Herio penderfyniad PIP – y gwrandawiad tribiwnlys

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi gofyn am wrandawiad personol, byddwch chi’n cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o’r dyddiad. Mae’n debygol y bydd yn cael ei gynnal mewn adeilad llys, canolfan gwrandawiad neu swyddfa canolfan gyfreithiol. Bydd unrhyw lythyrau y byddwch chi’n eu cael yn ei alw’n ganolfan tribiwnlys.

Werth gwybod

Mae’n beth cyffredin teimlo’n bryderus neu’n nerfus cyn y gwrandawiad apêl, ond ni fydd unrhyw un yn ceisio’ch dal chi allan – dyma’ch cyfle chi i esbonio sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi a dangos iddyn nhw pam y dylech chi gael PIP.

Gallwch chi argraffu ein taflen helpu apêl PIP 106 KB  i’ch helpu chi i gofio popeth rydych chi ei angen ar y dydd.

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad

Cyn y gwrandawiad, dylech:

  • ffonio ar unwaith os ydych chi eisiau newid y dyddiad – dylai fod gennych chi reswm da (e.e. apwyntiad ysbyty)

  • darllen trwy’r holl wybodaeth mae’r gwasanaeth tribiwnlys wedi’i hanfon atoch chi fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl

  • anfon unrhyw wybodaeth newydd i’r tribiwnlys – ceisiwch beidio â chyflwyno llawer o dystiolaeth newydd ar y dydd

  • trefnu i aelod o’r teulu neu ffrind fynd gyda chi i roi cefnogaeth foesol, os ydych chi’n teimlo y byddai hynny’n helpu

  • gwneud yn siŵr bod gan y lleoliad bopeth rydych chi ei angen e.e. os ydych chi wedi gofyn am ddehonglydd iaith arwyddion, gofalwch y bydd un yno

  • edrych pa dreuliau y gallwch chi eu hawlio a sut i’w hawlio – bydd y gwasanaeth tribiwnlys yn rhoi’r wybodaeth hon i chi

Pethau y dylech chi fynd â nhw gyda chi

Casglwch y pethau rydych chi angen mynd â nhw gyda chi, gan gynnwys:

  • y papurau apêl a anfonwyd atoch chi, a gofalwch eich bod chi wedi’u darllen nhw

  • unrhyw dystiolaeth newydd (rhaid i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon pan fyddwch chi’n cyrraedd y ganolfan tribiwnlys)

  • nodiadau o’r holl bethau rydych chi eisiau eu dweud – gallwch chi gyfeirio at y rhain yn ystod y gwrandawiad

  • derbynebau am unrhyw dreuliau rydych chi angen eu hawlio’n ôl y mae’r gwasanaeth tribiwnlys wedi’u cymeradwyo yn barod e.e. teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cost tacsi os na allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, costau gofal plant ac ati.

Beth i’w ddisgwyl yn y gwrandawiad

Mae’r gwrandawiad tribiwnlys apêl yn anffurfiol – fyddwch chi ddim mewn llys yn llawn pobl. Bydd panel y gwrandawiad yn cynnwys barnwr cymwys a hyd at 2 berson annibynnol arall, gan gynnwys meddyg. Dyma’r bwrdd tribiwnlys. Efallai y bydd rhywun o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bresennol hefyd, ond dim ond i gyflwyno eu hachos – fyddan nhw ddim yn rhan o’r penderfyniad terfynol.

Dyma beth y gallwch chi ei ddisgwyl yn y gwrandawiad:

  • bydd y barnwr yn cyflwyno’r tribiwnlys ac yn esbonio beth yw ei bwrpas – efallai y bydd yn eich galw chi ‘yr apelydd’ a’r Adran Gwaith a Phensiynau ‘yr ymatebydd’

  • byddan nhw’n gofyn cwestiynau i chi am eich rhesymau dros apelio ac yn gofyn i chi ddisgrifio pethau fel beth rydych chi’n ei wneud ar ddiwrnod arferol

  • os oes rhywun o’r Adran Gwaith a Phensiynau yno, bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau iddyn nhw hefyd

  • os bydd rhywun yn mynd gyda chi, efallai y gofynnir iddyn nhw a ydyn nhw eisiau dweud unrhyw beth

  • ar ôl i bawb gael cyfle i siarad, gofynnir i chi a oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud – felly, os oes unrhyw beth rydych chi eisiau ei ychwanegu neu ei egluro, gallwch chi wneud hynny nawr

  • gofynnir i chi adael yr ystafell tra bod penderfyniad yn cael ei wneud

  • byddwch chi’n cael eich galw’n ôl i mewn i’r ystafell i glywed y penderfyniad, ond weithiau efallai y bydd rhaid i chi aros 3 i 5 diwrnod i gael llythyr penderfyniad drwy’r post 

Ar y diwrnod:

  • cyrhaeddwch mewn da bryd – os byddwch chi’n hwyr, efallai y bydd y gwrandawiad yn cychwyn hebddoch chi

  • peidiwch â gwneud ymdrech arbennig i edrych yn smart – mae’n bwysig bod y panel yn eich gweld chi fel yr ydych chi ar ddiwrnod arferol

  • os gwnaethoch chi ofyn am help gyda chyfathrebu, cyfieithu neu fynediad ac nad yw’r help hwnnw ar gael wrth i chi gyrraedd, gallwch fynnu cael y gwrandawiad apêl wedi’i gynnal ar ddiwrnod arall 

Pan mae rhywun yn gofyn cwestiynau i chi

Ceisiwch beidio â theimlo’n rhy bryderus ynglŷn â gorfod ateb cwestiynau. Ni fydd y bwrdd yn anghyfeillgar tuag atoch chi – maen nhw eisiau clywed mwy am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi fel y gallan nhw wneud y penderfyniad iawn.

Peidiwch â bod yn swil wrth siarad am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi – mae’n bwysig iawn bod y panel yn cael darlun go iawn o’ch bywyd bob dydd.

Gair i gall:

  • gofynnwch i’r barnwr neu’r meddyg ailadrodd unrhyw gwestiynau dydych chi ddim yn eu deall

  • dywedwch wrthyn nhw os oes rhywun wedi’ch helpu chi ar y dydd e.e. eich helpu chi i wisgo, eich gyrru chi i’r gwrandawiad neu ddarllen arwyddion ar eich rhan

  • cywirwch unrhyw beth sydd ddim yn iawn e.e. os bydd y barnwr yn dweud ‘dydych chi ddim yn cael unrhyw drafferth cerdded 50 metr, ydych chi?’, dywedwch yn glir os yw’n anghywir

  • defnyddiwch eich geiriau eich hun a pheidiwch â theimlo bod rhaid i chi ddefnyddio iaith feddygol

  • byddwch yn barod i ateb cwestiynau am bob agwedd ar sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, nid dim ond y rhesymau pam rydych chi’n apelio

  • gofalwch eich bod chi wedi dweud popeth rydych chi eisiau ei ddweud – peidiwch â bod ofn torri ar draws os ydych chi’n teimlo bod gennych chi rywbeth arall pwysig i’w ddweud

Os byddwch chi’n ennill eich apêl

Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael hysbysiad swyddogol drwy’r post o fewn wythnos neu ddwy. Byddwch chi’n derbyn eich swm newydd o arian bob 4 wythnos.

Yn ogystal, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gorfod talu popeth y dylen nhw fod wedi bod yn eich talu chi o ddyddiad eich hawliad. Fel arfer, mae’n cymryd 4 i 6 wythnos i’r arian hwn ddod trwyddo.

Os byddwch chi’n colli’ch apêl

Bydd canllaw’n cael ei anfon atoch chi gyda hysbysiad swyddogol sy’n esbonio eich opsiynau. Weithiau, mae modd apelio i lefel uwch o dribiwnlys o’r enw Uwch Dribiwnlys os ydych chi’n credu bod eich tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn ôl y gyfraith, ond allwch chi ddim ag apelio os ydych chi ond yn anghytuno â’r canlyniad.

Os ydych chi’n ystyried herio’r penderfyniad, dylech chi gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yng Nghymru a Lloegr neu yn yr Alban i weld a oes gennych chi sail dros apelio eto.

Gallwch chi ailymgeisio am PIP a chychwyn y broses eto ond, oni bai bod rhywbeth wedi newid, rydych chi’n annhebygol o gael penderfyniad gwahanol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.