Atal beilïaid rhag cymryd eich cerbyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallai beilïaid (neu ‘asiantau gorfodi’) glampio neu gymryd eich cerbyd os ydyn nhw’n casglu dyled nad ydych chi wedi’i thalu.

Fel arfer, eich cerbyd yw’r peth cyntaf y byddan nhw’n edrych amdano gan eu bod nhw’n gallu ei gymryd pan nad ydych chi gartref.

Pryd nad yw beilïaid yn cael cymryd eich cerbyd

Ni fydd beilïaid yn cael clampio na chymryd eich cerbyd os gallwch chi brofi:

  • bod ganddo Fathodyn Glas neu ei fod yn gerbyd Motability

  • eich bod chi’n dal i dalu amdano trwy gytundeb cyllid

  • eich bod chi ei angen ar gyfer eich swydd a’i fod yn werth llai na £1,350

  • eich bod chi’n byw ynddo – er enghraifft, campervan

Edrychwch pa dystiolaeth rydych chi’n gallu ei defnyddio i atal beilïaid rhag cymryd eich cerbyd.

Os nad ydych chi’n credu y dylai beilïaid fod wedi cymryd eich cerbyd, dylech gwyno.

Symudwch eich cerbyd i rywle diogel

Os ydych chi’n credu y gallai beilïaid gymryd eich cerbyd, dylech ei symud i rywle diogel tra’ch bod chi’n datrys y ddyled.

Mae beilïaid ond yn cael clampio’ch cerbyd os ydyn nhw’n dod o hyd iddo wedi’i barcio y tu allan i’ch cartref neu’ch busnes neu ar ffordd gyhoeddus.

I’w hatal nhw rhag clampio’ch cerbyd, gallwch:

  • ei barcio mewn garej wedi’i gloi

  • ei symud i ddreif ffrind neu aelod o’r teulu – gofalwch eu bod nhw wedi rhoi caniatâd i chi wneud hynny

  • ei barcio mewn maes parcio

Nid yw hi’n ddigon i adael eich cerbyd wedi’i barcio ar ffordd arall – bydd beilïaid yn chwilio’r ffyrdd o gwmpas eich cartref ac yn ei glampio os byddan nhw’n dod o hyd iddo.

Os na fyddwch chi’n gwneud trefniadau i ddatrys y ddyled, bydd y beili’n dal ati i geisio dod o hyd i’ch cerbyd. Y peth gorau i’w wneud yw trefnu i dalu cyn gynted ag y gallwch chi.

Os bydd beilïaid yn clampio’ch cerbyd

Mae’n bwysig gweithredu’n gyflym. Mae beilïaid yn gallu dychwelyd a chymryd eich cerbyd ar ôl 2 awr os na fyddwch chi’n gwneud trefniadau i dalu.

Gallwch eu hatal nhw rhag cymryd eich cerbyd trwy:

Ni fyddan nhw’n tynnu’r clamp tan i chi drefnu i dalu – oni bai eich bod chi’n cwyno gan eich bod chi’n credu na ddylen nhw fod wedi ei glampio.

Bydd rhaid iddyn nhw adael ‘rhybudd o lonyddiad’ ar eich cerbyd – mae hwn yn dangos pryd y cafodd eich cerbyd ei glampio a rhif ffôn y gallwch chi ei ffonio i drefnu taliad.

Peidiwch â thynnu’r clamp na symud eich cerbyd – mae hyn yn anghyfreithlon.

Fel arfer, bydd ffioedd yn cael eu hychwanegu at eich dyled gyffredinol pan fydd beilïaid yn ymweld ac yn clampio neu’n cymryd eich cerbyd. Darllenwch fwy am ffioedd beilïaid.

Ar ôl i chi dalu’ch dyled neu wneud cytundeb nwyddau a reolir, bydd y beilïaid yn tynnu’r clamp.

Os bydd beilïaid yn cymryd eich cerbyd

Mae’r beilïaid yn gallu cymryd eich cerbyd a’i werthu i dalu’ch dyled os nad ydych chi wedi trefnu i dalu neu os ydych chi wedi torri’ch cytundeb nwyddau a reolir.

Bydd angen iddyn nhw roi derbynneb i chi – gofalwch fod y beili wedi ei llofnodi a’i fod yn dangos model a lliw eich cerbyd.

Efallai y bydd gennych chi amser i’w hatal nhw rhag gwerthu’ch cerbyd. Edrychwch sut i gael eich eiddo nôl cyn iddyn nhw gael eu gwerthu.

Cwynwch os bydd beilïaid yn torri’r rheolau

Dylech gwyno os yw’r beili wedi clampio’ch cerbyd ac nad ydych chi’n credu bod ganddo’r hawl i wneud hynny.

Y peth gorau i’w wneud yw cwyno i’r credydwr – hwn yw’r person neu’r cwmni mae arnoch chi arian iddo. Os byddwch chi’n anfon e-bost at y credydwr, dylech chi anfon copi at y cwmni beili hefyd.

Esboniwch sut maen nhw wedi torri’r rheolau a gofynnwch iddyn nhw dynnu’r clamp.

Os ydyn nhw’n gwrthod tynnu’r clamp, dylech gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.