Atal beilïaid wrth eich drws

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pwysig

Os yw beili'n dweud ei fod yn eich troi allan yn hytrach na chasglu dyled, bydd angen i chi gael cyngor gwahanol.

Edrychwch beth i'w wneud os bydd beili'n dweud ei fod yn eich troi allan ar wefan Shelter.

Mae cael beilïaid (neu 'asiantau gorfodi') yn ymweld â'ch cartref yn gallu achosi straen, ond mae gennych chi hawliau ac ni ddylech chi gael eich bwlio.

Gall beilïaid ond ceisio dod i mewn i'ch cartref rhwng 6am a 9pm.

Ni ddylech adael beili i mewn i'ch cartref – y peth gorau i'w wneud yw ceisio datrys eich dyled trwy eu cadw nhw allan a siarad drwy'r drws neu dros y ffôn.

Gofalwch fod eich drysau ar glo a'ch ffenestri ar gau – mae beilïaid yn cael dod i mewn trwy ddrysau nad ydyn nhw wedi'u cloi. Os oes gennych chi gyntedd â drws sy'n cloi, dylech chi gloi hwn hefyd.

Yn dibynnu ar y math o ddyled sydd arnoch chi, weithiau bydd gan y beili yr hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref trwy ofyn i saer cloeon agor eich drws os na fyddwch chi'n ei adael i mewn. Mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n gwneud hyn – dylech gael cyfle i dalu heb iddyn nhw ddod i mewn.

Ffoniwch 999 os ydych chi'n cael eich bygwth yn gorfforol gan feili – peidiwch â'u gadael nhw i mewn i'ch cartref.

Cyn i chi siarad â beili, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn:

  • os ydych chi'n anabl neu'n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi'n feichiog

  • os ydych chi'n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi'n siarad neu'n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Gofynnwch am brawf o bwy ydyn nhw

Y peth cyntaf ddylech chi ei wneud pan fydd beilïaid yn cyrraedd yw gofyn am brawf o bwy ydyn nhw a pham maen nhw'n ymweld â chi.

Os ydyn nhw'n dweud eu bod nhw'n 'gasglwr dyledion', dywedwch wrthyn nhw am adael. Does ganddyn nhw ddim o'r un pwerau â beilïaid ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd os byddwch chi'n gofyn iddyn nhw wneud hynny.

Os ydyn nhw'n dweud eu bod nhw'n feili neu'n asiant gorfodi, gofynnwch iddyn nhw ddangos bathodyn, cerdyn adnabod neu 'dystysgrif asiant gorfodi' i chi. Rhaid i bob beili cofrestredig gario prawf o bwy ydyn nhw.

Mae angen iddyn nhw ddweud hefyd o ba gwmni maen nhw wedi dod a rhoi rhif ffôn y brif swyddfa i chi.

Dywedwch wrthyn nhw am bostio'r dogfennau drwy eich bocs llythyrau neu eu dangos nhw i chi drwy'r ffenestr. Bydd y prawf o bwy ydyn nhw yn dangos eu henw a pha fath o feili ydyn nhw.

I wirio pwy ydyn nhw, dylech wneud un o'r pethau canlynol:

Dywedwch wrthyn nhw am adael os nad ydyn nhw'n gallu profi pwy ydyn nhw. Dywedwch y byddwch chi'n ffonio'r heddlu os na fyddan nhw'n gadael. Os na fyddan nhw'n gadael, dylech ffonio 999.

Edrychwch a yw'r beili'n cael defnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref

Efallai y bydd gan y beili yr hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref neu'ch busnes os yw'n casglu:

  • dirwyon llys ynadon heb eu talu, er enghraifft, os ydych chi wedi cael dirwy am beidio â thalu ffi'r drwydded deledu

  • dyledion treth ar gyfer Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, er enghraifft, os oes arnoch chi dreth incwm

Bydd angen iddyn nhw ddangos prawf o'r hyn sydd arnoch chi a 'gwarant' neu ddogfen o'r enw 'gwrit' gan lys. Gofalwch fod unrhyw ddogfennau wedi'u llofnodi ac o fewn y dyddiad ac yn dangos eich enw a'ch cyfeiriad cywir.

Does ganddyn nhw ddim hawl i dorri eich drws – rhaid iddyn nhw ddefnyddio 'grym rhesymol'. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid iddyn nhw ddychwelyd gyda saer cloeon a fydd yn datgloi'r drws.

Mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n gwneud hyn – fel arfer, bydd gennych chi amser i wneud cynnig i ddatrys y ddyled.

Y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol i gael help os bydd y beilïaid yn dweud eu bod nhw'n mynd i gael saer cloeon i ddefnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref.

Os byddwch chi'n gadael y beili i mewn i'ch cartref

Os byddwch chi'n penderfynu eu gadael nhw i mewn a'ch bod chi'n methu â fforddio talu'r hyn sydd arnoch chi yn syth, fel arfer bydd angen i chi wneud 'cytundeb nwyddau a reolir'. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cytuno i gynllun ad-dalu ac yn talu rhai o ffioedd y beilïaid.

Edrychwch sut i wneud cytundeb nwyddau a reolir gyda beilïaid.

Os na fyddwch chi'n gwneud cytundeb, gallai'r beili gymryd eich pethau i'w gwerthu a thalu'ch dyled. Darllenwch fwy am beth sy'n digwydd os bydd beilïaid yn dweud eu bod nhw'n mynd i werthu'ch eiddo.

Os nad oes gan y beili yr hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn

Os yw'r beili'n casglu unrhyw fath arall o ddyled, nid oes ganddo'r hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref.

Mae hyn yn cynnwys os ydyn nhw'n casglu:

  • ôl-ddyledion y dreth gyngor

  • dyledion cerdyn credyd neu gatalog

  • dirwyon parcio

  • arian sydd arnoch chi i gwmnïau ynni neu ffôn

Mae gennych chi'r hawl i'w cadw nhw allan a siarad trwy'r drws caeedig. Gofalwch fod pawb arall yn eich cartref yn gwybod na ddylen nhw eu gadael i mewn.

Gofynnwch am ddadansoddiad llawn o'r ddyled maen nhw'n ei chasglu a phwy yw'r 'credydwr' – sef y person neu'r cwmni, yn eu tyb nhw, y mae arnoch chi'r arian iddo. Dywedwch wrthyn nhw am bostio'r dogfennau drwy eich bocs llythyrau neu o dan y drws.

Gofalwch fod unrhyw ddogfennau maen nhw'n eu rhoi i chi o fewn y dyddiad ac yn dangos eich enw a'ch cyfeiriad cywir.

Os mai rhywun arall sydd piau'r ddyled, dywedwch y byddwch chi'n cysylltu â phrif swyddfa'r beili i esbonio a dywedwch wrthyn nhw am adael. Edrychwch sut gallwch chi brofi nad chi sydd piau'r ddyled.

Os mai chi sydd piau'r ddyled, dywedwch wrth y beili am adael a dywedwch y byddwch chi'n siarad â'i brif swyddfa i wneud trefniadau i dalu.

Efallai y bydd y beili'n dweud bod rhaid i chi ei dalu ar y stepen drws neu bod rhaid i chi ei adael i mewn – does dim rhaid i chi wneud hyn. Does ganddyn nhw ddim o'r hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i'ch cartref a dydyn nhw ddim yn cael dod â saer cloeon gyda nhw i'w helpu nhw i fynd i mewn.

Fel arfer, byddan nhw'n gadael os byddwch chi'n gwrthod eu gadael nhw i mewn – ond byddan nhw'n dychwelyd os na fyddwch chi'n trefnu i dalu'ch dyled. Mae'n bwysig gwneud hyn cyn gynted ag y gallwch chi; fel arall, bydd y beilïaid yn gallu ychwanegu ffioedd at eich dyled.

Gallwch gwyno os na fydd y beili'n gadael ac os ydych chi'n credu ei fod yn aflonyddu arnoch chi.

Os ydych chi wedi torri 'cytundeb nwyddau a reolir'

Efallai y byddwch chi'n cael llythyr o'r enw 'hysbysiad o fwriad i ymweld â chi eto' os ydych chi wedi torri 'cytundeb nwyddau a reolir'. Mae hyn yn golygu bod gan y beili yr hawl i fynd i mewn i'ch cartref gan ddefnyddio 'grym rhesymol'. Bydd rhaid iddyn nhw ddefnyddio saer cloeon i ddatgloi eich drws – does ganddyn nhw ddim hawl i dorri'ch drws.

Efallai y bydd gennych chi amser o hyd i drafod eich cytundeb nwyddau a reolir ac i atal y beilïaid rhag ymweld â chi – dylech weithredu'n gyflym.

Edrychwch beth ddylech chi ei wneud os ydych chi wedi torri cytundeb nwyddau a reolir.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.