Newid gorchymyn llys am ddyled

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â chael gorchymyn llys wedi’i newid

Os ydyw’ch credydwr wedi cymryd achos llys yn eich erbyn oherwydd dyled, efallai eu bod wedi cael dyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn. Mae’r gorchymyn llys yn golygu fod yn rhaid i chi ad-dalu'r arian sy’n ddyledus i’ch credydwr, naill ai mewn rhandaliadau neu yn llawn erbyn dyddiad arbennig.

Unwaith y byddwch wedi derbyn gorchymyn llys, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw at delerau’r gorchymyn. Sut bynnag, mae’n bosibl y gallai’ch amgylchiadau ariannol newid fyddai’n golygu na allwch chi mwyach fforddio cadw at delerau’r gorchymyn llys. Gallai hyn ddigwydd petaech chi’n colli’ch swydd neu fynd yn sâl, er enghraifft.

Os ydyw’ch amgylchiadau’n newid, mae o hyd yn well i geisio cael y gorchymyn llys wedi’i newid yn hytrach na mynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Os na wnewch chi ddim byd, gallai eich credydwr gymryd camau mwy difrifol, ac yn dibynnu ar y math o ddyledion sydd gennych, fe allech chi ddiweddu yn colli’ch cartref neu gael eich eiddo wedi’u cymryd oddi arnoch.

Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth y dylech eu hystyried os ydych chi am wneud cais i gael y gorchymyn llys wedi’i newid, a sut mae’r broses yn gweithio ar ôl i chi wneud eich cais.

Pryd allwch chi ofyn am gael newid y gorchymyn llys

Os na allwch chi fforddio cadw at y taliadau a orchmynnir gan y llys, fe allwch chi ofyn am newid telerau’r gorchymyn i gydweddu â’r hyn y gallwch chi fforddio’i dalu. Gelwir hyn yn gais i amrywio’r gorchymyn.

Mae’n dibynnu ar eich sefyllfa ariannol, ond fe allech chi wneud cais i’r llys am dalu’ch dyled mewn rhandaliadau llai. Neu fe allwch chi ddweud na allwch chi mwyach fforddio i dalu dim o gwbl. Er enghraifft, os ydych chi wedi colli’ch swydd ac y mae arian yn cael ei ddidynnu o’ch cyflog i ad-dalu’r ddyled, fe allwch chi ofyn i’r llys i newid y math o orchymyn sydd gennych.

Bydd yn rhaid i chi roi manylion eich sefyllfa ariannol wrth wneud eich cais.

Sut i wneud cais am newid gorchymyn llys

Mae’r ffordd i wneud cais am gael gorchymyn llys wedi’i newid yn dibynnu ar faint allwch chi fforddio’i dalu i glirio’ch dyledion.

Os allwch chi fforddio talu rhywbeth

Os oes gennych rywfaint o arian ac yn gallu fforddio talu’r ddyled mewn rhandaliadau, mae angen i chi lenwi ffurflen llys N245 i wneud cais. Gelwir hyn yn gais am Orchymyn Rhandal.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’ch manylion ariannol ar gefn y ffurflen a dweud faint y gallwch fforddio’i dalu erbyn hyn. Dychwelwch y ffurflen i’r llys, gyda’r tâl am y cais. Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl neu efallai y caiff ei ostwng os ydych ar incwm isel.

Os bydd eich credydwr yn cytuno i’r cynnig newydd, bydd y llys yn gwneud gorchymyn newydd sy’n gosod allan yr hyn a gynigioch chi. Ni fydd gwrandawiad llys.

Os na fydd eich credydwr yn cytuno â’r cynnig, bydd staff y llys yn penderfynu beth ddylech chi dalu, yn unol â chanllawiau a gynhyrchwyd gan Wasanaeth y Llys. Fe wnân nhw orchymyn llys newydd wedyn.

Os nad ydych chi’n cytuno â’r hyn y mae staff y llys yn penderfynu arno, fe allwch ysgrifennu at y llys a gofyn iddyn nhw am ailystyried y gorchymyn. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y gorchymyn newydd. Nid oes rhaid i chi dalu tâl i ofyn i’r llys am ail ystyried y gorchymyn a does dim rhaid i chi ddefnyddio ffurflen arbennig.

Os na roddwyd y cais yn eich llys lleol, gall y gwrandawiad gael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r llys agosaf i chi.

Gall eich credydwr hefyd wneud cais i gael y gorchymyn llys wedi’i newid os ydynt yn anghytuno gyda’r hyn y penderfynwyd arno gan staff y llys. Os byddan nhw’n gwneud hyn, bydd y llys yn trefnu gwrandawiad yn eich llys lleol i benderfynu beth sy’n deg.

Fe allwch chi lawrlwytho ffurflenni’r llys oddi ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn: www.hmcourts-service.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithio allan eich cyllid a threfnu datganiad ariannol, gweler Sut i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu i gwblhau datganiad ariannol ar-lein.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael ffîoedd y llys wedi’u gostwng neu eu hepgor, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Gall fod yn anodd iawn i gael y llys i newid y gorchymyn. Fe allwch gael cymorth i gwblhau ffurflenni’r llys ac i weithio allan faint allwch chi ei fforddio i’w dalu oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch CAB agosaf.

Os na allwch chi fforddio talu unrhyw beth o gwbl

Os na allwch chi fforddio talu unrhyw beth o gwbl, fe ddylech chi wneud cais am gael y gorchymyn wedi newid trwy ddefnyddio ffurflen N244. Ffurflen gais gyffredinol ydyw hon. Bydd angen i chi esbonio ar y ffurflen pam na allwch chi nawr fforddio’r taliadau. Bydd angen i chi hefyd anfon datganiad ariannol ar wahân i ddangos pam fod hyn yn wir. Datganiad ydyw hwn sy’n dangos faint o arian sydd gennych yn dod i mewn i’r cartref, faint yr ydych yn ei wario a faint o arian sydd gennych ar ôl i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus.

Rhowch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl i esbonio’ch rhesymau a chofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n esbonio’ch sefyllfa. Er enghraifft, os na allwch chi weithio oherwydd salwch ac mae hyn yn golygu nad oes gennych yr arian i dalu’r ddyled, ceisiwch gynnwys rhywfaint o dystiolaeth feddygol, megis llythyr oddi wrth eich Meddyg lleol.

Dychwelwch y ffurflen i’r llys, gyda’r tâl am y cais. Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl neu efallai y caiff ei ostwng os ydych ar incwm isel.

Os na allwch chi fforddio talu unrhyw beth o gwbl, caiff eich achos ei gyfeirio at farnwr, fydd yn penderfynu beth i’w wneud mewn gwrandawiad. Mae’n well i chi ofyn am wrandawiad eich hun, er mwyn i chi gael cyfle i roi’ch achos gerbron y llys. Mae yna le ar y ffurflen N244 i chi wneud hyn.

Fe allwch chi lawr lwytho ffurflenni’r llys oddi ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn: www.hmcourts-service.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithio allan eich cyllid a threfnu datganiad ariannol, gweler Sut i weithio allan eich cyllideb. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio ein hofferyn cyllidebu i gwblhau datganiad ariannol ar-lein.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael ffîoedd y llys wedi’u gostwng neu eu hepgor, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Gall fod yn anodd iawn i gael y llys i newid y gorchymyn. Fe allwch gael cymorth i gwblhau ffurflenni’r llys ac i weithio allan faint allwch chi ei fforddio i’w dalu oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch CAB agosaf.

Cael gorchymyn llys wedi’i roi o’r neilltu

Os nad ydych yn cytuno fod arnoch chi’r arian neu os ydych yn credu fod camgymeriad wedi bod ynglŷn â’r ffordd y trafodwyd yr achos, fe allwch chi geisio cael y gorchymyn wedi’i roi o’r neilltu.

Allwch chi ddim gofyn am gael gorchymyn wedi’i roi o’r neilltu os ydych chi wedi cytuno fod arnoch chi’r arian.

Os ydych chi’n llwyddo i gael y gorchymyn wedi’i roi o’r neilltu, nid yw hyn yn cael gwared â’r ddyled. Fe fydd yn rhaid i chi o hyd ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus a gall y credydwr o hyd fynd nôl at y llys i’ch erlid am yr arian. Ond efallai y bydd yn rhaid iddynt ail ddechrau’r broses unwaith eto a byddai hyn yn rhoi mwy o amser i chi i ddatrys eich sefyllfa ariannol ac ad-dalu’r arian.

Mae’n anodd iawn cael gorchymyn llys wedi’i roi o’r neilltu ac mae’n rhaid bod gennych reswm da iawn dros ofyn am i hyn ddigwydd. Bydd y barnwr yn penderfynu os oes gennych achos da ai peidio. Mae’r rhesymau posibl dros gael gorchymyn wedi’i roi o’r neilltu yn cynnwys:

  • camgymeriad yn y dyfarniad gwreiddiol

  • wnaeth y llys ddim dilyn rheolau’r llys yn ystod y broses o wneud cais

  • wnaeth y credydwr ddim dilyn rheolau’r llys yn ystod y broses o wneud cais

  • mae gennych amddiffyniad dros y cais nad oeddech yn gallu ei wneud yn hysbys cyn hyn

  • doeddech chi ddim yn gallu mynychu gwrandawiad ac fe wnaed dyfarniad yn eich absenoldeb.

Bydd y barnwr wedyn yn penderfynu beth sy’n rheswm da dros golli’r gwrandawiad. Fel arfer gall salwch sydyn, damwain neu amgylchiadau annisgwyl eraill gyfrif fel rhesymau da. Neu efallai na chawsoch chi’r ffurflenni cais am eu bod wedi’u hanfon naill ai i’r cyfeiriad anghywir neu eu bod wedi eu colli yn y post.

Os colloch chi wrandawiad, bydd y barnwr hefyd yn penderfynu os oedd siawns dda gan eich achos i lwyddo ai peidio, trwy edrych ar eich dadleuon a’r dystiolaeth. Bydd angen i chi wneud cais arall i’r llys cyn gynted ag sy’n bosibl, fel arfer o fewn saith diwrnod i golli’r gwrandawiad.

Gall fod yn anodd iawn i gael gorchymyn llys wedi’i roi o’r neilltu. Fe allwch chi gael cymorth i edrych os oes gennych achos da i ofyn am i’r gorchymyn llys gael ei roi o’r neilltu, oddi wrth ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch CAB agosaf.

Defnyddio cwmni rheoli hawliadau

Mae cwmnïau rheoli hawliadau, a adwaenir hefyd fel aseswyr hawliadau, yn gwmnïau sy’n codi tâl arnoch am eich helpu i wirio os ydyw’ch cytundeb credyd yn gywir. Weithiau fe fyddan nhw’n hawlio y gallan nhw eich helpu i herio os yw cytundeb credyd yn gyfreithiol, yn y llys, hyd yn oed pan na fydd gennych reswm da dros ddadlau ynghylch y ddyled. Maen nhw hefyd yn hawlio y gallan nhw eich helpu i roi gorchymyn llys o’r neilltu.

Nid oes rhaid i chi dalu rhywun i gael y math hwn o help ac fe ddylech chi fynd i’r llys fel y cam olaf yn unig.

Yn Lloegr a Chymru, mae’n rhaid i gwmnïau rheoli hawliadau gael eu hawdurdodi gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Fe allwch chi wirio os yw cwmni rheoli hawliadau yn awdurdodedig neu beidio trwy chwilio ar wefan Rheoliadau Hawliadau. Ewch i: www.claimsregulation.gov.uk.

Fe allwch chi gael cymorth i roi gorchymyn llys o’r neilltu gan gynghorydd profiadol mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy e-bost, cliciwch CAB agosaf.

Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Credydwr yn mynd â chi i’r llys oherwydd dyled

Beilïaid

Credydwr yn tynnu arian o’ch cyflog

Credydwr yn tynnu arian o’ch cyfrif banc

Gorchmynion talu

Sut gall credydwr gael gwybodaeth am eich arian

Cymorth gyda dyled

Cymorth gyda chostau cyfreithiol

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 12 Mawrth 2021