Cael y ddêl orau ar gredyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Cael y ddêl orau ar gredyd

Mae yna sawl ffordd o fenthyg arian. Enw arall ar fenthyg arian yw credyd.

Cyn i chi fenthyg arian, mae’n bwysig i chi sicrhau eich bod yn cael y ddêl orau bosib ac y byddwch yn medru cadw i fyny gyda’r taliadau. Os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r ad-daliadau, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys ac fe allech golli’ch cartref neu eiddo gwerthfawr arall.

Mae’r dudalen hon yn dweud beth sydd angen i chi feddwl amdano cyn i chi lofnodi unrhyw beth. Mae’n dweud:

Mae yna restr wirio o gwestiynau i’ch helpu i gael y ddêl orau ar gredyd hefyd.

Dewis y math o fenthyg i’w ddefnyddio

Mae yna sawl ffordd o fenthyg arian. Mae gwahanol fathau o fenthyg yn addas at sefyllfaoedd gwahanol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahanol fathau o fenthyg, gweler Credyd.

Os oes hanes credyd gwael gennych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy am fenthyg. Mae llawer o fenthycwyr yn cynnig benthyciadau neu gardiau credyd, gydag amrywiaeth o gyfraddau llog sy’n amrywio yn ôl eich hanes credyd. Os ydych yn ei chael yn anodd cael benthyciad neu gredyd, mae’n werth holi os oes undeb credyd gennych yn eich ardal.

I ddod o hyd i undeb credyd yn eich ardal chi ac i weld beth mae’ch undeb credyd yn ei gynnig, rydych yn medru:

  • chwilio cronfa ddata ABCUL (Cymdeithas Undebau Credyd Prydain) yn: www.abcul.org.uk

  • ffonio ABCUL ar 0800 015 3060

  • chwilio ar wefan ACE Credit Union Services yn: www.acecus.org/pages

  • yn yr Alban, chwilio gwefan aelodau Cynghrair Undebau Credyd yr Alban yn: www.scottishcu.org.

  • chwilio yn eich llyfr Yellow Pages lleol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwirio’ch hanes credyd, gweler Credyd yn cael ei wrthod, yn Credyd.

Chwilio am ddêl gredyd

Unwaith fyddwch chi wedi dewis y math o fenthyg sy’n addas i chi, fe fyddwch yn medru chwilio am y ddêl gredyd orau. I gael y ddêl orau sydd ar gael, mae angen i chi dreulio ychydig o amser yn ymchwilio i weld beth sydd ar gael gan fenthycwyr gwahanol. Mae’n syniad da cael ambell ddyfynbris fel eich bod yn medru cymharu costau a thelerau eraill y cytundeb. Ewch â gwybodaeth adref gyda chi i’w darllen os fedrwch chi, i roi amser i chi i’w darllen a’i deall.

Os ydych yn benthyg ar y cyd gyda rhywun arall, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr holl amodau a thelerau. Os nad ydych yn siŵr ynghylch unrhyw beth, holwch cyn llofnodi’r cytundeb.

Cymharu cost deliau credyd

Mae cost credyd yn medru amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar y benthyciwr a’r math o ddêl yr ydych yn ei ddewis. Dyma beth ddylech chwilio amdano wrth gymharu cost deliau credyd:

  • y Gyfradd Canran Flynyddol (APR)

  • y math o gyfradd llog – cyfraddau amrywiol a sefydlog

  • ffioedd a thaliadau

  • yswiriant.

Y Gyfradd Canran Flynyddol (APR)

Y Gyfradd Canran Flynyddol, neu’r ‘APR’, yw’r ffordd arferol o ddangos cost benthyg. Mae’r APR yn cael ei chyfrifo trwy ystyried y canlynol:

  • y gyfradd llog

  • taliadau eraill y mae’n rhaid i chi eu talu

  • am ba mor hir mae’r cytundeb yn para

  • faint yw’r ad-daliadau a phryd mae angen eu talu.

Mae yna rai taliadau sydd ddim wedi eu cynnwys yn yr APR. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel taliadau yr ydych yn eu gwneud os ydych yn ad-dalu’r benthyciad yn gynnar.

Rhaid i fenthycwyr ddweud wrthych faint yw’r APR cyn i chi lofnodi cytundeb. Mae’r APR yn amrywio o fenthyciwr i fenthyciwr a rhwng gwahanol fathau o gredyd. Rydych yn medru defnyddio’r APR i gymharu deliau sydd ar gael. Yn gyffredinol, gorau po isaf yw’r APR i chi, felly os ydych yn ystyried benthyg, cofiwch chwilio i weld beth sydd ar gael.

Mae cymharu’r APR yn gweithio orau os ydych yn cymharu mathau tebyg o gredyd dros yr un cyfnod ad-dalu. Er enghraifft, benthyciadau am yr un faint i gael eu had-dalu dros yr un nifer o flynyddoedd.

Mae’r tabl isod yn enghraifft o’r ffordd y mae gwahanol gyfraddau APR yn medru effeithio ar y swm y buasech yn ei ad-dalu petaech yn benthyg £1,000 dros ddeng mlynedd:

APR Byddwch yn talu cyfanswm o:
APR
5%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£1,266
APR
10%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£1,557
APR
15%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£1,867
APR
20%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£2,191
APR
25%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£2,523
APR
30%
Byddwch yn talu cyfanswm o:
£2,860

Cyfraddau llog amrywiol a sefydlog

Holwch os yw’r gyfradd llog (sydd wedi ei chynnwys yn yr APR) yn gyfradd amrywiol neu sefydlog.

Efallai y bydd llog cyfradd amrywiol yn newid yn ystod y cytundeb. Os yw’r gyfradd yn un amrywiol, fe allai’ch ad-daliadau fynd i fyny neu i lawr.

Nid oes modd newid llog cyfradd sefydlog unwaith fyddwch chi wedi llofnodi’r cytundeb. Os yw’r gyfradd yn sefydlog, fe fydd eich ad-daliadau yn aros yr un peth.

Ffioedd a thaliadau heb eu cynnwys yn yr APR

Holwch y benthyciwr os oes unrhyw gostau sydd ddim wedi eu cynnwys yn yr APR. Er enghraifft, efallai na fydd unrhyw rai o’r taliadau canlynol wedi eu cynnwys:

  • ffioedd trefnu (ar gyfer benthyciadau) neu ffi am drosglwyddo gweddill (ar gyfer cardiau credyd). Fel arfer, mae’n cael ei ychwanegu at y cyfanswm ac rydych yn talu llog arno hefyd

  • ffioedd adbryniant cynnar. Mae rhai benthycwyr yn codi tâl ychwanegol os ydych yn ad-dalu benthyciad yn gynnar

  • nwyddau drutach. Weithiau, fe fydd y benthyciwr yn codi mwy arnoch am nwyddau os ydych yn eu prynu gan ddefnyddio credyd

  • ffioedd am dalu’n hwyr neu golli taliadau. Mae’r rhain yn medru cynyddu’r swm y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn sylweddol.

Yswiriant

Mae llawer o fenthycwyr yn ceisio gwerthu polisi yswiriant i chi fel rhan o’r ddêl gredyd. Fe fydd y rhain yn talu’ch ad-daliadau os na fyddwch yn medru ennill arian oherwydd salwch neu ddiweithdra. Weithiau, mae cost yr yswiriant yma’n cael ei ychwanegu at swm y benthyciad ac fe fydd yn cynyddu’r llog yr ydych yn gorfod ei dalu. Am fwy o wybodaeth ynghylch y math yma o yswiriant, gweler Yswiriant diogelu taliadau.

Deall amodau a thelerau’r ddêl gredyd

Pan fyddwch chi’n benthyg arian, fe fyddwch chi a’r benthyciwr yn llofnodi cytundeb credyd. Mae’n nodi manylion yr holl bethau yr ydych chi a’r benthyciwr yn cytuno i’w gwneud fel rhan o’r ddêl. Gelwir hyn yn amodau a thelerau’r cytundeb.

Cofiwch ddarllen y print bach cyn i chi lofnodi unrhyw beth. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y rhan fwyaf o fenthycwyr i ddarparu gwybodaeth cyn llofnodi cytundeb ac fe fyddwch yn medru mynd â’r wybodaeth gyda chi i’w hastudio. Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu’n cynnwys:

  • swm y credyd

  • cyfanswm y taliadau am y credyd

  • y gyfradd llog

  • manylion ad-dalu, er enghraifft, y nifer o ran-daliadau a phryd mae angen eu talu

  • datganiadau ynghylch hawliau diogelu defnyddwyr a’r hyn fedrwch chi ei wneud os oes rhywbeth yn mynd o’i le.

Mae rhai benthycwyr yn gosod amod eich bod yn cynnig eich eiddo, fel arfer eich cartref, fel sicrwydd ar gyfer y benthyciad. Gelwir hyn yn fenthyciad diogel. Os nad ydych yn cadw i fyny gyda’r ad-daliadau, mae’r benthyciwr yn medru dwyn achos llys yn eich erbyn i adfeddiannu’r eiddo.

Fe fydd trefniadau ad-dalu yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o fenthyg. Mae’r benthyciwr yn medru dweud pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer ad-dalu’r benthyciad. Fel arfer, rhaid ad-dalu benthyciadau gan y banc trwy ddebyd uniongyrchol yn syth o gyfrif banc, felly mae angen i chi sicrhau bod y trefniadau iawn mewn lle gennych.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cytundebau credyd, gweler Credyd.

Sicrhau eich bod yn medru fforddio’r ad-daliadau

Mae’n syniad da cyfrifo faint o arian sy’n dod i mewn i’ch cartref a faint yr ydych yn ei wario. Dyma’ch cyllideb. Fe fydd cyfrifo’ch cyllideb yn eich helpu i sicrhau bod digon o incwm sbâr gennych i fforddio taliadau’r benthyciad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifo’ch cyllideb, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Cofiwch, fe fydd angen i chi fedru cadw i fyny gyda’r ad-daliadau am gyfnod cyfan y benthyciad. Os ydych yn gwybod am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau sy’n debygol o ddigwydd yn ystod oes y benthyciad, er enghraifft, newid mewn incwm, meddyliwch sut fyddwch chi’n rheoli’ch ad-daliadau.

Mae gwasgaru’r benthyciad dros gyfnod hirach yn medru golygu rhan-daliadau llai, sy’n medru bod yn fwy fforddiadwy. Ond mae hyn yn golygu y byddwch yn talu mwy yn y pendraw.

Ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian, mae yna gyfrifydd ar-lein sy’n medru eich helpu i benderfynu os ydych yn medru fforddio’r ad-daliadau, a chymharu’r benthyciadau gwahanol. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Yswiriant diogelu taliadau

Fe fydd yswiriant diogelu taliadau yn talu’ch ad-daliadau mewn rhai amgylchiadau penodol, fel colli eich swydd neu os ydych i ffwrdd yn sâl am gyfnod hir o amser. Ond, efallai na fydd y math yma o yswiriant yn addas i chi. Er enghraifft, nid ydyw’n addas os ydych yn hunangyflogedig neu eisoes wedi cael gwybod bod salwch arnoch.

Os cewch gynnig yswiriant diogelu taliadau fel rhan o’r ddêl gredyd, holwch o gwmpas i weld os fyddai’n well i chi ei brynu ar wahân gan ddarparwr arall.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant diogelu taliadau, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Yswiriant diogelu taliadau yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

Mae yna wybodaeth ar yswiriant diogelu taliadau ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian hefyd, yn:  www.moneyadviceservice.org.uk.

Rhestr wirio o gwestiynau i’ch helpu i gael y ddêl orau ar gredyd

Dylai’r rhestr ganlynol o gwestiynau eich helpu i benderfynu os yw dêl gredyd yn iawn i chi.

Ynglŷn â fy sefyllfa bersonol

  • faint fedrai fforddio ei ad-dalu bob mis?

  • am faint o amser ydw i eisiau talu?

  • ydw i’n disgwyl newid yn fy amgylchiadau yn ystod cyfnod y benthyciad? Os ydw i, sut fydd yn effeithio ar fy ngallu i ad-dalu?

  • pa ddull talu sydd orau i mi?

Ynglŷn â’r ddêl gredyd

  • faint fydd yn costio i mi? Sut mae hyn yn cymharu gyda deliau tebyg?

  • ai dyma’r gyfradd APR orau fedrai ei chael?

  • a oes unrhyw daliadau eraill heb eu cynnwys yn yr APR?

  • a fydd y llog yn aros yr un peth?

  • a oes taliadau ychwanegol os ydw i’n talu’r benthyciad yn ôl yn gynnar?

  • beth os ydw i’n colli taliad?

  • faint sy’n rhaid i mi ei dalu bob mis ac am faint o amser?

  • beth yw’r cyfanswm fydd yn rhaid i mi ei ad-dalu?

  • a yw’r benthyciwr angen sicrwydd?

  • ydw i’n deall y cytundeb credyd yr ydw i ar fin ei lofnodi’n iawn?

  • ydw i’n cael mynd â’r cytundeb credyd gyda mi i feddwl amdano?

Help a gwybodaeth bellach

Ar Adviceguide

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch rheoli eich arian, morgeisi, yswiriant a chynnyrch ariannol eraill. Mae yna gyfrifydd benthyciadau ar-lein hefyd, sy’n medru eich helpu i benderfynu a ydych yn medru fforddio’r ad-daliadau, a chymharu gwahanol fenthyciadau. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

ABCUL (Cymdeithas Undebau Credyd Prydain)

Mae gwybodaeth ynghylch undebau credyd ar gael gan ABCUL trwy:

Ace Credit Union Services

Mae gwybodaeth ar undebau credyd ar gael trwy chwilio ar wefan ACE Credit Union Services yn: www.acecus.org/pages.

Cynghrair Undebau Credyd yr Alban

Yn yr Alban, mae gwybodaeth ynghylch undebau credyd ar gael ar wefan aelodau Cynghrair Undebau Credyd yr Alban yn: www.scottishcu.org.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Mawrth 2021