Awgrymiadau ar gyfer benthyg

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Dyma rhai awgrymiadau i’ch helpu pan ydych yn benthyg arian, cael benthyciad neu ddefnyddio cardiau credyd:

  • dylech dreulio amser yn chwilio am y cynllun gorau, ymchwilio’r hyn sy’n cael ei gynnig a mynnu cyngor. Mae’n bosib yr ydych yn meddwl y byddai’n cymryd gormod o amser os oes angen benthyciad arnoch ar unwaith ond byddwch ar eich colled am flynyddoedd os na wnewch hyn

  • dylech bob amser edrych ar y cyfanswm y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu pan ydych yn benthyg arian. Mae’n bosib bod cyfnod ad-dalu byrrach yn well na swm Cyfradd Canrannol Blynyddol ychydig yn is

  • sicrhewch eich bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng benthyciadau wedi’u gwarantu a rhai sydd heb eu gwarantu. Mae benthyciad wedi’i warantu yn golygu y gallwch golli eich cartref os ydych yn mynd ar ei hôl hi gyda’r taliadau

  • cyfrifwch eich cyllideb cyn benthyg arian er mwyn sicrhau eich bod yn gallu fforddio’r ad-daliadau

  • peidiwch byth â benthyg arian yng ngwewyr y foment. Os ydych yn prynu rhywbeth drud megis car neu gelfi, ystyriwch yr holl opsiynau talu o flaen llaw. Mae’r credyd a gynigir gan werthwyr yn gallu bod yn ddrutach nag opsiynau eraill

  • byddwch yn ofalus pan ydych yn benthyg mwy o arian i dalu dyledion sydd gennych eisoes. Gall benthyg ychwanegol ymddangos fel syniad da a gallai eich helpu yn y byrdymor, ond gall arwain at broblemau hirdymor mwy difrifol

  • os ydych yn meddwl am gael yswiriant gwarchod taliadau gyda benthyciad, gwnewch yn siŵr eich bod wir ei angen. Gwiriwch nad oes gennych yr yswiriant hwn yn barod a darllenwch delerau’r polisi yn ofalus i weld os yw’n ateb eich anghenion. Nid yw llawer o bolisïau yn gymwys mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft, os ydych yn hunangyflogedig, dros oed ymddeol neu os oes gennych gyflwr meddygol

  • byddwch yn hynod o ofalus pan ydych yn llofnodi cynlluniau di-log. Dim ond os ydych yn eu had-dalu o fewn cyfnod penodol o amser y maen nhw’n ddi-log. Os nad ydych yn eu had-dalu o fewn cyfnod penodol o amser, byddwch yn talu cyfradd llog uchel iawn

  • edrychwch allan am y cynnig o egwyl mewn taliadau ar gardiau credyd a chytundebau benthyg. Mae hyn yn golygu y gallwch stopio talu am gyfnod byr, ond codir llog ychwanegol arnoch pan ydych yn ailddechrau talu. Felly gall ymddangos fel petaech yn arbed arian ond mewn gwirionedd mae’n ffordd o’ch gorfodi i dalu mwy o log i’ch benthyciwr.

  • os ydych yn meddwl am gael morgais gyda llog newidiol, gofynnwch beth fydd eich taliad misol os bydd cynnydd o 2% yn y gyfradd. Os byddwch yn ei chael yn anodd talu hwn, mae’n bosib y bydd cyfradd llog sefydlog yn fwy addas ar eich cyfer chi

  • dylech bob amser geisio talu o leiaf 10% o gyfanswm eich cardiau credyd bob mis. Os ydych yn talu’r lleiafswm yn unig, byddwch yn talu am byth

  • peidiwch â gordynnu heb ganiatâd. Codir llai o dâl arnoch os ydych yn trefnu gorddrafft o flaen llaw

  • peidiwch â benthyg gan Siarcod Benthyg. Os ydych yn ei chael yn anodd cael credyd, dylech chwilio am Undeb Credyd yn eich ardal chi neu ddarganfod os allwch fenthyg o’r Gronfa Gymdeithasol.

Am fwy o gymorth a gwybodaeth am fenthyg arian, gan gynnwys cardiau credyd, yswiriant gwarchod taliadau, benthyciadau wedi’u gwarantu a siarcod benthyg, gweler Benthyca arian.

Am fwy o gymorth a gwybodaeth ynglŷn â chyllidebu, gweler Cyllidebu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.