Pa fudd-daliadau i’w hawlio os ydych chi’n sâl neu’n anabl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y cewch chi hawlio budd-daliadau:

• os ydych chi’n cael anhawster i wneud tasgau bob dydd neu i fynd o gwmpas

• os ydych chi’n methu gweithio am eich bod yn sâl neu’n anabl

• os ydych chi ar incwm isel neu os ydych chi heb incwm

Os aethoch chi’n sâl neu eich bod wedi cael anaf yn y gwaith

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB). Gallwch hawlio IIDB ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o fudd-daliadau anabledd eraill. Gwirio a allwch chi hawlio IIDB.

Os aethoch chi’n sâl neu eich bod wedi cael anaf yn y Lluoedd Arfog

Efallai y gallwch hawlio:

• un taliad o iawndal gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu Gynllun y Pensiwn Rhyfel

• pensiwn neu Daliad Incwm Gwarantedig

• Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Gallwch wirio beth allwch chi ei hawlio os aethoch chi’n sâl neu os cawsoch chi anaf yn y Lluoedd Arfog yn GOV.UK.

Os ydych chi’n cael anhawster i wneud tasgau bob dydd neu i fynd o gwmpas

Efallai y gallwch hawlio:

• Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os ydych chi dan 16 oed – gwiro a allwch chi hawlio DLA

• Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ond heb gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth eto – gwirio a allwch chi hawlio PIP

• Lwfans Gweini os ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth – gwirio a allwch chi hawlio Lwfans Gweini

Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Os oes rhywun yn gofalu amdanoch

Os ydych chi’n derbyn PIP, DLA neu Lwfans Gweini, gallwch wirio a gaiff y person sy’n gofalu amdanoch chi hawlio Lwfans Gofalwr.

Os ydych chi’n methu gweithio am eich bod yn sâl neu’n anabl

Os ydych chi’n cael eich cyflogi ond yn methu gweithio, fel rheol byddwch yn derbyn Tâl Salwch Statudol (SSP) gan eich cyflogwr am 28 wythnos – gwirio a allwch chi hawlio SSP.

Dylech wirio i weld a allwch chi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA):

• os ydych chi’n cael eich cyflogi ond yn methu hawlio SSP – er enghraifft am fod eich cyflog yn rhy fach

• os yw eich SSP wedi gorffen

• os nad ydych chi’n gyflogedig

Os ydych chi ar incwm isel neu os nad oes gennych chi incwm o gwbl

Dylech wirio a allwch chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n methu gweithio, dylech gael ‘nodyn ffitrwydd’ gan eich meddyg teulu ac anfon y nodyn gyda’ch ffurflen hawlio. Gwiriwch sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio ar gyfer pobl sy’n sâl neu’n anabl.

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau eraill er enghraifft:

• Credyd Pensiwn os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth – gwirio a oes modd i chi hawlio Credyd Pensiwn

• Gostyngiadau’r Dreth Gyngor os ydych chi’n talu’r Dreth Gyngor – gwirio a oes modd i chi gael Gostyngiad

• Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) os ydych chi’n chwilio am waith – gwirio a oes modd i chi hawlio JSA

Hefyd gallwch wirio pa gymorth arall sydd ar gael.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020