Grŵp cymorth a grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ESA

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n gymwys i gael ESA (Lwfans Cyflogaeth a Chymorth) byddwch yn cael eich rhoi yn y naill neu'r llall o’r canlynol:

  • y grŵp cymorth

  • y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith

Fe gewch lythyr penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych pa grŵp rydych chi ynddo. Bydd y DWP yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi ar eich ffurflen ESA50 a chanlyniadau'r asesiad meddygol.

Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp anghywir

Gallwch ofyn i’r DWP ailystyried eu penderfyniad. ‘Ailystyriaeth orfodol’ yw hyn.

Y grŵp cymorth

Os ydych chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp cymorth, mae'n golygu bod y DWP wedi penderfynu nad ydych chi’n gallu gweithio ac nad yw'n disgwyl i chi wneud unrhyw beth i wella'ch siawns o ddod o hyd i waith

Fodd bynnag, os ydych chi yn y grŵp hwn a’ch bod yn penderfynu eich bod am gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â gwaith beth bynnag, gallwch wneud hynny. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar eich llythyr penderfyniad i adael i'r DWP wybod eich bod am wneud hyn. Byddant yn rhoi gwybod i chi a oes unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith addas yn digwydd yn eich ardal chi y gallech gymryd rhan ynddo.

Y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith

Os ydych chi wedi cael eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, mae'n golygu bod y DWP wedi penderfynu bod eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio ar hyn o bryd, ond bod yna bethau y gallwch eu gwneud i wella hyn.

Does dim disgwyl i chi chwilio am waith, ond gallwch gael cais i fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith ac yna gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Mae'r gweithgareddau hyn yn bethau a fydd yn gwella'ch siawns o weithio yn y dyfodol ym marn y DWP.

Ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith neu wneud unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith os:

  • ydych chi’n rhiant sengl â phlentyn o dan flwydd oed

  • ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn

Gallwch weld a ydych chi wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar GOV.UK.

Cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith

Os ydych chi’n cael eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, byddwch yn cael cais i fynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith. Cyfweliad gyda chynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith fydd hwn.

Yn y cyfweliad, bydd eich cynghorydd personol yn ceisio deall yn well eich sefyllfa a'ch galluoedd a'ch cyfyngiadau. Byddant yn edrych ar yr hyn y gallwch chi ei wneud eisoes, yr hyn y gallech chi ei wneud yn y dyfodol a pha help fyddai ei angen arnoch i chi allu mynd i'r gwaith.

I wneud hyn, byddan nhw am siarad â chi am:

  • eich hanes gwaith a'ch cymwysterau

  • y camau y gallech eu cymryd a allai’ch helpu chi i weithio yn y pen draw

  • unrhyw gymorth ymarferol a fydd ar gael i chi

Pan fyddwch yn cael ESA yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i fwy o gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith fel hyn.

Gweithgareddau cysylltiedig â gwaith

Os ydych chi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, mae disgwyl i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â gwaith oni bai:

  • eich bod yn ofalwr sy’n cael Lwfans Gofalwr neu bremiwm gofalwr fel rhan o'ch hawliad ESA

  • eich bod yn rhiant sengl gyda phlentyn o dan 3 oed - os ydych chi'n rhiant sengl gyda phlentyn rhwng 3 a 13, bydd yn rhaid i chi wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, ond dim ond yn ystod oriau ysgol arferol

  • eich bod wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn

Pwysig

Rhybudd: Gall eich ESA gael ei leihau dros dro (a elwir yn sancsiwn) os byddwch yn colli cyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith neu weithgaredd cysylltiedig â gwaith y cytunwyd arno.

Os bydd angen i chi golli cyfweliad neu weithgaredd am reswm da (er enghraifft, rydych chi'n sâl iawn neu yn yr ysbyty) dywedwch wrth eich cynghorydd cyn gynted â phosib.

Mae'r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y bydd gofyn i chi eu gwneud yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi. Gallent fod yn rhywbeth fel:

  • sgiliau sylfaenol ar gyfer mathemateg neu ysgrifennu

  • sesiynau magu hyder

  • dysgu sut i baratoi CV

  • ffyrdd newydd o reoli'ch cyflwr neu anabledd

Mae’r holl weithgareddau yn bethau a fydd yn eich helpu i gael gwaith yn y pen draw ym marn y DWP.

Ydy’r gweithgaredd yn briodol i rywun sydd â’ch anabledd neu’ch cyflwr iechyd chi?

Os oes gennych anabledd corfforol, salwch neu broblem iechyd meddwl hirdymor, dylid addasu'r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith y mae disgwyl i chi eu gwneud er mwyn ystyried hyn - 'addasiadau rhesymol' yw’r enw ar hyn.

Dylai’ch cynghorydd personol siarad â chi am yr hyn sy’n bosib ar gyfer eich amgylchiadau, ee os ydych chi'n ddefnyddiwr cadair olwyn efallai mai dim ond lleoliadau hyfforddi â mynediad i gadeiriau olwyn y byddwch chi’n gallu mynd iddynt. Dylai hyn wneud eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith yn fwy hwylus i chi.

Os na fyddwch chi’n teimlo bod hyn yn digwydd, neu os oes pwysau arnoch i gytuno i wneud gweithgareddau y tu hwnt i’ch gallu, gallai hyn fod yn wahaniaethu. Gallwch wneud cwyn. Gallwch fynd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael cymorth gyda hyn.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.