Os ydych chi eisiau ad-daliad ar gyfer teithio oherwydd y coronafeirws

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os na allwch deithio oherwydd coronafeirws, efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad neu ddewis ail-archebu ar gyfer amser arall.

Dylech wirio gwefan y cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef neu unrhyw e-byst rydych wedi’u derbyn ganddynt. Efallai bod ganddyn nhw bolisi ad-daliad coronafeirws.

Mae gennych chi hawliau gwahanol yn dibynnu ar y canlynol:

  • canslwyd eich archeb gan y cwmni teithio

  • rydych chi eisiau canslo eich archeb ond mae'n taith yn dal i fynd yn ei flaen

Canslwyd eich archeb gan y cwmni teithio

Bydd gennych hawl awtomatig i gael ad-daliad os oedd eich archeb ar gyfer:

Gwiriwch sut i gael ad-daliad os caiff eich taith hedfan ei chanslo

Os oedd eich archeb am rywbeth arall, gwiriwch y telerau ac amodau i weld a oes gennych hawl i gael ad-daliad a pha mor hir y dylai gymryd.

Os ydych chi eisiau canslo eich archeb ond mae'r taith yn dal i fynd yn ei flaen

Mae’n bosibl na fyddwch eisiau neu’n gallu teithio os, er enghraifft:

  • rhaid i chi hunan-ynysu

  • rhaid i chi fynd i cwarantin

  • mae cyfyngiadau coronafeirws yn newid yn y lle rydych chi’n ymweld ag ef

Os na fydd y cwmni’n canslo eich archeb, gallwch ofyn am ad-daliad ond nid oes gennych hawl awtomatig i un. Gwiriwch delerau ac amodau eich archeb i weld beth allwch chi ei wneud.

Gallwch ddarganfod a yw cyfyngiadau coronafeirws yn effeithio ar eich teithio ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch hefyd wirio’r cyngor teithio tramor ar GOV.UK.

Cofiwch y gallai cyfyngiadau coronafeirws a chyngor y llywodraeth newid cyn i chi deithio neu tra byddwch i ffwrdd.

Dywedwch wrth y cwmni os yw'r llywodraeth yn dweud y bydd teithio i wlad yn peryglu eich iechyd neu'ch diogelwch. Gallai hyn eich helpu i ddadlau am ad-daliad.

Os na fydd y cwmni’n rhoi ad-daliad i chi, fel arfer mae’n well aros i weld a fydd yn canslo’r archeb yn ddiweddarach. Os byddant yn canslo'r archeb, dylent roi ad-dalu i chi.

Os cynigir taleb i chi yn lle ad-daliad

Fel arfer mae’n well gofyn am ad-daliad yn lle hynny – dylech gysylltu â’r cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef a gofyn. Dylent roi ad-daliad i chi os gwnaethant ganslo eich taith.

Os ydych yn ystyried derbyn taleb, gwiriwch y telerau ac amodau, gan gynnwys:

  • pan ddaw'r daleb i ben

  • a allwch chi newid eich meddwl yn ddiweddarach a chael ad-daliad

Os yw'r cwmni y gwnaethoch archebu gydag ef wedi mynd i'r wal

Dylech wirio a fydd eich archeb yn dal i fynd yn ei blaen - er enghraifft, fe allech chi:

  • edrych ar wefan y cwmni

  • ffonio neu ysgrifennu at y cwmni a gofyn

Os gwnaethoch archebu gydag asiant teithio, dylech gysylltu â'r cwmnïau eraill y byddwch yn teithio gyda nhw - er enghraifft, eich darparwr hedfan neu westy.

Os nad yw eich archeb yn mynd yn ei flaen, efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad - gallwch ddarganfod sut i geisio cael eich arian yn ôl os bydd cwmni yn rhoi’r gorau i fasnachu

Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth i gael help i weld a allwch chi gael ad-daliad am daleb.

Os yw eich ad-daliad yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl

Dylech gysylltu â'r cwmni a gofyn faint o amser y bydd yr ad-daliad yn ei gymryd. Mae’n werth dweud wrthyn nhw os ydych chi angen yr arian ar frys – er enghraifft, os ydych chi wedi colli’ch swydd.

Os bydd yr ad-daliad yn cymryd mwy o amser nag y dywedodd y cwmni y byddai, gallwch dyma sut i gwyno

Os yw’r cwmni’n dweud na fyddant yn rhoi ad-daliad i chi

Os oes gennych yswiriant teithio, gwiriwch a allwch wneud cais. Gallech ddarllen y telerau ac amodau neu gysylltu â’r yswiriwr. Mae'n bosibl y byddwch hefyd wedi'ch diogelu gan eich yswiriant cartref neu yswiriant eich cyfrif banc.

Os ydych chi'n hawlio ar eich yswiriant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu:

  • ffi ychwanegol

  • mwy ar gyfer yswiriant yn y dyfodol

Os gwnaethoch archebu rhywbeth i rywun arall, efallai na fyddwch yn gallu ei hawlio’n ôl oni bai eu bod wedi’u henwi ar eich polisi yswiriant.

Gallech wirio a allwch gael ad-daliad os gwnaethoch dalu â cherdyn neu Paypal yn lle hynny.

Gallwch geisio cael ad-daliad gan ddarparwr eich cerdyn ar yr un pryd â dechrau eich hawliad yswiriant. Dim ond gan un ohonyn nhw y gallwch chi gael ad-daliad - os ydych chi'n cadw'r arian o'r ddau fe allai fod yn dwyll.

Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen mwy o help arnoch - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Os oes angen mwy o help arnoch

Gallwch wirio sut i ddelio â chwmni na fydd yn rhoi ad-daliad i chi

Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Os yw cwmni wedi eich trin yn annheg, gallwch roi gwybod i Safonau Masnach amdanynt. Gallwch wirio sut i roi gwybod i Safonau Masnach am gwmni.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.