Sut ddylai beilïaid eich trin chi os ydych chi’n agored i niwed

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech ddweud wrth y beilïaid (neu ‘asiantau gorfodi’) cyn gynted â phosibl os ydych chi mewn sefyllfa sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddelio â nhw. Efallai y byddan nhw’n dod i’r casgliad eich bod chi’n ‘agored i niwed’.

Os ydych chi’n agored i niwed, rhaid i feilïaid eich trin chi’n fwy gofalus, gan gynnwys rhoi mwy o amser i chi ymateb i lythyrau neu ofynion. Hefyd, ni ddylen nhw fynd i mewn i’ch cartref os mai chi yw’r unig berson sydd yno.

Edrychwch i weld a ddylai beilïaid eich trin chi fel person sy’n agored i niwed

Gallwch fod yn agored i niwed mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd, er enghraifft:

  • os ydych chi’n anabl

  • os ydych chi’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog – yn enwedig os ydych chi’n rhiant sengl

  • os yw’ch oedran yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddelio â beilïaid – fel arfer os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

Hefyd, efallai y byddwch chi’n cael eich ystyried fel person sy’n agored i niwed os ydych chi wedi bod trwy amgylchiadau anodd neu emosiynol yn ddiweddar. Er enghraifft, cael eich gwneud yn ddi-waith, dioddef trosedd neu os bydd rhywun sy’n agos atoch chi wedi marw.

Dywedwch wrth y beilïaid os ydych chi’n ofalwr, yn berthynas neu’n ffrind sy’n gweithredu ar ran rhywun sy’n agored i niwed sydd â dyled. Esboniwch pa mor agored i niwed yw’r person a dylai’r beilïaid fod yn barod i siarad â chi yn lle’r person sy’n agored i niwed.

Dywedwch os oes gennych chi unrhyw hawl gyfreithiol i weithredu ar ran y person sy’n agored i niwed, fel atwrneiaeth.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi angen help i ddelio â beilïaid neu’ch dyled.

Dweud wrth feilïaid am eich sefyllfa

Cysylltwch â’r beilïaid cyn gynted â phosibl – neu gofynnwch i ofalwr, perthynas neu ffrind gysylltu â nhw ar eich rhan.

Os ydych chi wedi cael llythyr gan feilïaid, edrychwch am rif ffôn. Y peth gorau i’w wneud yw eu ffonio nhw, gan mai dyma’r ffordd gyflymaf o gysylltu â nhw. Mae’n bwysig cysylltu â nhw’n gyflym fel y gallwch chi eu hatal nhw rhag ymweld â chi ac ychwanegu ffioedd.

Os bydd beilïaid yn ymweld â’ch cartref, siaradwch â nhw trwy’r bocs llythyrau neu ffenestr lan lofft – edrychwch ar sut i atal beili wrth eich drws.

Pan fyddwch chi’n siarad â’r beilïaid, dylech:

  • ddweud eich bod chi’n agored i niwed

  • esbonio pam mae delio â beilïaid yn anoddach i chi nag i rywun mewn sefyllfa arall

  • gofyn i’r beilïaid ganslo unrhyw ymweliadau yn y dyfodol oherwydd y pryder ychwanegol y byddan nhw’n ei beri i chi

  • sicrhau eu bod nhw’n gwybod sut gallai llythyr neu ymweliad waethygu’ch sefyllfa – er enghraifft, os oes gennych chi gyflwr ar y galon neu broblem iechyd meddwl.

Cadwch nodyn o’r amser i chi ffonio a beth gytunoch chi, rhag ofn y bydd angen i chi gwyno yn ddiweddarach. Gofynnwch hefyd am enw’r person y siaradoch chi ag ef neu hi, a gwneud nodyn ohono.

Ysgrifennwch at y beilïaid os na allwch chi eu ffonio nhw neu os na fydd siarad â nhw’n helpu. Edrychwch am eu cyfeiriad postio ar unrhyw lythyrau maen nhw wedi’u hanfon atoch chi, neu edrychwch ar-lein.

Dywedwch wrth eich credydwr eich bod chi’n agored i niwed

Yn ogystal â dweud wrth y beili eich bod chi’n agored i niwed, dywedwch wrth bwy bynnag mae arnoch chi arian iddo (eich ‘credydwr’) hefyd. Er enghraifft, os oes arnoch chi’r dreth gyngor, y cyngor fydd eich credydwr. Ni fydd llawer o gynghorau a chwmnïau’n defnyddio beilïaid os byddwch chi’n esbonio eich bod chi’n agored i niwed.

Wrth siarad â’ch credydwr, gofynnwch a allwch chi dalu’ch dyled mewn ffordd arall. Er enghraifft, gallech gynnig talu’r ddyled mewn rhandaliadau yn hytrach na chyfandaliad. Efallai y bydd eich credydwr yn penderfynu nad oes angen iddyn nhw ddefnyddio’r beilïaid os ydych chi’n gallu eu talu nhw’n uniongyrchol.

Gofalwch fod beilïaid yn eich trin chi’n iawn

Os ydych chi’n cael eich ystyried fel person sy’n agored i niwed, dylai beilïaid:

  • ofalu nad ydyn nhw’n mynd i mewn i’ch cartref os mai chi yw’r unig berson sydd yno

  • rhoi mwy o amser i chi wneud cynnig i ad-dalu’r ddyled i’w hatal nhw rhag ymweld â chi – gofynnwch iddyn nhw ohirio’ch achos

  • rhoi mwy o amser i chi gael cyngor ar ddyled cyn iddyn nhw gymryd unrhyw beth neu godi unrhyw ffioedd – gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help

  • gofalu nad ydyn nhw’n cymryd neu’n bygwth cymryd unrhyw beth sy’n helpu gyda’ch iechyd

  • gofalu y gallwch chi gyfathrebu â nhw – er enghraifft, trwy anfon llythyrau mewn Braille neu ddod â chyfieithydd gyda nhw pan fyddan nhw’n ymweld â chi

Gallwch gwyno os bydd beilïaid yn torri’r rheolau hyn – dylai hyn wneud iddyn nhw eich trin chi’n iawn yn y dyfodol. Efallai y gallwch chi gael eu trwydded wedi’i chymryd oddi arnyn nhw hefyd. Bydd hyn yn cael gwared ar y beilïaid a’u ffioedd, ond bydd rhaid i chi ddelio â’ch dyled o hyd.

Os oes gennych chi blentyn sydd o dan 18 oed

Nid oes gan feilïaid yr hawl i fynd i mewn i’ch cartref os ydyn nhw’n gwybod nad oes unrhyw un dros 16 oed yno.

Ddylen nhw ddim gofyn cwestiynau o’r drws hyd yn oed, os yw’r unig bobl sydd yno o dan 12 oed. Os byddan nhw’n dal ati i geisio siarad â’ch plant, dylech gwyno am y beilïaid.

Os bydd beilïaid yn mynd i mewn i’ch cartref, ddylen nhw ddim cymryd unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi i ofalu am blant o dan 18 oed. Mae hyn yn cynnwys teganau a gemau plant.

Profi eich bod chi’n agored i niwed os na fydd y beilïaid yn eich credu chi

Efallai y bydd beilïaid yn gofyn am dystiolaeth eich bod chi’n agored i niwed. Os gallwch chi, mae’n werth ceisio profi’ch sefyllfa iddyn nhw. Hyd yn oed os nad ydych chi’n awyddus i rannu’r pethau hyn, mae’n gallu bod yn werth chweil os bydd yn gwneud i’r beilïaid eich trin chi’n well.

Gallech anfon copi o’r canlynol atyn nhw:

  • nodyn gan feddyg yn esbonio unrhyw salwch neu anabledd

  • llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu wasanaethau cymdeithasol am unrhyw fudd-daliadau rydych chi’n eu derbyn

  • bil y dreth gyngor sy’n dangos yr oedolion sy’n byw yn eich cartref

Anfonwch gopïau yn hytrach na dogfennau gwreiddiol. Mae’n syniad da gofyn am ‘brawf postio’ yn swyddfa’r post pan fyddwch chi’n anfon eich dogfennau. Mae prawf postio am ddim a bydd yn eich galluogi chi i ddangos i’r beilïaid pryd wnaethoch chi anfon eich tystiolaeth atyn nhw.

Tra’ch bod chi’n chwilio am y dogfennau, ffoniwch y beilïaid i ofyn iddyn nhw ohirio’ch achos. Gall hyn eu hatal nhw rhag ymweld â chi neu eich ffonio nhw hyd nes iddyn nhw gael eich dogfennau. Dylai’r beilïaid gytuno i hyn os byddwch chi’n dweud wrthyn nhw eich bod chi’n anfon tystiolaeth eich bod chi’n agored i niwed.

Os na fydd y beilïaid yn credu’ch tystiolaeth

Gallwch gwyno am y beilïaid os ydych chi wedi anfon tystiolaeth ond eu bod nhw’n dal i wrthod eich trin chi fel person sy’n agored i niwed. Mae cwyno’n gallu eu cael nhw i adael llonydd i chi.

Gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf  hefyd. Weithiau, mae beilïaid yn fwy tebygol o wrando os byddan nhw’n clywed am eich sefyllfa gan un o’n cynghorwyr.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.