Ysgrifennu llythyr o gŵyn am feilïaid

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Wrth gwyno am feilïaid, eich cam cyntaf yw ysgrifennu at bwy bynnag mae arnoch chi arian iddo – sef eich ‘credydwr’. Er enghraifft, os mai dyled y dreth gyngor sydd gennych chi, eich cyngor lleol yw’ch credydwr.

Pan fyddwch chi’n anfon cwyn at eich credydwr, anfonwch gopi at y beilïaid hefyd. Edrychwch i weld i bwy ddylech chi gwyno os nad ydych chi’n siŵr ble i anfon eich cwyn.

Mae pedwar cam i ysgrifennu llythyr neu e-bost o gŵyn:

  1. Dywedwch wrth y credydwr pwy ydych chi

  2. Dywedwch pwy yw’r beilïaid

  3. Esboniwch beth mae’r beilïaid wedi’i wneud o’i le

  4. Dywedwch sut ddylai’r credydwr ddelio â’r gŵyn

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os hoffech chi gael help i ysgrifennu’ch cwyn.

Cyn i chi gwyno, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylai’r beilïaid eu dilyn:

  • os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Mae’ch cwyn yn fwy tebygol o lwyddo os yw’r beilïaid wedi torri’r rheolau ychwanegol hyn.

1. Dweud wrth y credydwr pwy ydych chi

Yn ogystal â rhoi eich enw, edrychwch ar unrhyw lythyrau gan y beilïaid i weld a ydyn nhw wedi rhoi ‘cyfeirnod cyfrif’ i chi. Os ydyn nhw, cofiwch gynnwys y cyfeirnod hwn yn eich llythyr.

2. Dweud pwy yw’r beilïaid

Dywedwch enw’r beili rydych chi’n cwyno amdano.

Os bydd beili’n ymweld â chi, gofynnwch am brawf o bwy ydyn nhw. Rhaid iddyn nhw gario bathodyn, cerdyn neu dystysgrif yn dangos pwy ydyn nhw ac i bwy maen nhw’n gweithio. Os ydych chi’n siarad â nhw ar y ffôn, gofynnwch am eu henw a gwnewch nodyn ohono. Os bydd beili’n gwrthod rhoi enw neu brofi pwy yw e, dywedwch hyn yn eich llythyr gan ei fod yn erbyn y rheolau.

Os na chawsoch chi enw o ymweliad neu alwad, ffoniwch y cwmni beili a gofynnwch iddyn nhw â phwy ddelioch chi. Dylech ddod o hyd i rif ffôn y cwmni beili ar unrhyw lythyrau maen nhw wedi’u hanfon atoch chi neu ar ei wefan.

3. Esbonio beth mae’r beilïaid wedi’i wneud o’i le

Disgrifiwch beth mae’r beilïaid wedi’i wneud o’i le a sut mae hyn wedi effeithio arnoch chi. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys enwau, dyddiadau ac amseroedd. Edrychwch pryd i gwyno am feilïaid os nad ydych chi’n siŵr am beth allwch chi gwyno.

Os oes gennych chi unrhyw dystiolaeth o ymddygiad y beilïaid, anfonwch y dystiolaeth hon gyda’ch llythyr neu’ch e-bost os gallwch chi. Gallech chi gynnwys:

  • nodiadau o ymweliadau neu sgyrsiau â beilïaid

  • copïau o lythyrau neu negeseuon testun gan feilïaid

  • copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon rydych chi wedi’u hanfon at feilïaid

  • bil gan y beilïaid yn dangos pa ffioedd maen nhw wedi’u codi arnoch chi

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol gan efallai y bydd angen i chi gyfeirio atyn nhw’n ddiweddarach.

Os ydych chi’n cwyno am ymweliad beili, dywedwch os oes gennych chi unrhyw recordiadau sain neu fideo – er enghraifft, ar ffôn symudol. Dywedwch hefyd os oedd tyst yno. Bydd eich credydwr yn cysylltu â chi os bydd eisiau gweld unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi – am y tro, mae’n ddigon i ddweud bod y dystiolaeth gennych chi.

4. Dweud sut dylai’r credydwr ddelio â’ch cwyn

Fel arfer, y peth gorau i’w wneud yw gofyn i’r credydwr dynnu’r beilïaid yn ôl a delio â’r ddyled eu hunain. Ni fyddan nhw’n cytuno i wneud hyn bob amser, ond mae’n werth gofyn, yn enwedig os yw’r beilïaid wedi bod yn ymosodol neu os dylech chi fod wedi cael eich ystyried fel person sy’n agored i niwed.

Yn dibynnu ar eich cwyn, dylech hefyd ofyn i’r credydwr:

  • gadarnhau y bydd ef neu’r beilïaid yn eich trin chi fel person sy’n agored i niwed

  • cydnabod nad oes arnoch chi’r ddyled

  • dod â chytundeb talu i ben os oedd beilïaid wedi rhoi pwysau arnoch chi i gytuno i un nad oeddech chi’n gallu ei fforddio

  • dychwelyd eiddo na ddylai’r beilïaid fod wedi’i gymryd

  • canslo neu ad-dalu ffioedd gormodol

Gofynnwch i’r credydwr ymateb o fewn 10 diwrnod yn rhoi gwybod i chi beth mae’n mynd i’w wneud am eich cwyn.

Cynnig talu’ch dyled

Bydd credydwyr yn fwy tebygol o dderbyn eich cwyn a thynnu’r beilïaid yn ôl os gallwch chi gynnig talu’r ddyled.

Os gallwch chi ei fforddio, gallech gynnig talu’r ddyled i gyd ar unwaith. Os nad ydych chi’n gallu fforddio cymaint â hynny, cynigiwch dalu rhan o’r ddyled bob wythnos. Byddwch yn realistig wrth ddweud wrth eich credydwr faint rydych chi’n gallu ei fforddio. Os byddwch chi’n cynnig mwy nag y gallwch chi ei fforddio, efallai y bydd rhaid i chi dorri’r cytundeb ac efallai y bydd y beilïaid yn dychwelyd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.