwfans Gofalwr.

Efallai y bydd y person rydych chi'n gofalu amdano yn cael Premiwm neu Atodiad Anabledd Difrifol gyda:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ar incwm

  • Cymhorthdal Incwm

  • Budd-dal Tai

  • Cymorth y Dreth Gyngor

  • Credyd Pensiwn

Cofiwch holi'r person rydych chi'n gofalu amdano cyn gwneud cais am Lwfans Gofalwr eich hun.

I wneud cais am Lwfans Gofalwr, gallwch wneud y canlynol:

Cewch chi ddim gwneud cais dros y ffôn.

Os ydych angen cymorth i wneud cais, cysylltwch â'r Uned Lwfans Gofalwr.

Uned Lwfans Gofalwr

Ffôn: 0800 731 0297

Ffôn testun: 0800 731 0317

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn yr hoffech ei ddweud: 18001 yna 0800 731 0297

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - dysgwch sut i ddefnyddio'r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-6pm

Main Handling Site A 

Wolverhampton 

WV98 2AB

Mae galwadau yn rhad ac am ddim o linellau tir a ffôn symudol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar GOV.UK.

Bydd rhaid i chi roi'ch rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth i ddangos mai chi biau'r rhif hwnnw. Os nad ydych chi'n gwybod eich Rhif Yswiriant Gwladol, ond yn meddwl bod gennych un, dylech ddarparu tystiolaeth er mwyn helpu'r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes gennych chi rif yswiriant gwladol, bydd rhaid i chi wneud cais am un.

Holwch a oes modd ôl-ddyddio eich Lwfans Gofalwr

Gallech ôl-ddyddio eich cais am hyd at dri mis os oeddech yn gymwys. Does dim angen rhoi rheswm pam rydych chi'n hawlio'n hwyr.

Os yw’r person rydych yn gofalu amdano wedi cael budd-dal cymhwyso yn ddiweddar, ceisiwch wneud cais am Lwfans Gofalwr o fewn 3 mis i’r dyfarniad. Mae hyn yn golygu y gellir ôl-ddyddio eich Lwfans Gofalwr i’r adeg y gwnaethant ddechrau eu cais am y budd-dal cymhwyso – hyd yn oed os oedd hynny fwy na 3 mis yn ôl.

Gofynnwch i'ch Lwfans Gofalwr gael ei ôl-ddyddio pan fyddwch yn gwneud cais – dylech ofyn am hyn ar y ffurflen gais lle mae'n gofyn  ‘Pryd rydych chi am i’ch Lwfans Gofalwr ddechrau?’

Newid mewn amgylchiadau

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am newid a allai effeithio ar eich Lwfans Gofalwr. Er enghraifft, dywedwch wrthyn nhw os:

  • rydych yn rhoi’r gorau i ofalu am y person anabl – mae hyn yn cynnwys os yw plentyn yr oeddech yn gofalu amdano yn rhoi’r gorau i fyw gyda chi

  • rydych chi'n dechrau ennill mwy o arian

Ni fyddwch yn arbed arian trwy roi gwybod amdano'n ddiweddarach. Os byddwch yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn hwyr gallech gael gormod o dâl a bydd yn rhaid i chi dalu’ch budd-daliadau yn ôl i’r DWP. Gelwir hyn yn ordaliad - gwiriwch sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn delio â gordaliadau.

Os yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn mynd i gartref gofal neu ysbyty

Bydd budd-daliadau anabledd fel arfer yn dod i ben ar ôl i rywun fod mewn cartref gofal neu ysbyty am 28 diwrnod. Os byddant yn mynd i gartref gofal neu ysbyty fwy nag unwaith mewn 28 diwrnod, bydd y cyfnodau rhwng pob ymweliad yn cael eu hadio gyda’i gilydd.

Os yw budd-daliadau anabledd y person rydych chi'n gofalu amdano yn dod i ben, cewch chi ddim parhau i gael Lwfans Gofalwr - dylech gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod iddo fod budd-daliadau anabledd y person wedi dod i ben

Cosbau sifil am achosi gordaliad

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb sifil os byddwch yn gwneud rhywbeth diofal sy'n achosi gordaliad. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu'n cadw'n dawel am rywbeth, ac felly'n cael mwy o Lwfans Gofalwyr na'r hyn sy’n ddyledus i chi. Dim ond os nad ydych wedi cyflawni twyll y gellir gofyn i chi dalu'r gosb hon. Os ydych chi wedi cyflawni twyll, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i bennu cosb sifil.

Twyll

Gallai fod yn dwyll budd-daliadau os effeithir ar eich Lwfans Gofalwr oherwydd:

  • rydych wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol neu anghywir i'r Adran Gwaith a Phensiynau

  • na wnaethoch ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod eich amgylchiadau wedi newid – er enghraifft, eich bod wedi rhoi'r gorau i ofalu am unigolyn anabl am 35 awr yr wythnos

Gellir gwirio eich amgylchiadau unrhyw bryd tra byddwch yn hawlio a gall swyddogion twyll hefyd gael gwybodaeth amdanoch chi gan asiantaethau eraill y Llywodraeth a gan eich cyflogwr, eich banc neu'ch cwmnïau cyfleustodau. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd, a gallech gael eich erlyn neu orfod talu dirwy. Os ydych chi'n destun ymchwiliad i dwyll budd-daliadau, bydd eich budd-dal yn cael ei atal. Os ydych wedi cyflawni twyll budd-daliadau, gallai'ch budd-daliadau gael eu lleihau neu eu stopio'n llwyr yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud os gofynnir i chi ddod i gyfweliad dan rybuddiad,darllenwch Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Sut bydd Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu

Fel arfer, caiff Lwfans Gofalwr ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu cerdyn swyddfa'r post. Os na allwch agor neu reoli cyfrif, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich talu drwy'r Payment Exception Service – mae rhagor o fanylion am hyn ar GOV.UK.

Byddwch yn parhau i gael Lwfans Gofalwr cyhyd â’ch bod yn dal yn gymwys.

Problemau gyda Lwfans Gofalwr

Os gwrthodir Lwfans Gofalwr i chi neu os credwch eich bod yn cael y swm anghywir o fudd-dal, gallwch herio'r penderfyniad. Dylech wneud hyn o fewn un mis i'r penderfyniad.

Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau leol neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, gallwch gwyno. Efallai'ch bod yn anfodlon oherwydd camgymeriadau, oedi, staff anghwrtais neu anhawster wrth gysylltu. Gallwch wneud hyn os ydych am herio penderfyniad hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am herio penderfyniadau ar fudd-daliadau a sut i gwyno, ewch i Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Cymorth arall i ofalwyr

Gallwch ffonio llinell gymorth Carers UK ar 08008087777 i gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 9am ac 8pm dydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r llinell gymorth ar gau ar wyliau banc.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 02 Rhagfyr 2020