Hurbrynu a gwerthu amodol sale

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â hurbrynu a gwerthu amodol

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio’r hyn yw cytundebau hurbrynu a gwerthu amodol. Eglura eich hawliau os hoffech ddod â’r cytundeb i ben a hawliau’r benthyciwr os nad ydych chi’n talu.

Hurbrynu

Math o fenthyca yw hurbrynu. Mae’n wahanol i fathau eraill o fenthyciadau oherwydd nad ydych yn berchen ar y nwyddau tan eich bod wedi talu’r cyfanswm. O dan gytundeb hurbrynu, rydych yn hurio’r nwyddau ac yna rydych yn talu swm penodedig mewn rhandaliadau. Tra’ch bod yn talu, nid oes hawl gennych i werthu neu gael gwared ar y nwyddau heb ganiatâd y benthyciwr. Os ydych yn gwneud hyn, rydych yn cyflawni trosedd.

Mae’n bosib y bydd y benthyciwr yn gallu adfeddiannu’r nwyddau (eu cymryd yn ôl) os nad ydych yn talu.

Gwerthu amodol

Mae gwerthu amodol yn debyg i hurbrynu [link to heading Hurbrynu]. Mae’r cytundeb fel arfer yn nodi nad chi sy’n berchen ar y nwyddau nes eich bod wedi talu’r rhandaliad olaf a gallai’r benthyciwr adfeddiannu’r nwyddau (eu cymryd yn ôl) os nad ydych yn talu.

Eich hawl i ddod â chytundeb hurbrynu neu werthu amodol i ben

Gallwch ddod â chytundeb hurbrynu neu werthu amodol i ben (terfynu’r cytundeb) yn ysgrifenedig a dychwelyd y nwyddau unrhyw bryd. Gallai hyn fod yn gynorthwyol os na allwch fforddio’r taliadau mwyach neu os nad oes angen y nwyddau arnoch nawr.

Bydd angen i chi dalu’r holl randaliadau tan eich bod yn dod â’r cytundeb i ben. Os yw cyfanswm eich taliadau yn werth llai na hanner pris y nwyddau, mae’n bosib y bydd dal angen i chi dalu ychydig o arian gan fod hawl gan y benthyciwr i dderbyn y swm hwn dan amodau’r cytundeb. Os ydych eisoes wedi talu mwy na hanner y pris pan ydych am ddod â’r cytundeb i ben, ni allwch gael ad-daliad ond fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu rhagor.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai bod arian yn ddyledus gennych neu beidio, gwiriwch y cytundeb credyd gwreiddiol a ddylai ddangos pris y nwyddau a’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu os ydych yn dod â’r cytundeb i ben. Y cytundeb credyd yw’r ddogfen gyfreithiol a lofnodoch pan brynoch y nwyddau.

Mae benthycwyr weithiau yn dweud bod yn rhaid talu’r swm llawn sy’n ddyledus dan amodau’r cytundeb cyn y gallwch ei derfynu. Mae hyn yn anghywir. Os yw hyn yn digwydd, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Pryd gall y benthyciwr adfeddiannu’r nwyddau

Os yw’r benthyciwr yn dod â’r cytundeb i ben, er enghraifft, oherwydd eich bod ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae’n bosib y gall adfeddiannu’r nwyddau. Fel arfer, bydd angen gorchymyn llys i wneud hyn. Fodd bynnag, os ydych wedi talu llai na thraean o’r cyfanswm, nid oes angen gorchymyn llys ar y benthyciwr. Dylai’r cytundeb ddweud faint yw traean.

Bydd y benthyciwr yn gwerthu’r nwyddau a adfeddianwyd mewn arwerthiant a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu’r ddyled. Os nad oes digon o arian i dalu’r cyfanswm, bydd angen i chi dalu faint sy’n weddill ynghyd â chostau’r llys. Mae’n werth gofyn i’r benthyciwr a allwch werthu’r nwyddau eich hun oherwydd yn aml cewch chi fwy o arian amdanynt.

Am fwy o wybodaeth am ddelio â dyledion, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Help gyda dyled. Yn yr Alban, gweler Help gyda dyled.

Gallwch gael help i ddelio â’ch dyledion gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Beth i’w wneud os ydych yn ei chael hi’n anodd talu

Os ydych yn ei chael hi’n anodd ad-dalu ar gytundeb hurbrynu neu werthu amodol, mae’n bosib y byddai’n well i chi ddod â’r cytundeb i ben eich hun. Bydd hyn yn cyfyngu ar y swm sy’n ddyledus gennych. Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, gall y benthyciwr ddod â’r cytundeb i ben ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy.

Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau a’ch bod yn ansicr ynghylch yr hyn i’w wneud nesaf, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Yswiriant gwarchod taliadau

Mae llawer o gytundebau hurbrynu neu werthu amodol yn cynnwys Yswiriant Gwarchod Taliadau. Gwiriwch p’un ai y gallwch hawlio’r yswiriant hwn, er enghraifft, i’ch helpu gyda’ch taliadau os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.

Os ydych chi neu’r benthyciwr yn dod â’r cytundeb hurbrynu neu werthu amodol i ben, mae’n bosib y byddwch am ddileu’r yswiriant ar wahân oherwydd caiff ei ystyried yn aml fel cytundeb ar wahân. Dylech bob amser wneud hyn yn ysgrifenedig.

Os nad ydych yn siwr p’un ai bod yswiriant yn rhan o’ch cytundeb hurbrynu, gofynnwch i ymgynghorydd, er enghriafft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth, i wirio eich cytundeb. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyca a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Mae’n bosib y byddai’r wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.