Sut i hawlio PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae hawlio’r budd-dal Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn gallu cymryd amser hir. Yn aml mae’n gallu cymryd hyd at 4 mis o ddechrau’r cais i gael eich arian (os oes gennych chi salwch angheuol bydd eich hawliad yn cael ei brosesu’n gyflymach).

Os ydych chi’n symud o Lwfans Byw i'r Anabl i PIP fydd eich taliadau ddim yn stopio wrth i chi aros i’ch cais am PIP gael ei brosesu, cyn belled â’ch bod yn gwneud eich cais am PIP o fewn 28 diwrnod o gael gwybod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bod angen i chi wneud hynny. Bydd eich taliadau PIP yn dechrau y diwrnod wedi i’ch taliad Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ddod i ben.

Os nad ydych chi’n cael DLA, bydd eich taliad PIP cyntaf yn dechrau o’r diwrnod rydych chi’n cyflwyno’ch cais. Bydd yn cael ei dalu am yr amser mae’n cymryd i’r Adran Gwaith a Phensiynau ddod i benderfyniad. Ni all PIP gael ei ôl-ddyddio, felly chewch chi ddim arian ar gyfer y cyfnod cyn i chi wneud eich cais.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi paratoi a bod gennych chi’r holl wybodaeth berthnasol i’ch helpu i wneud eich cais.

Y broses hawlio

Mae 3 cham yn y broses hawlio:

  1. Dechrau’ch cais drwy ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau

  2. Llenwi’r ffurflen hawlio maen nhw’n ei hanfon atoch

  3. Mynd i asesiad wyneb yn wyneb – mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl wneud hyn (ond does dim rhaid gwneud os oes gennych chi salwch angheuol)

Gall gymryd hyd at 2 wythnos i’r Adran Gwaith a Phensiynau anfon ffurflen hawlio PIP atoch. Tra’ch bod chi’n aros, mae’n syniad da meddwl am sut byddwch chi'n llenwi'r ffurflen hawlio ac a oes angen unrhyw dystiolaeth ategol arnoch.

Dychwelyd eich ffurflen hawlio PIP ar amser

Os na fyddwch chi’n anfon eich ffurflen yn ôl o fewn 1 mis, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dod â’ch hawliad i ben a bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Os na allwch chi ddychwelyd y ffurflen ar amser, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau os gallwch chi ei hanfon yn hwyrach.

Os ydych chi’n aros am amser hir am benderfyniad ar eich hawliad, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gallwch gwyno i’r Adran Gwaith a Phensiynau os oes oedi afresymol. Gallech hawlio iawndal os yw’r oedi’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, nid oes rheolau penodol am yr hyn sy’n afresymol neu’n anghyfreithlon.

Dechrau’ch hawliad – llenwi ffurflen PIP1

Gallwch ddechrau’ch cais am PIP drwy lenwi ffurflen PIP1. Gallwch wneud hyn naill ai:

  • dros y ffôn – bydd cynghorydd o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn llenwi’r ffurflen hawlio sylfaenol yn ystod yr alwad. Ddylai hyn ddim cymryd mwy na 20 munud

  • drwy’r post – llenwi ffurflen bapur y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei hanfon atoch, a’i phostio yn ôl

Ni allwch lenwi’r ffurflen PIP1 ar-lein.

Werth gwybod

Mae’n well dechrau’r broses hawlio dros y ffôn oherwydd mae’n gynt a bydd eich taliadau PIP yn dechrau pan fyddwch chi’n gwneud eich cais fel rheol – naill ai’r dyddiad rydych chi’n ffonio neu’r dyddiad mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cael eich ffurflen PIP1.

Dim ond gan yr Adran Gwaith a Phensiynau y gallwch chi gael ffurflenni hawlio PIP – dydyn nhw ddim ar gael ar-lein na gan Cyngor ar Bopeth.

Gwybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i ddechrau hawlio

Byddwch angen y wybodaeth hon pan fyddwch yn ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

  • manylion cyswllt eich meddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n eich gweld

  • dyddiadau a manylion unrhyw gyfnodau yn yr ysbyty neu ofal preswyl

  • eich cenedligrwydd neu statws mewnfudo

  • os ydych chi wedi bod dramor am fwy na 4 wythnos ar y tro yn y 3 blynedd diwethaf (bydd angen y dyddiadau a’r manylion)

Byddwch yn cael eich holi a oes gennych chi unrhyw gyflyrau iechyd meddwl, anhawster dysgu neu gyflwr ymddygiad. Diben y cwestiynau hyn yw gweld a ydych chi angen unrhyw help neu gymorth gyda’ch hawliad.

Rydw i eisiau neud cais dros y ffôn

Llinell hawlio PIP

Ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylai’r alwad gymryd tua 20 munud. Os byddai’n well gennych chi i rywun arall alw ar eich rhan, mae hynny’n iawn, ond mae angen i chi fod gyda nhw fel y gallwch chi roi caniatâd iddyn nhw siarad ar eich rhan.

Rydw i eisiau gwneud cais drwy’r post

Mae gwneud cais dros y ffôn yn gynt, ond os nad yw hynny’n bosib, gallwch ysgrifennu i’r Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn am ffurflen PIP1.

Bydd angen i chi ddweud pam na allwch chi (neu rywun arall) gwblhau’r ffurflen PIP1 dros y ffôn.

Personal Independence Payment New Claims 

Post Handling Site B 

Wolverhampton 

WV99 1AH

Rydw i eisiau gwneud cais gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Byddwch yn cael eich cysylltu â dehonglwr drwy gyswllt fideo, a bydd y dehonglwr yn cyfleu’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrth gynghorydd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn rhaid i chi:

yn gyntaf gwirio a allwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

mynd i’r gwasanaeth cyfnewid fideo

Ar agor Llun i Gwener, 8am tan 6pm

Camau nesaf

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu a ydych chi’n bodloni’r amodau cymhwyster sylfaenol.

Os ydych chi, byddant yn anfon ffurflen hawlio PIP atoch. Byddwch yn dweud wrthynt ar y ffurflen sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch. Os ydych chi wedi aros am fwy na 2 wythnos, cysylltwch â’r llinell hawlio PIP a gofyn iddyn nhw beth yw hynt a helynt eich cais.

Tra’ch bod chi’n aros, dylech feddwl am sut mae llenwi'r ffurflen hawlio PIP ac a oes angen i chi drefnu unrhyw dystiolaeth ategol i gefnogi’ch cais.

Os nad ydych chi’n bodloni’r amodau cymhwystra sylfaenol, byddwch yn cael llythyr penderfyniad yn dweud pam i’ch cais gael ei wrthod. Os ydych chi o’r farn bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 03 Mawrth 2022