Cael cyfrif banc

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych am gael cyfrif banc newydd, mae rhai pethau y mae angen i chi eu gwybod:

  • y prif fathau o gyfrifon banc, ac i beth y’u defnyddir

  • sut i agor cyfrif banc

  • y telerau ac amodau ar gyfer y gwahanol fathau o gyfrifon

  • sut i newid eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Mathau o gyfrifon banc

Mae yna fathau gwahanol o gyfrifon banc y gallwch eu defnyddio am resymau gwahanol. Yn y fan hon rydyn ni’n sôn wrthych am y prif fathau o gyfrifon banc, ac i beth y gallwch eu defnyddio.

Cyfrifon cyfredol

Fe allwch ddefnyddio cyfrif cyfredol i’ch helpu i reoli eich arian o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • talu’ch biliau

  • derbyn arian - megis eich cyflog neu fudd-daliadau

  • cadw golwg ar ble mae’ch arian yn mynd

Gall rhai cyfrifon cyfredol hefyd ennill llog i chi ar yr arian sydd gennych yn y cyfrif, er mae’n debyg y bydd hyn yn llai na sawl cyfrif cynilo.

Gyda chyfrif cyfredol, fe gewch chi lyfr siec y gallwch ei ddefnyddio i cymryd arian allan. Efallai y cewch chi gerdyn debyd hefyd y gallwch ei ddefnyddio mewn siopau a pheiriannau arian. Fe all y banc ganiatáu i chi gael gorddrafft a mynediad i fathau eraill o gredyd. Caniateir i chi drefnu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog.

Bydd rhai banciau yn gadael i chi newid siec personol cyfrif cyfredol neu ddefnyddio'ch cerdyn arian parod yn Swyddfa’r Post, am ddim. Gofynnwch i’ch swyddfa bost leol os allwch chi wneud hyn am ddim o’ch cyfrif cyfredol.

Cyfrifon cynilo

Fe allwch chi ddefnyddio cyfrifon cynilo i roi heibio arian yr hoffech chi ei gynilo ar gyfer y dyfodol, ar gyfer argyfyngau neu i brynu rhai pethau drud megis car newydd neu wyliau.

Bydd cyfrif cynilo yn rhoi llog i chi ar eich arian.

Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifon cynilo ar wefan Helpwr Arian. 

Help i Arbed

Os ydych yn cael credydau treth neu Gredyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i ymuno â chynllun Cymorth i Gynilo’r llywodraeth a chael 50c ychwanegol yn ôl am bob £1 y byddwch yn ei chynilo. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Help i Arbed ar GOV.UK.

Cyfrifon banc sylfaenol

Os oes gennych statws credyd gwael neu os ydych ar incwm isel, efallai y cewch chi broblem i agor cyfrif cyfredol safonol neu gyfrif cynilo. Efallai y cewch chi broblem hefyd os oes gennych gyfrif cyfredol lle rydych chi wedi gordynnu. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, efallai y gallwch chi agor cyfrif banc sylfaenol.

Fe allwch ofyn i fanc neu gymdeithas adeiladu am agor cyfrif banc sylfaenol. Rhaid i’r banc neu gymdeithas adeiladu roi gwybod i chi os ydyn nhw’n cynnig cyfrifon banc sylfaenol. Os ydyw, rhaid dweud wrthych beth yw’r amodau y mae’n rhaid i chi gwrdd â nhw er mwyn gallu agor y cyfrif.

Dylech allu cael cyfrif sylfaenol o hyd hyd yn oed os yw gwiriad credyd yn dangos bod gennych:

  • dyledion drwg yn y gorffennol

  • dyfarniadau llys sirol yn eich erbyn sy'n dal heb eu bodloni

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwiriadau archwiliad credyd a dyfarniadau llys sy’n aros, gweler Sut mae benthycwyr yn penderfynu a ydyn nhw’n mynd i roi credyd i chi ai peidio?

Os oes gennych gyfrif banc sylfaenol, fel arfer:

  • nid oes rhaid i chi fod ag unrhyw arian i’w roi yn y cyfrif i’w agor

  • nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd

  • fe allwch chi dalu’ch cyflog, budd-daliadau a chredydau treth yn syth i’ch cyfrif

  • fe allwch chi dalu i mewn sieciau ac arian parod

  • fe allwch chi dalu biliau trwy ddebyd uniongyrchol

  • fe allwch chi dynnu arian o beiriannau arian.

Mae yna rai anfanteision dros gael cyfrif banc sylfaenol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • fyddwch chi ddim yn gallu cael llyfr siec na gordynnu o’r cyfrif

  • os ydych chi wedi trefnu debyd uniongyrchol a does dim digon o arian i’w dalu, fe ellir codi tâl arnoch am hyn.

Ni ellir cael mynediad i bob cyfrif banc sylfaenol yn Swyddfa’r Post. Os ydych chi am wneud hyn, gwiriwch gyda’ch banc cyn i chi agor cyfrif banc sylfaenol.

Os oes gennych orddrafft neu ddyledion eraill ar eich cyfrif cyfredol a chwithau’n agor cyfrif banc sylfaenol yn yr un banc, fe allan nhw ddefnyddio’r arian yn eich cyfrif newydd i dalu dyledion yr hen un. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, credyd treth neu bensiwn y wladwriaeth, efallai yr hoffech ystyried agor eich cyfrif banc sylfaenol mewn banc neu gymdeithas adeiladu wahanol.

Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol ar wefan Helpwr Arian. 

Fe allwch chi gael fersiynau o’r wybodaeth hon mewn print bras, Braille neu ar fformat sain oddi wrth Llinell Gymorth Defnyddwyr yr FCA ar: 0800 111 6768.

Cyfrifon ar y cyd

Fe allwch chi hefyd agor cyfrif banc ar y cyd gyda phobol eraill. Er enghraifft, efallai y byddech chi am wneud hyn i reoli biliau’r cartref gyda rhywun sy’n rhannu’r cartref gyda chi, neu gyda’ch gwraig, gŵr neu bartner sifil.

Sut i agor cyfrif

I agor cyfrif banc mae’n rhaid i chi fel arfer gwblhau ffurflen gais. Yn aml, fe allwch wneud hyn mewn cangen neu ar-lein, ac weithiau fe allwch chi wneud hyn dros y ffôn hefyd.

Fe fydd rhaid i chi hefyd ddarparu prawf o bwy ydych chi yn cynnwys eich enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddangos dwy ddogfen wahanol i’r banc i brofi pwy ydych, er enghraifft, bil diweddar. Os nad oes gennych un o’r dogfennau y mae’r banc am eu gweld, fe ddylen nhw dderbyn llythyr oddi wrth berson cyfrifol sy’n eich adnabod, megis eich Meddyg Teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf.

Os ydych chi’n fethdalwr neu os oes gennych gofnod o dwyll, ni chaniateir i chi fel arfer agor cyfrif. Hefyd, efallai y gwrthodir caniatâd i chi agor cyfrif cyfredol os oes gennych statws credyd gwael. Fodd bynnag, os ydych yn fethdalwr neu os oes gennych statws credyd gwael, efallai y gallwch chi agor cyfrif banc sylfaenol.

Gall banc neu gymdeithas adeiladu wrthod agor cyfrif i chi. Nid oes yn rhaid iddyn nhw roi rheswm i chi a does dim byd y gallwch ei wneud ynglŷn â’r peth.

Gall rhai grwpiau o bobol megis cyn-garcharorion ei chael hi’n anodd tu hwnt i agor cyfrifon.

Fodd bynnag ni chaniateir i fanc na chymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, ar sail eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb. Os gwahaniaethir yn eich erbyn, fe allech chi gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Hefyd, efallai y gallwch chi fynd â’r achos i’r llys.

Fodd bynnag, mae yna rai amgylchiadau lle gall banc neu gymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, fe allan nhw wrthod caniatáu i chi agor rhai mathau o gyfrifon oni bai eich bod yn syrthio i grŵp oedran arbennig.

Am fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu. 

Os ydych chi’n credu fod banc neu gymdeithas adeiladu yn gwahaniaethu yn eich erbyn, fe ddylech chi gael cymorth oddi wrth gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn dod o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth lleol, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os nad oes gennych ganiatâd i fod yn y DU

Ni chaniateir i fanc neu gymdeithas adeiladu agor cyfrif ar gyfer rhywun sydd angen gwyliau o dan y Rheolau Mewnfudo i ddod i mewn i’r DU neu aros yn y DU ond nad oes ganddo, er enghraifft, rhywun sydd wedi dod i mewn i’r DU yn anghyfreithlon neu sydd wedi 'gor-aros' ar ôl i'w fisa ddod i ben. Os ydych yn y categori hwn hefyd ni ellir eich ychwanegu at gyfrif rhywun arall fel deiliad cyfrif ar y cyd na bod yn llofnodwr neu'n fuddiolwr mewn perthynas ag unrhyw gyfrif. Bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn cynnal gwiriadau statws i sicrhau nad ydych yn dod i mewn i'r categori hwn. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwrthod agor cyfrif i chi am y rheswm hwn ar wefan GOV.UK yn www.gov.uk.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch i brofi eich statws mewnfudo. 

Telerau ac amodau

Wrth i chi agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu ac yn defnyddio’u gwasanaethau, yr ydych yn mynd i gytundeb gyda nhw.

Bydd telerau’r cytundeb yn newid yn ôl y banc neu’r gymdeithas adeiladu a’r math o gyfrif neu wasanaeth arall a ddefnyddir gennych.

Cyn i chi agor cyfrif, fe ddylech chi gael gwybodaeth fydd yn eich helpu i ddewis y cyfrif sy’n addas i chi. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys y telerau a’r amodau a’r cyfraddau llog.

Ar ôl i chi agor y cyfrif, dylai’ch banc neu gymdeithas adeiladu eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth hon, er mwyn i chi wneud penderfyniadau ar sut i gael y gorau o’ch cyfrif.

Telerau ac amodau ar gyfer cyfrifon cyfredol, sylfaenol a chynilo mynediad parod

Os ydych chi’n agor cyfrif cyfredol, sylfaenol neu gynilo mynediad parod, fe ddylech chi hefyd gael gwybodaeth ychwanegol megis:

  • manylion am yr holl daliadau

  • sut bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn rhoi gwybodaeth i chi am eich cyfrif

  • unrhyw gyfyngiadau gwario ar eich cyfrif

  • beth i’w wneud os aiff pethau o le.

Dylid rhoi’r wybodaeth hon i chi mewn ffordd sy’n hawdd i chi i’w deall. Unwaith y byddwch chi wedi agor eich cyfrif, dylai’r banc neu gymdeithas adeiladu eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r telerau a’r amodau o leiaf ddeufis cyn i’r newidiadau ddigwydd.

Os oes newidiadau i delerau ac amodau eich cyfrif, fe allwch gau’r cyfrif pryd y mynnoch i fyny at 60 diwrnod o’r diwrnod y dywedwyd wrthych am y newidiadau. Nid oes rhaid i chi roi rhybudd na thalu taliadau ychwanegol.

Telerau ac amodau ar gyfer cyfrifon cynilo

Os ydych chi’n agor cyfrif cynilo ar wahân i’r cyfrif cynilo mynediad parod, rhoddir llai o wybodaeth fanwl i chi nag ar gyfer mathau eraill o gyfrifon. Gallai gael ei ddarparu mewn bocs crynodeb fydd yn eich helpu chi i gymharu gwahanol gyfrifon o wahanol fanciau a chymdeithasau adeiladu.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd i allu agor rhai cyfrifon.

Newid eich banc neu gymdeithas adeiladu

Os penderfynwch newid eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, fe ddylech chi ystyried:

  • pa daliadau fydd ynghlwm, er enghraifft, am gau eich cyfrif neu ganslo eich archebion sefydlog

  • os yw’r gwasanaethau a chyfleusterau a gynigir gan y banc neu gymdeithas adeiladu newydd yn well na’r rhai sy gennych yn barod

  • y ffaith y gallai fod yna oedi cyn gwneud taliadau trwy archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol. Fe ddylech chi gymryd hyn i ystyriaeth wrth i chi benderfynu ar ddyddiad cau eich cyfrif.

  • pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros cyn y gallwch chi ddefnyddio holl wasanaethau'r banc neu gymdeithas adeiladu newydd. 

Fe ddylech chi agor cyfrif newydd cyn cau’r hen un a gwneud yn siŵr eich bod yn canslo unrhyw archebion sefydlog neu ddebydau uniongyrchol cyfredol, neu symud y rhain i’ch cyfrif newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd unrhyw sieciau nas defnyddiwyd neu gardiau plastig (wedi’u torri’n ddarnau) i’ch hen fanc neu gymdeithas adeiladu.

Os ydych yn trosglwyddo gweddill i’ch cyfrif newydd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gadael digon o arian ar ôl yn yr hen gyfrif i sicrhau unrhyw sieciau sydd heb eu talu.

Os oes arnoch ddyled i’ch banc neu gymdeithas adeiladu presennol a chwithau’n dymuno cau’r cyfrif, efallai y cewch eich erlyn am yr arian sy’n ddyledus os nad ydych yn ei dalu wrth gau’r cyfrif.

Mae gan eich banc neu gymdeithas adeiladu newydd a hen gyfrifoldebau tuag atoch.

Bydd lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl oddi wrth eich hen fanc neu gymdeithas adeiladu yn dibynnu ar y ffaith os oes trefniant mewn lle rhwng eich hen fanc a’r un newydd ai peidio.

Lle nad oes trefniant, yr unig beth mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ei ddarparu ydyw gwasanaeth effeithiol i’ch helpu i gau’r cyfrif a rhaid iddo ddychwelyd unrhyw arian sy’n ddyledus i chi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw log.

Lle mae trefniant mewn lle, rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu drosglwyddo unrhyw weddill sy yn y cyfrif a gwneud trefniadau parthed debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog. Os oes camgymeriadau neu oedi yn y broses drosglwyddo sy’n arwain at daliadau banc, ni ddylech chi orfod talu amdanynt.

Cymorth ychwanegol

Am fwy o wybodaeth am fanciau a chymdeithasau adeiladu a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt, gweler Banciau a chymdeithasau adeiladu.

Fe all y wybodaeth hyn fod yn ddefnyddiol:

Helpwr Arian

Mae Helpwr Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Mae gan eu gwefan lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gynnyrch ariannol fel cyfrifon banc. Gallant hefyd roi cyngor i chi dros y ffôn ac ateb cwestiynau am gynhyrchion a gwasanaethau ariannol.

Gallwch ddarganfod sut i gael cyngor ariannol ar wefan Helpwr Arian.

Awdurdod Ymddygiad Ariannol

Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yw’r corff sy’n gyfrifol am reoleiddio banciau a chymdeithasau adeiladu.

Nid ydynt yn gallu trafod cwynion unigol, argymell cwmnïau na rhoi cyngor cyfreithiol nac ariannol. Ond, mae gan yr FCA ddiddordeb mewn clywed am achosion ble mae’n ymddangos bod banc neu gymdeithas adeiladu wedi torri eu hymrwymiadau. Efallai y gall yr FCA, ble mae’n briodol, ddirwyo’r banc neu gymdeithas adeiladu.

Rhif Ffôn y Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr yw 0800 111 6768

Cyfeiriad y wefan yw: www.fca.org.uk.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os ydych chi wedi mynd trwy trefn gwyno eich banc neu gymdeithas adeiladu a dydyn nhw ddim wedi gallu’ch helpu chi, fe allwch gwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ddatrys y broblem, oni bai eu bod yn anfon llythyr sefyllfa ddiddatrys atoch cyn diwedd yr wyth wythnos. Mae hwn yn lythyr sy’n dweud wrthych nad oes dim byd mwy y gallan nhw ei wneud i’ch helpu.

Rhaid i chi gwyno wrth yr Ombwdsmon o fewn chwe mis i dderbyn y llythyr sefyllfa ddiddatrys, neu o ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos os na chewch chi lythyr sefyllfa ddiddatrys. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw cofnod o’r dyddiad pan gwynoch chi gyntaf wrth y banc.

Financial Ombudsman Service

Exchange Tower

Llundain 

E14 9SR

Llinell gymorth defnyddwyr: 0800 023 4567 (rhad ac am ddim i bobl sy’n ffonio o linell dir) neu 0300 123 9123 (rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ffôn symudol sy’n talu ffi misol am alwadau i rifau sy’n dechrau gyda 01 neu 02) (Llun – Gwener 8.00yb-6.00yh; Sadwrn 9.00yb-1.00yp)

E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk

Gwefan: www.financial-ombudsman.org.uk

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsmon. 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.