Stopping debit and credit card payments

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os byddwch chi'n cytuno y gall rhywun gymryd arian o'ch cerdyn credyd neu ddebyd yn y dyfodol, a elwir yn awdurdod i gymryd taliadau parhaus, gallwch chi ganslo'r taliad cyn iddo gael ei gymryd. Mae hyn yn berthnasol i:

  • daliadau untro, er enghraifft, i ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog

  • taliadau rheolaidd, fel taliadau aelodaeth o gampfa neu danysgrifiad i gylchgrawn.

Nid yw'r rheolau yn ymwneud â chanslo taliadau cerdyn yn y dyfodol yn berthnasol i nwyddau neu wasanaethau a brynir, megis mewn siop neu dalu bil gwesty.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych am yr adegau hynny pan fyddwch yn medru rhwystro taliad ar gerdyn, sut i rwystro taliadau ar gerdyn a'r hyn fedrwch chi ei wneud os nad yw darparwr y cerdyn yn unioni'r cam.

Fe fydd yn rhaid i chi dalu am y nwyddau neu'r gwasanaeth o hyd

Os ydych yn rhwystro taliadau sy'n gysylltiedig â chytundeb arall, fel benthyciad neu aelodaeth i glwb neu gampfa neu danysgrifiad i gylchgrawn, fe fydd angen i chi wneud trefniadau eraill i dalu'r arian y cytunoch i'w dalu.

Rhwystro taliad ar gerdyn

Yn ôl y gyfraith, rydych yn medru tynnu'ch caniatâd yn ol a rhwystro taliad ar gerdyn ar unrhyw adeg, hyd at ddiwedd oriau busnes ar y diwrnod cyn y trefnwyd i'r taliad adael eich cyfrif.

Rydych yn medru tynnu'ch caniatâd yn ol trwy ddweud wrth y sawl sydd wedi rhoi'r cerdyn i chi (y banc, y gymdeithas adeiladu neu gwmni'r cerdyn credyd) nad ydych am barhau gyda'r taliad. Rydych yn medru dweud wrth gwmni'r cerdyn credyd dros y ffôn, trwy e-bost neu mewn llythyr.

Nid oes hawl  gan y cwmni sydd wedi rhoi'r cerdyn i chi fynnu eich bod yn gofyn i'r cwmni sy'n cymryd y taliad yn gyntaf. Rhaid iddo rwystro'r taliadau os ydych yn gofyn iddo wneud hynny.

Os byddwch yn gofyn am i daliad gael ei ganslo, dylai pwy bynnag a roddodd y cerdyn i chi ymchwilio i bob achos yn unigol. Ni ddylai ddefnyddio polisi o wrthod ad-dalu taliadau a wnaed pan roddodd y cleient rif ei gyfrif iddo.

Dylech ddweud wrth y cwmni sydd wedi rhoi'r cerdyn i chi y dylai ddilyn canllawiau Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA) sydd ar gael yn llyfryn Know your rights yr FSA sydd ar wefan yr FSA yn www.fsa.gov.uk.

Canslo'r taliad dros y ffôn

Os ydych yn ffonio, mae'n syniad da i anfon nodyn ysgrifenedig i ddilyn yr alwad fel bod prawf gennych o'r cyfarwyddyd i ganslo. Ond, dylai'r cwmni dderbyn eich galwad ffôn fel y cyfarwyddyd i rwystro'r trefniant ar unwaith, ac ni ddylai aros i chi gadarnhau'n ysgrifenedig.

Os yw'r sawl sydd ar ochr arall y ffôn yn dweud nad ydych yn medru rhwystro'r taliadau, gofynnwch am gael siarad â rhywun sy'n uwch i fyny. Os nad yw'n fodlon rhwystro'r taliadau o hyd, gofynnwch iddyn nhw wneud cofnod o'ch galwad ar eich cyfrif er mwyn i chi fedru cyfeirio ato yn nes ymlaen os oes angen. Sicrhewch eich bod yn cadw nodyn o'r dyddiad, yr amser a'r sawl yr oeddech wedi siarad ag ef/hi hefyd, rhag ofn bod angen i chi gwyno.

Os na fydd darparwr y cerdyn yn rhwystro'r taliadau

Os yw darparwr y cerdyn yn parhau ac yn gadael i daliad gael ei gymryd, a chithau wedi gofyn iddo beidio, mae gennych yr hawl i gael eich arian yn ôl.Bydd hefyd yn gorfod canslo unrhyw log a ffioedd a ychwanegwyd at eich cyfrif am iddo adael i’r taliad gael ei gymryd.

Cael eich arian yn ôl

Os nad yw'ch banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd yn ad-dalu'ch arian am daliad na ddylai fod wedi ei ganiatáu, ysgrifennwch a gofyn am eich arian yn ôl dan weithdrefn gwyno'r cwmni.

Os nad ydych yn fodlon o hyd, fe allwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Fe allwch gysylltu â llinell gymorth Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar 0300 123 9 123 neu rhowch glic ar y wefan yn: www.financial-ombudsman.org.uk.

Podcasts

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Medi 2023