Cwynion am wasanaethau cymdeithasol - defnyddio'r weithdrefn gwynion

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae gan eich awdurdod lleol (ALl) weithdrefn arbennig i ymdrin â chwynion am wasanaethau cymdeithasol. Sut mae'n gweithio? Mae’r ateb ar y dudalen hon.

Gwneud cwyn

Gallwch chi gyflwyno’ch cwyn i unrhyw un sy'n gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid iddyn nhw gofnodi'r gŵyn a hysbysu Swyddog Cwynion yr Awdurdod Lleol (ALl).

Does dim rhaid i'ch cwyn fod yn ysgrifenedig. Os ydych chi'n cwyno dros y ffôn neu ar lafar, dylech gadw nodyn o'r hyn a ddywedwyd. Os ydych chi'n cwyno'n ysgrifenedig, dylech gadw copi o'r llythyr, yr e-bost neu’r ffacs.

Efallai y gall eich cynghorydd lleol eich helpu chi i wneud cwyn am y gwasanaethau cymdeithasol. I ddarganfod sut i gysylltu â'ch cynghorydd, ffoniwch swyddfeydd eich cyngor neu edrychwch ar wefan eich cyngor.

Camau'r weithdrefn gwynion

Mae dau gam i'r weithdrefn gwyno:

• Cam 1 - ceisio datrys pethau gyda'r gwasanaeth lleol

• Cam 2 - cael rhywun arall i ymchwilio i'ch cwyn

Ar gyfer cwynion a wnaed cyn 1 Awst 2014, gall fod Cam 3 hefyd - mynd â'ch cwyn at banel annibynnol.

Os yw'n well gennych, gallwch benderfynu peidio â defnyddio Cam 1 a mynd yn syth i Gam 2. Er enghraifft, os nad ydych yn gyffyrddus yn trafod gyda staff sy'n agos at y bobl sy'n gysylltiedig â'r gŵyn.

Gall trefniadau arbennig fod yn berthnasol os yw'r gŵyn yn cynnwys mwy nag un ALl, neu'r ALl a sefydliad arall, er enghraifft ysbyty'r GIG.

Efallai y bydd oedi i'r weithdrefn gwyno os bydd ymchwiliadau eraill yn cael eu cynnal, er enghraifft, ymchwiliad gan yr heddlu.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y broses gwynion a chael copi o'r canllawiau a roddwyd i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ynghylch ymdrin â chwynion.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.