Newid eich ymrwymiad hawliwr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n cael anhawster cwblhau’r holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith yn eich ymrwymiad hawliwr, efallai y gallwch eu newid.

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol a dywedwch yr hoffech chi gael apwyntiad gyda’ch hyfforddwr gwaith gan eich bod angen newid eich ymrwymiad hawliwr. Eglurwch pam a dywedwch wrthynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.

Os oes gennych chi gyfnodolyn ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol, dylech hefyd ychwanegu nodyn ato, yn dweud wrth eich hyfforddwr gwaith eich bod angen newid eich ymrwymiad hawliwr.

Mae’n bwysig gweithredu ar unwaith a dal ati i geisio cyflawni eich ymrwymiad hawliwr presennol wrth i chi aros am newidiadau. Gellid torri eich Credyd Cynhwysol (sef ‘cosb’) os nad ydych chi’n cyflawni’ch holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Siarad â’ch hyfforddwr gwaith

Byddwch yn onest â’ch hyfforddwr gwaith ynghylch pa weithgareddau cysylltiedig â gwaith sy’n realistig i chi. Dylent bob amser ystyried eich ceisiadau.

Eglurwch pam na allwch gwblhau eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith – gan gynnwys unrhyw beth am eich sefyllfa sydd wedi newid. Mewn rhai sefyllfaoedd byddwch yn cael llai o weithgareddau cysylltiedig â gwaith, neu ddim o gwbl, yn awtomatig.

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd y mae’ch hyfforddwr gwaith yn ymateb i’ch cais, gallwch gwyno drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Rydych chi wedi profi neu wedi’ch bygwth â thrais neu gam-drin domestig

Pwysig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n orbryderus neu dan fygythiad

Dylech chi gael cymorth - gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw Men's Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0808 801 0327 (9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 6 mis os ydych chi wedi profi trais neu gam-drin domestig. Os byddai’n well gennych beidio â siarad â’ch hyfforddwr gwaith am hyn gallwch ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw weithgareddau cysylltiedig â gwaith am 13 wythnos, ar yr amod nad ydych chi’n dal i fyw gyda’ch partner. Mae’r 13 wythnos yn dechrau o’r dyddiad i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am drais neu gam-drin domestig. Bydd yn cael ei ymestyn i 26 wythnos os ydych chi’n gyfrifol am blentyn dan 16 oed.

O fewn mis i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen i chi anfon datganiad atynt gan rywun mewn swydd swyddogol. Gallai fod, er enghraifft:

  • eich cyflogwr

  • gweithiwr gofal iechyd proffesiynol

  • swyddog heddlu

  • gweithiwr cymdeithasol

  • swyddog tai

  • gweithiwr cymorth

  • swyddog undeb llafur

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch partner neu os nad ydych chi’n rhoi gwybod am drais neu gam-drin domestig, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Bydd yr Adran gwaith a Phensiynau ond yn newid eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ar ôl trais neu gam-drin domestig unwaith bob 12 mis.

ell the DWP within 6 months if you’ve experienced domestic violence or abuse. If you’d rather not talk to your work coach about this you can call the Universal Credit helpline instead.

You won’t need to do any work-related activities for 13 weeks, as long as you no longer live with your partner. The 13 weeks starts from the date you told the DWP about the domestic violence or abuse. It’s extended to 26 weeks if you’re responsible for a child under 16.

Rydych chi'n sâl neu’n anabl

Os oes gennych chi salwch tymor byr

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os ydych chi’n sâl - ni fydd yn rhaid i chi chwilio am waith tan eich bod yn well. Gallwch ond gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn.

Os ydych chi’n sâl am fwy na 7 niwrnod bydd angen i chi gael nodyn meddyg.

Os ydych chi’n sâl am fwy na 14 diwrnod bydd yn cyfrif fel salwch hirdymor.

Os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi salwch hirdymor

Ni fydd angen i chi weithio os gallwch ddangos bod gennych chi ‘allu cyfyngedig i weithio’. Efallai y bydd angen i chi lenwi holiadur am eich iechyd a mynd am asesiad meddygol.

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith am unrhyw broblemau iechyd sydd gennych chi hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael eich dosbarthu fel rhywun sydd â ‘gallu cyfyngedig i weithio’. Dylai dal addasu eich ymrwymiad hawliwr os yw’ch cyflwr iechyd yn golygu y gallwch chi ond gwneud mathau penodol o waith neu ymdopi â nifer penodol o oriau.

Gallai fod yn achos o wahaniaethu os yw’ch hyfforddwr gwaith yn gwrthod newid eich ymrwymiad hawliwr yn seiliedig ar eich iechyd. Gallwch wirio a yw wedi gwneud addasiad rhesymol a gofyn iddo wneud newidiadau os nad yw wedi gwneud hynny.

Rydych chi’n gofalu am blentyn neu berson ag anableddau difrifol

Dylai eich hyfforddwr gwaith bob amser ystyried eich ymrwymiadau gofalu. Gwiriwch eich bod yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir i sicrhau y gofynnir i chi wneud y pethau iawn.

Dylech hefyd ddweud wrth eich hyfforddwr gwaith am unrhyw broblemau dros dro sy’n eich atal rhag gwneud eich gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, dylech gael amser i ffwrdd os oes rhywbeth yn amharu ar eich trefniadau gofal plant ac nad ydych chi’n gallu aildrefnu ar fyr rybudd.

Rydych chi’n feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn y 15 wythnos diwethaf

Dylai’ch hyfforddwr gwaith bob amser ystyried beichiogrwydd neu roi genedigaeth. Gwiriwch eich bod yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir i sicrhau y gofynnir i chi wneud y pethau iawn.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad am wahaniaethu os yw’ch hyfforddwr gwaith yn gwrthod addasu eich ymrwymiad hawliwr ar sail eich beichiogrwydd.

Rydych chi’n chwilio am gyflog neu fath o swydd penodol

Os yw’ch hyfforddwr gwaith yn disgwyl i chi chwilio am waith, bydd fel arfer yn dymuno i chi dderbyn unrhyw swydd sy’n talu o leiaf yr isafswm cyflog. Mae hyn yn cynnwys gwaith rhan-amser.

Os ydych chi wedi bod mewn swydd yn ddiweddar gallwch ofyn am gael cyfyngu eich chwiliad i swyddi penodol am hyd at 4 wythnos o ddyddiad eich cais am Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, efallai y byddwch ond am chwilio am waith:

  • amser llawn

  • sy’n talu mwy na’r isafswm cyflog - yn agosach at yr hyn rydych chi wedi’i ennill yn ddiweddar

  • mewn maes penodol lle mae gennych chi brofiad

Bydd angen i chi ddangos bod gennych chi siawns rhesymol o ddod o hyd i’r math o swydd fyddech chi’n ei hoffi. Er enghraifft, dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os oes gennych chi brofiad, hyfforddiant, sgiliau neu gymwysterau perthnasol.

Os dywedir wrthych am wneud cais am swydd sy’n groes i’ch credoau

Ni ddylech orfod gwneud gwaith sy’n groes i’ch credoau - boed yn rhai crefyddol ai peidio. Er enghraifft, os ydych chi’n heddychwr ni ddylech orfod gweithio mewn ffatri arfau.

Eglurwch eich credoau i’ch hyfforddwr gwaith os yw'n gofyn i chi wneud unrhyw beth sy’n groes i’ch credoau. Os yw'n gwrthod gwneud newidiadau gwiriwch a yw hyn yn achos o wahaniaethu.

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n gweithio’n barod

Nid oes yn rhaid i chi wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith ar ôl i chi ddechrau ennill swm penodol - gwiriwch eich bod yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith cywir.

Maen nhw’n gofyn i chi deithio gormod

Nid oes yn rhaid i chi wneud cais am swyddi a fyddai’n golygu teithio mwy na 90 munud bob ffordd.

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith os yw problemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu yn ei gwneud yn rhesymol i chi gyfyngu ymhellach ar eich amser teithio. Dylai’ch ymrwymiad hawliwr ystyried hyn.

Os yw’ch hyfforddwr gwaith yn meddwl y byddai taith yn cymryd llai na 90 munud i chi, gofalwch ei fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau gyda’r daith neu gyfyngiadau ar sut gallwch chi deithio. Efallai ei fod yn defnyddio amcangyfrif cyflym ond bod y daith yn cymryd mwy o amser mewn gwirionedd.

Mae rhywbeth arall yn eich atal rhag gweithio neu chwilio am waith

Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith:

  • os oes gennych chi argyfwng teuluol

  • os ydych chi angen mynd i angladd

  • os ydych chi angen amser i ffwrdd gan fod eich partner neu blentyn wedi marw

  • os oes rhywbeth yn tarfu ar eich trefniadau gofal plant ac nad ydych chi’n gallu aildrefnu

  • os ydych chi yn y llys, gan gynnwys fel tyst neu aelod o’r rheithgor

  • os ydych chi'n symud tŷ

Yn dibynnu ar eich sefyllfa efallai y bydd dal angen i chi wneud rhywfaint o weithgareddau cysylltiedig â gwaith, ond dylai'r rheiny gael eu lleihau. Mae beth yn union sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn cytuno arno gyda’ch hyfforddwr gwaith.

Rhoi tystiolaeth

Gall eich hyfforddwr gwaith ofyn am gael gweld tystiolaeth o’r newid yn eich amgylchiadau neu eich problemau â’ch gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Er enghraifft:

  • llythyr gan feddyg

  • tystysgrif geni plentyn

  • dogfennau sy’n dangos eich bod wedi symud tŷ

Os nad ydych chi’n siŵr pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei dangos, holwch eich hyfforddwr gwaith.

Os bydd eich hyfforddwr gwaith yn gwrthod newid eich ymrwymiad hawliwr

Gallwch gwyno wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n teimlo bod y penderfyniad yn annheg.

Os ydych chi’n cael eich cosbi er eich bod wedi egluro’ch sefyllfa i’ch hyfforddwr gwaith, gallwch herio'r penderfyniad gydag ailystyriaeth orfodol.

Gallwch hefyd wirio a yw gwrthod newid eich ymrwymiad hawliwr yn gyfystyr â gwahaniaethu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018