Edrychwch beth mae beilïaid yn gallu ei gymryd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallai beilïaid (neu 'asiantau gorfodi') gymryd eich eiddo os ydyn nhw'n casglu dyled nad ydych chi wedi'i thalu.

Maen nhw'n gallu cymryd pethau sy'n eiddo i chi neu sy'n eiddo i chi a rhywun arall ar y cyd – er enghraifft, eitemau trydanol, gemwaith neu gerbyd.

Mae beilïaid ond yn gallu cymryd pethau o'r tu mewn i'ch cartref os byddwch chi'n eu gadael nhw i mewn – dysgwch sut i'w cadw nhw allan.

Mae rheolau ar yr hyn y gallan nhw ei gymryd – os byddan nhw'n torri'r rheolau, gallwch gwyno a chael eich eiddo yn ôl.

Os yw'r beilïaid yn casglu dyled rhywun arall, allan nhw ddim cymryd unrhyw beth sy'n eiddo i chi. Edrychwch sut i atal beilïaid os nad oes arnoch chi'r ddyled.

Eiddo na all beilïaid eu cymryd

Ni all beilïaid gymryd:

  • pethau sy'n eiddo i bobl eraill – mae hyn yn cynnwys pethau sy'n eiddo i'ch plant

  • anifeiliaid anwes neu gŵn tywys

  • cerbydau, offer neu gyfarpar cyfrifiadurol rydych chi eu hangen ar gyfer eich swydd neu i astudio, gwerth hyd at £1,350

  • unrhyw beth rydych chi'n talu amdano trwy gytundeb cyllid, er enghraifft, car a brynwyd trwy gytundeb hurbwrcasu neu gytundeb gwerthiant amodol

  • cerbyd Motability neu gerbyd sy'n dangos Bathodyn Glas dilys

Pethau sydd eu hangen arnoch chi i fyw

Ni all beilïaid gymryd pethau sydd eu hangen arnoch chi i fyw – mae'r rhain yn bethau rydych chi'n eu defnyddio ar gyfer eich 'anghenion domestig sylfaenol'.

Rhaid iddyn nhw adael:

  • bwrdd a digon o gadeiriau i bawb sy'n byw yn eich cartref

  • gwelyau a dillad gwely i bawb sy'n byw yn eich cartref

  • popty neu ficrodon ac oergell

  • peiriant golchi

  • ffôn neu ffôn symudol

  • unrhyw feddyginiaeth neu gyfarpar meddygol ac unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi i ofalu am blentyn neu berson hŷn

Atal beilïaid rhag cymryd pethau na ddylen nhw eu cymryd

Os bydd beilïaid yn cymryd rhywbeth neu'n ei restru ar 'gytundeb nwyddau a reolir', dangoswch dystiolaeth iddyn nhw sy'n profi na allan nhw ei gymryd.

Os oes gennych chi'r dystiolaeth hon pan maen nhw yn eich cartref, dylech ddangos y dystiolaeth iddyn nhw bryd hynny.

Os byddan nhw'n cymryd rhywbeth na ddylen nhw ei gymryd, bydd angen i chi gwyno a darparu tystiolaeth sy'n profi na ddylen nhw fod wedi ei gymryd.

Os yw'n rhywbeth sy'n eiddo i rywun arall

Mae pethau sy'n eiddo i rywun arall yn cael eu galw'n 'nwyddau trydydd parti'. Os bydd beili'n cymryd nwyddau trydydd parti, bydd angen i chi gysylltu â'r person sydd piau'r pethau hynny.

Gofynnwch i'r person sydd piau'r nwyddau a all gysylltu â'r beilïaid i brofi mai nhw sydd piau nhw. Gall y person dan sylw ddefnyddio biliau neu dderbynebau cerdyn credyd, er enghraifft, ffurflen archebu gyda'u henw arni.

Os bydd beilïaid yn ceisio cymryd cerbyd rhywun arall, gofynnwch i berchennog y cerbyd gysylltu â'r DVLA i ddangos mai nhw yw'r perchennog cofrestredig.

Os yw'n rhywbeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer gwaith neu i astudio

Mae unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer gwaith neu i astudio sydd werth hyd at £1,350 yn cael ei alw'n 'nwyddau wedi'u heithrio'.

Os bydd beilïaid yn cymryd rhywbeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer gwaith, dangoswch ffurflenni archebu neu dderbynebau iddyn nhw ac esboniwch pam rydych chi angen yr eitem.

Profwch fod eich pethau'n werth llai na £1,350 trwy ddangos derbynebau neu edrych ar-lein ar wefannau fel eBay.

Os bydd beilïaid yn cymryd eich cerbyd a'ch bod chi ei angen ar gyfer gwaith, gallech ddangos derbynebau neu ffurflenni archebu os ydych chi'n ei ddefnyddio i gludo offer ar gyfer gwaith. Dangoswch brawf o gyflogaeth os ydych chi angen y cerbyd i gyrraedd eich swyddfa.

Os ydych chi angen rhywbeth i astudio, dangoswch ddogfennau ymrestru eich cwrs.

Os yw'n rhywbeth rydych chi'n talu amdano trwy gytundeb cyllid

Os ydych chi'n dal i dalu am rywbeth trwy gytundeb cyllid, mae'n dal i fod yn eiddo i'r person neu'r cwmni y llunioch chi'r cytundeb cyllid gydag ef. Mae pethau o'r fath yn cael eu galw'n 'nwyddau trydydd parti'.

Gallwch ddefnyddio cytundebau talu i brofi eich bod chi'n dal i dalu am rywbeth rydych chi wedi'i brynu trwy gytundeb cyllid.

Os yw'n gerbyd rydych chi'n talu amdano trwy gytundeb cyllid

Edrychwch am eich cerbyd ar wefan yr HPI. Bydd hyn yn eich helpu chi i brofi eich bod chi'n dal i dalu am eich cerbyd ar hurbwrcas neu brydles.

Os bydd y beilïaid yn symud neu'n clampio car rydych chi'n talu amdano trwy gytundeb cyllid, bydd angen i'r cwmni y gwnaethoch chi'r cytundeb gydag ef gwyno i'r beili.

Os yw'n gerbyd Motability neu'n gerbyd sy'n dangos Bathodyn Glas dilys

Dangoswch unrhyw ddogfennau sydd gennych chi sy'n profi bod gennych chi Fathodyn Glas dilys ar gyfer eich cerbyd.

Dangoswch eich dogfennau cais cymeradwy i brofi bod eich cerbyd yn rhan o'r Cynllun Motability. Mae'n eiddo i'r Cynllun Motability ac yn cyfrif fel 'nwyddau trydydd parti'.

Cwyno os bydd beilïaid yn cymryd rhywbeth na ddylen nhw ei gymryd

Dylech gwyno o fewn 7 diwrnod os bydd beilïaid yn cymryd rhywbeth na ddylen nhw ei gymryd neu'n ei restru ar gytundeb nwyddau a reolir. Rhaid i'r beilïaid ymateb i chi o fewn 10 diwrnod.

Os bydd y beilïaid yn cymryd rhywbeth sy'n eiddo i chi

Os na ddylai'r beili fod wedi cymryd rhywbeth, mae'n cael ei alw'n 'nwyddau wedi'u heithrio'. Mae angen i chi gwyno. Cysylltwch â'r beili gyda thystiolaeth o pam na ddylai fod wedi cymryd yr eitem – esboniwch pam mae'r nwyddau wedi'u heithrio.

Os bydd y beili'n gwrthod dychwelyd yr eitem, dylech gwyno i'r 'credydwr'. Y 'credydwr' yw'r person y mae arnoch chi'r arian iddo. Anfonwch dystiolaeth ato yn esbonio pam na ddylai fod wedi cymryd yr eitem.

Os bydd y beilïaid yn cymryd rhywbeth sy'n eiddo i rywun arall

Mae hyn yn cynnwys:

  • pethau sy'n eiddo i bobl eraill

  • unrhyw beth rydych chi'n dal i dalu amdano trwy gytundeb cyllid

  • cerbydau'r Cynllun Motability

Mae unrhyw beth sy'n eiddo i rywun arall yn cael ei alw'n 'nwyddau trydydd parti'.

Mae angen i'r person neu'n cwmni sydd piau'r eitem gwyno cyn gynted â phosibl. Dylai gysylltu â'r cwmni beili ac anfon tystiolaeth mai nhw sydd piau'r eitem – naill ai trwy nodi mai nhw sydd piau'r eitem neu drwy gynnwys prawf o'i brynu os yn bosibl.

Os bydd y beili'n gwrthod dychwelyd yr eitem, dylai'r perchennog gwyno i'r 'credydwr'. Y 'credydwr' yw'r person neu'r cwmni mae arnoch chi arian iddo.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.