Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cyflwr gwael – pa gyfrifoldeb sydd ar y landlord?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rhaid i’r landlord wneud unrhyw beth mae eich cytundeb tenantiaeth yn ei ddweud sy’n orfodol.

Mae eich landlord hefyd yn gyffredinol gyfrifol am drwsio a chadw trefn ar:

• strwythur eich cartref a’r hyn sydd tu allan, fel y waliau, y to, y sylfeini, y draeniau, y cafnau a’r peipiau glaw allanol, y ffenestri a’r drysau allanol

• basnau, sinciau, baddonau, toiledau a’r peipiau cysylltiedig

• peipiau dŵr a nwy, gwifrau trydan, tanciau dŵr, boeleri, rheiddiaduron, tanau nwy, tanau trydan sefydlog neu wresogyddion sefydlog.

Does dim hawl tynnu dim un o’r uchod o’ch cytundeb tenantiaeth. Hefyd, does dim hawl gan y landlord i drosglwyddo cost unrhyw atgyweiriadau i chi os mai cyfrifoldeb y landlord yw e.

Dim ond pan fydd eich landlord yn gwybod bod problem yn bodoli y bydd disgwyl iddo wneud atgyweiriadau – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y landlord am unrhyw atgyweiriadau sydd angen eu gwneud.

Rhagor am roi gwybod i’r landlord am atgyweiriadau

Gydag unrhyw denantiaeth a gychwynnodd ar 15 Ionawr 1989 neu ar ôl hynny, mae’r atgyweiriadau hyn yn cynnwys y rhannau cyffredin o’r adeilad hefyd, er enghraifft, y cyntedd, y grisiau a’r lifftiau.

Esgeulustod

Yn gyffredinol ystyr esgeulustod yw sefyllfa lle na ddylai landlord achosi anaf neu niwed i chi o ganlyniad i’w ymddygiad diofal neu esgeulus.

Er enghraifft, byddai modd dweud bod eich landlord yn esgeulus os nad yw’n atgyweirio’r gwaith sydd ei angen yn eich cartref ar ôl i chi ddweud wrtho amdano, ac o ganlyniad eich bod chi’n anafu eich hun neu fod difrod yn cael ei wneud i’ch eiddo. Gallai hefyd fod yn esgeulus os byddai’r gwaith atgyweirio wedi ei gyflawni mewn ffordd beryglus neu ddiofal.

Niwsans preifat

Niwsans preifat yw pan fo rhywbeth mewn adeilad arall neu ran gyffredin o adeilad sy’n eiddo i’r landlord yn effeithio ar y modd y gallwch chi ddefnyddio a mwynhau eich cartref. Er enghraifft, os nad oedd eich landlord wedi cynnal a chadw’r peipiau yn atig eich bloc o fflatiau a bod dŵr wedi gollwng i mewn i’ch cartref ac achosi difrod. Mewn achos o’r fath gallech gymryd camau yn erbyn y landlord ar sail niwsans.

Niwsans statudol

Ddylai eich landlord ddim achosi niwsans statudol. Bydd niwsans statudol yn codi pan fydd eich cartref yn y fath gyflwr nes ei fod yn niweidiol i’ch iechyd, neu os yw’n achosi niwsans.

Gall lleithder a llwydni fod yn enghraifft o gyflwr gwael sy’n niweidiol i iechyd.

Yn gyffredinol mae awdurdodau lleol yn cymryd camau yn erbyn landlordiaid mewn achosion o niwsans statudol.

Rhagor o wybodaeth am gymorth awdurdodau lleol i denantiaid mewn tai cymdeithasol ynghylch niwsans statudol

Deddf Eiddo Diffygiol 1972

Mae rhai dyletswyddau gofal penodol yn ddisgwyliedig gan eich landlord yn ôl y Ddeddf hon. Maen nhw’n cynnwys dyletswydd i atal niwed personol neu ddifrod i eiddo o ganlyniad i ddiffygion yn eich cartref. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i chi, i aelodau eich teulu ac i bobl sy’n ymweld â’ch cartref hefyd.

Y ddyletswydd ddisgwyliedig yw'r rheidrwydd ar eich landlord i atgyweirio neu gynnal a chadw eich cartref, neu fod ganddo hawl i fynd i mewn i’r eiddo i gyflawni gwaith cynnal a chadw neu atgyweiriadau.

Mae’r ddyletswydd yn ddisgwyliedig os yw’r landlord yn gwybod neu y dylai fod yn gwybod am y gwaith atgyweirio, hyd yn oed os nad ydych chi wedi dweud wrtho amdano.

Tai amlfeddiannaeth (HMOs)

Os ydych chi’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth, mae gan y landlord gyfrifoldebau cyfreithiol ychwanegol o ran tân a diogelwch cyffredinol, cyflenwad dŵr a draeniau, nwy a thrydan, gwaredu gwastraff a chynhaliaeth gyffredinol y tŷ amlfeddiannaeth.

Yn gyffredinol mae tŷ amlfeddiannaeth yn cynnwys tai sydd wedi’u rhannu’n fflatiau un ystafell gan rannu cyfleusterau, tai a rennir a fflatiau, hosteli a gwestai gwely a brecwast sy’n gartref i fwy nag un aelwyd.

Bydd angen trwydded hefyd ar rai tai amlfeddiannaeth.

Rhagor am HMOs

Diogelwch yn eich cartref

Mae gan eich landlord gyfrifoldebau penodol am ddiogelwch nwy a thrydan, dodrefnu ac asbestos.

Gwneud addasiadau os ydych chi’n anabl

Os ydych chi’n anabl, gall fod yn ddyletswydd ar eich landlord i wneud addasiadau rhesymol os byddwch yn gofyn amdanyn nhw. Er hynny, does dim rhaid i’ch landlord wneud unrhyw beth fyddai’n galw am dynnu neu ailwampio nodweddion ffisegol.

Mae rhagor o wybodaeth yma am ofyn i’ch landlord wneud addasiadau rhesymol.

Camau nesaf

Opsiynau ar gyfer ymdrin ag atgyweiriadau i denantiaid tai cymdeithasol

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.